Deial haul
![]() | |
Math | offeryn seryddol, cofeb fach, offeryn, cerflun ![]() |
---|---|
Yn cynnwys | mynegfys, deial ![]() |
![]() |

Dyfais sy'n dangos faint yw hi o'r gloch trwy defnyddio cysgod a deflir gan yr haul yw deial haul. Mae gan ddeial haul ddwy ran hanfodol: deial wedi'i raddnodi a mynegfys (neu gnomon), sef pwyntydd sy'n bwrw'r cysgod dros y deial. Gall deialau haul gymryd sawl ffurf, ond y ddau fath mwyaf cyffredin yw'r math llorweddol, sydd fel arfer yn sefyll ar biler tua llathen o uchder mewn man agored megis gardd, a'r math fertigol, sydd fel arfer wedi'i leoli'n uchel ar wal adeilad.[1]
Wrth i'r Haul ymddangos fel petai'n symud drwy'r awyr yn ystod y dydd, bydd y cysgod a deflir gan y mynegfys yn alinio â rhyw linell wedi'i nodi ar y deial. Mae pob llinell ar y deial yn cyfateb i'r awr o'r dydd. Gall y mynegfys fod triongl solet neu wialen denau: y peth pwysig yw ei fod yn taflu cysgod syth. Rhaid i ymyl syth y mynegfys fod yn gyfochrog ag echelin y Ddaear er mwyn i'r deial haul fod yn gywir trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal, rhaid i ongl yr ymyl syth o'r llorweddol fod yn hafal i ledred y dyfais ar wyneb y Ddaear. Mae safle'r cysgod yn cyfateb i amser ymddangosol yr haul.
Er bod deialau haul yn dioddef o'r anfantais amlwg na ellir eu defnyddio yn ystod y nos, neu ar ddiwrnodau cymylog heb heulwen, maent yn weddol gywir. Fodd bynnag, ac eithrio ar bedwar diwrnod penodol o'r flwyddyn maent naill ai'n fuan neu ar ôl hyd at tua 16 munud. Mae'r amrywiad hwn o amser sy'n hollol gywir yn cael ei amlinellu gan y cymhwysiad amser.

Anfantais arall yw bod yr hyn y mae deialiau haul yn ei ddangos yw amser lleol. Yn ôl yr haul, mae hanner dydd yng Nghaerdydd yn cyrraedd tua 12 munud yn hwyrach na hanner dydd yn Llundain oherwydd cylchdroi'r Ddaear. Yn yr oes a fu, ni greodd hyn unrhyw broblem, ond roedd y byd modern o gyfathrebu di-oed yn gofyn am ddefnyddio un gylchfa amser ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, sef Amser Safonol Greenwich. Mae yr un peth yn wir am bob gwlad arall, er y gellir rhannu gwledydd mwy yn ddau neu ragor o gylchfaoedd.
Canlyniad yr anfanteision hyn yw bod deialau haul, sydd bellach â gwerth cyfyngedig fel dyfeisiau ar gyfer cadw amser, yn wrthrychau addurnol neu o ddiddordeb hanesyddol.
Oriel
[golygu | golygu cod]- Rhai deialau haul yng Nghymru
-
Deial haul llechen ym mynwent Eglwys Llanllechid, Gwynedd
-
Deial haul efydd yng Ngerddi Dyffryn, Bro Morgannwg. Noder y cymhwysiad amser ("The Equation of Time").
-
Deial haul gydag arysgrif ar wal Eglwys Cybi Sant, Caergybi
-
Deial haul ar wal plasdy Botryddan, ger Rhuddlan, Sir Ddinbych
-
Deial haul sydd â chynllun gwreiddiol gan Wendy Taylor (1987) yn Ardal Forwrol, Abertawe
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) sundial. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Ebrill 2025.