Delia Derbyshire
Gwedd
| Delia Derbyshire | |
|---|---|
| Ganwyd | 5 Mai 1937 Coventry |
| Bu farw | 3 Gorffennaf 2001 Northampton |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfansoddwr, peiriannydd, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, electronic musician |
| Cyflogwr | |
| Arddull | cerddoriaeth electronig |
| Gwefan | http://www.delia-derbyshire.org/ |
Cerddor, cyfansoddwraig musique concrète a mathemategydd o Loegr oedd Delia Ann Derbyshire (5 Mai 1937 – 3 Gorffennaf 2001)[1] Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ddyfeisio'r dôn thema i gyfres y BBC, Doctor Who.[2]
Cafodd ei geni yn Coventry, yn ferch i Emma (née Dawson) ac Edward Derbyshire. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Rhamadeg Barr's Hill ac yng Ngholeg Girton, Caergrawnt. Priododd David Hunter ym 1974.[3] Fe wnaethant wahanu ond byth ysgaru. Wedyn, bu’n byw gyda phartner arall, Clive Blackburn.
Bu farw yn 64 oed, o fethiant yr arennau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hodgson, Brian (7 Gorffennaf 2001). "Obituary: Delia Derbyshire". The Guardian (yn Saesneg).
- ↑ Wrench, Nigel (18 Gorffennaf 2008). "Lost tapes of the Dr. Who composer". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2008.
- ↑ Register of Marriages. Northumberland West 1. General Register Office for England and Wales. Oct–Dec 1974. p. 1761.