Delwedd:Y Fari Lwyd fodern.webmsd.webm
Y_Fari_Lwyd_fodern.webmsd.webm (WebM audio/video file, VP8/Vorbis, length 1m 57e, 718 × 404 pixels, 205 kbps overall, file size: 2.87 MB)
Cân y Fari Lwyd; recordiad gan Amgueddfa Werin Cymru. Gweler: [1].
Tâp AWC 7. Recordiwyd Hydref 1953 gan William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g. 1883), Woodlands, Brynmenyn, ger Pen–y–bont ar Ogwr, Sir Forgannwg. Hyd at tuag 1933 arferai WMR weld gwŷr yn 'canu gwaseila', gan ddwyn y Fari Lwyd allan, yn y pentrefi i'r gogledd ddwyrain o Ben–y–bont (Coety, Bryncethin, etc.).
Y mae'r saith bennill a roir yn y gyfrol hon yn cynrychioli rhan agoriadol defod y Fari Lwyd, pan ganai'r parti y tu allan i'r drws gyfres o benillion traddodiadol. Yna dôi'r 'pwnco', sef y ddadl (a genid ar yr un dôn, mewn cyfuniad o benillion traddodiadol a rhai ‘difyfyr’) rhwng aelod o'r parti a gwrthwynebydd y tu arall i'r drws. Fel arfer, ceid tynnu coes yn lled galed wrth i'r naill ochr ddifrio'r llall am ei ganu angherddgar, ei feddwdod, ei grintachrwydd, etc. Disgwylid i griw'r Fari Lwyd drechu yn y ddadl cyn ennill mynediad i'r tŷ a chael yno gacenni a diod ac, o bosibl, rodd ariannol. Weithiau, o leiaf, wedi terfynu'r 'pwnco', canai'r parti benillion ychwanegol yn cyflwyno'r holl aelodau ac yr oedd hefyd gân ffarwél y gellid ei chanu wedi'r tipyn difyrrwch ar yr aelwyd. Yn ôl pob golwg, ar fesur triban ac ar dôn wahanol yr oedd y ddwy gân olaf.
Trwydded[golygu | golygu cod]
|
Trwyddedir y gwaith hwn o dan drwydded Athreuliad 3.0 Creative Commons. |
Hanes y ffeil
Cliciwch ar ddyddiad / amser i weld y ffeil fel ag yr oedd bryd hynny.
Dyddiad / Amser | Bawdlun | Hyd a lled | Defnyddiwr | Sylw | |
---|---|---|---|---|---|
cyfredol | 17:37, 23 Ionawr 2016 | 1m 57e, 718 × 404 (2.87 MB) | Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau) | Cân y Fari Lwyd; recordiad gan Amgueddfa Werin Cymru. Gweler: [http://www.amgueddfacymru.ac.uk/casgliadau/caneuongwerin/?id=2|yma]. Tâp AWC 7. Recordiwyd Hydref 1953 gan William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g. 1883), Woodlands, Brynmenyn, ger... |
Ni allwch drosysgrifo'r ffeil hon.
Cysylltiadau'r ffeil
Mae'r 3 tudalennau a ddefnyddir isod yn cysylltu i'r ddelwedd hon:
- Y Fari Lwyd
- Delwedd:Y Far Lwyd 444.webmsd.webm (tudalen ffeil sy'n ailgyfeirio)