Deimos (lloeren)
Gwedd
| Enghraifft o: | lleuad o'r blaned Mawrth |
|---|---|
| Màs | 1.48 ±0.04 |
| Dyddiad darganfod | 12 Awst 1877 |
| Echreiddiad orbital | 0.0002 |
| Radiws | 6.27 ±0.07 cilometr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0hs53 |
Mae Deimos (Groeg Δείμος , "ofnadwyaeth") yn un o ddwy loeren y blaned Mawrth. Mae'n llai na'i chwaer Phobos ond yn bellach i ffwrdd, 14,600 milltir oddi wrth y blaned Mawrth. Mae ganddi siâp hirsgwar afreolaidd. Mae'n cymryd 30 awr 18 munud i gylchdroi oddi amgylch y blaned sy'n golygu y byddai'n weladwy am 2.5 diwrnod Mawrthaidd. Fel yn achos Phobos, brithir wyneb Deimos â chraterau. Cuddir y wyneb gan haen o regolith sydd â dyfnder o tua 50m. Mae Deimos wedi ei enwi ar ôl un o feibion Ares (Mawrth) ym mytholeg Roeg.

a Deimos
dros Begwn Gogledd y blaned Mawrth: Deimos yw'r lleiaf, ar y dde (llun gwneud)