Deian Gwynne
| Deian Gwynne | |
|---|---|
| Ganwyd | 2 Chwefror 2006 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
| Taldra | 189 centimetr |
| Chwaraeon | |
Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymro yw Deian Gwynne (ganwyd 2 Chwefror 2006).[1] Yn 2026, roedd e'n chwarae ar gyfer Rygbi Caerloyw a thîm dan 20 Rygbi'r Undeb Cenedlaethol Cymru.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Yn wreiddiol o Aberystwyth, addysgwyd yn Ysgol Penllwyn, Capel Bangor ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig. Chwaraeodd rygbi iau ar gyfer Clwb Rygbi Aberystwyth o'r tîm dan 7 i dan 16.[2] Roedd ei dad a'i ewythr yn chwarae rygbi i Glwb Rygbi Aberystwyth.
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Roedd yn aelod o Academi Rygbi'r Scarlets.[3] Ymunodd ag academi hŷn Rygbi Caerloyw ym mis Mai 2024.
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Roedd yn aelod o dîm dan 18 Cymru cyn chwarae i dîm dan 20 Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad dan 20 yn 2025. Yn 2026, capteiniodd dîm dan 20 Cymru ar y cyd gyda Steffan Emmanuel ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad dan 20.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Player | Deian Gwynne | Gloucester Rugby". www.gloucesterrugby.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Chwefror 2026.
- ↑ "Aberystwyth's Deian Gwynne starts for Wales U20s against France". Cambrian News (yn Saesneg). 30 Ionawr 2025. Cyrchwyd 7 Chwefror 2026.
- ↑ "The unknown Welsh players in England you're set to hear a lot more about". Wales Online (yn Saesneg). 2024-12-01. Cyrchwyd 7 Chwefror 2026.
- ↑ "Under-20s Six Nations 2026: Emanuel and Gwynne to co-captain Wales". BBC Sport (yn Saesneg). 22 Ionawr 2026. Cyrchwyd 7 Chwefror 2026.