Defnyddiwr:Twm Elias/Anifeiliaid amrywiol

Oddi ar Wicipedia

Copiwch a gludwch y canlynol i'r erthyglau gyfatebol os gwelwch yn dda. Gallwch ddefnyddio [[Cromfachau]] i greu dolen i erthyglau eraill.

Mae'r canlynol wedi'u cyhoeddi yng Ngwyddoniadur Cymru, Gwasg y Brifysgol. Yr hawlfraint: Twm Elias.

Afanc[golygu | golygu cod]

Enw modern ar yr anifail dŵr (Castor fiber). Ei hen enw oedd “llostlydan” ac yng Nghyfraith Hywel rhoid gwerth uchel i'w groen - 120 ceiniog o'i gymharu â 24 ceiniog am groen bele goed, blaidd a llwynog - oedd efallai yn dynodi ei brinder. Dywed Gerallt Gymro yn 1188 mai Afon Teifi oedd ei gynefin olaf ym Mhrydain. Tebyg iddo ddarfod yng Nghymru yn y 13g. Yr Afanc oedd enw'r anghenfil dŵr chwedlonol dynnwyd o Lyn yr Afanc yn Afon Lledr, Betws-y-coed gan yr Ychain Banog a'i lusgo hyd at Lyn y Ffynnon Las.


Amffibiaid[golygu | golygu cod]

Chwe rhywogaeth yn frodorol i Gymru yn cynnwys y llyffantod a'r madfallod. Y llyffant melyn / broga (Rana tempraria) yw'r mwyaf adnabyddus ac eang ei ddosbarthiad. Llawer o gyfeiriadau llên gwerin ato a'r clystyrau grifft mewn pyllau yn Chwefror a Mawrth yn un o arwyddion y gwanwyn. Lliwiau'r oedolyn - tywyll ar gyfnod glawog a melyn ar gyfnod heulog yn arwyddion tywydd traddodiadol i'r cynhaeaf. Gorchuddir y llyffant dafadennog (Bufo bufo) â chwarennau gwenwynig a manteisiai gwrachod ar y cyffuriau ynddynt ar gyfer swynion ac i gyfleu'r teimlad o hedfan. Collwyd llyffant y twyni (Bufo calamita) o Gymru yn y 1970au ond fe'i hailgyflwynwyd i safleoedd addas yn ddiweddarach.

Y fadfall ddŵr balmwyddog (Triticus helveticus) yw'r fwyaf cyffredin trwy Gymru ac i'w chael mewn pyllau yn uchel yn y mynydd-dir mewn rhai ardaloedd. Y fadfall ddŵr gyffredin (T. vulgaris) a'r fadfall ddŵr gribog (T. cristatus) yn fwy i'r dwyrain a'r tiroedd gwaelod.

Bele goed[golygu | golygu cod]

(Martes martes), creadur cigysol prin iawn yng Nghymru ac eithriadol o swil. Cyfeiriad cynnar ato o'r Hen Ogledd:

                                     Pais Dinogad fraith fraith
                                     O grwyn balaod ban wraith (Anhysbys, 8g?)

Ei groen yn amrywio yn ei werth, 24 neu 28 ceiniog, yng Nghyfraith Hywel. Cafodd ei hela bron i ddifodiant yn yr 19g. Ei gadarnleoedd presennol yw coedwigoedd conifferaidd a chreigleoedd coediog yn Eryri a Chlwyd yn bennaf, a chofnodion gwasgaredig o'r Canolbarth a'r De-orllewin.

Cathod gwyllt a dof[golygu | golygu cod]

Y gath wyllt (Felis sylvestris) i'w chael yn ardaloedd gwylltaf Cymru tan ddiwedd y 18g. Cafodd ei difa pan ddaeth gynnau'n gyffredin a chiperiaid i warchod helfeydd y stadau. Cyfyngedig i Eryri a'r canolbarth erbyn 1850 a thebyg mai'r cofnod olaf o'r brîd pur yw un o Aber-miwl yn 1862. Er hynny, goroesodd rhai cathod fferal â nodweddion corfforol y gath wyllt ynddynt hyd ddechrau'r 20g. Anodd dilyn eu hanes i sicrwydd oherwydd cymysgedd ynglþn â'r enwau, h.y. gallasai “cath goed”/”cath wyllt” mewn Cofnodion Plwyfi weithiau gyfeirio at gathod fferal a ffwlbartod.

Y gath ddof (Felis domesticus) yn werthfawr yng Nghyfraith Hywel am iddi amddiffyn yr ysguboriau rhag plaon llygod. Llên gwerin yn ei chysylltu ag arwyddion tywydd; gwrachod y tybid y gallasent drawsffurfio eu hunain yn gathod, ac ystyrid y gallasai arwyddo hynt enaid ymadawedig i'r Nefoedd neu i Uffern.

Ers diwedd y 1970au amlhaodd adroddiadau am gathod anferth tebyg i'r panther neu lewpard du, piwma a.y.b., yng nghefn gwlad Cymru, e.e. Bwystfil y Bont, Bwystfil Ton-mawr, Bwystfil Brechfa. Posib iddynt ddianc, neu gael eu rhyddhau o gasgliadau preifat i osgoi gofynion Deddf Anifeiliaid Peryglus 1976.

Ceirw[golygu | golygu cod]

Hyd yr 16g parhâi'r carw coch (Cervus elephas) a'r iwrch (C. capreolus) yn gyffredin yn yr ucheldiroedd, ond yn sgîl clirio coedwigoedd a dyfodiad y gwn prinhaodd y ddau, gan ddiflannu o'r gwyllt ddechrau'r 18g. Cawsant loches mewn parciau stadau, o ble y dihangodd amryw o bryd i'w gilydd. Ceir cofnodion gwasgaredig o'r carw coch tra cynydda ac ymleda'r iwrch o'r dwyrain. Enwau lleoedd: Cerrig yr Iwrch (Meirion), Llyn Carw (Brycheiniog).

Cyflwynwyd y carw danas (C. dama) i Brydain gan y Normaniaid a daeth i barciau stadau yng Nghymru tua 1600. Dihangodd rhai, e.e. o'r Gelli Aur yn y 1950au a Nannau yn 1962 gan sefydlu'n llwyddiannus yn y gwyllt. Erbyn hyn fe'u ceir ym Meirion, Clwyd, y Gororau, Morgannwg a Chaerfyrddin.

Yn hanner ola'r 20g ymledodd y carw mwntjac (Muntiacus reevesi) i Gymru. Daeth i Barc Woburn o Tsieina yn nechrau'r 20g o ble y dihangodd ac ymledu'n gyflym.

Cwningen[golygu | golygu cod]

(Oryctolagus cuniculus). Cyflwynwyd i Gymru gan y Normaniaid tua 1300 a'u magu am eu cig a'u crwyn ar ynysoedd neu mewn gwning-gaerydd ar dwyni tywod arfordirol. Gwelir “Gwningaer” a “Warin” mewn enwau lleoedd. Yn y 18g cadwai amryw o stadau gwledig eu gwning-gaerydd, ond er i gwningod ddianc i diroedd amaethyddol cyfagos ni ddaethant yn niferus iawn tra parhâi'r gath wyllt, ffwlbart, bele ac adar ysglyfaethus yn gyffredin. Yna, wrth i'r creaduriaid hyn gael eu difa gan giperiaid yn yr 19g, cynyddodd y cwningod yn bla erbyn dechrau'r 20g. Daliai cwningwyr proffesiynnol hwy gyda ffureti, trapiau, a “rhwyd fawr” mewn cae yn ystod nos. Allforiwyd 3 miliwn o wningod o Ddyfed bob blwyddyn yn y 1940au, ar drenau i Lundain a dinasoedd eraill.

Pan ddaeth y clwy cwningod (myxomatosis) yn 1955, lladdwyd 99% o'u poblogaeth yng Nghymru. Bu adferiad graddol ers hynny ond dichon na chynyddant i'r niferoedd blaenorol.

Ffwlbart[golygu | golygu cod]

(Mustela putorius), yn gyffredin trwy Brydain ar un adeg ond yn gyfyngedig i Eryri a Chanolbarth Cymru erbyn dechrau'r 20fed ganrif. Wrth i gipera leihau o'r 1920au, a thrapio cwningod leihau o'r 1950au cynyddodd yn gyflym. Bellach yn gyffredin trwy Gymru ac yn ymledu trwy ganolbarth Lloegr. Fe'i croeswyd â'r ffured ddof i greu'r “ffured ddu” sy'n ddiguro ar gyfer hela cwningod a difa llygod mawr. Dywedir: “yn drewi fel ffwlbart”, “yn ddiog fel ffwlbart”.

Gafr[golygu | golygu cod]

(Capra hircus). Ysgrifennodd Gerallt Gymro yn 1188 fod mynyddoedd Eryri yn llawn geifr a defaid, a than y 16g y geifr oedd fwyaf cyffredin yno. Gwneid caws o'u llefrith, canhwyllau o'u braster, a sychid eu cig, “coch yr wden”, ar gyfer y gaeaf. Trwy bori'r creigleoedd cadwai'r geifr y gwartheg o leoedd peryglus.

Lleihaodd cadw geifr gyda dirywiad y gyfundrefn hafod a hendre a chau tiroedd comin pan gyflwynwyd diadelloedd enfawr o ddefaid i'r mynydd-dir yn y 18g. Parhaodd rhai ffermydd i gadw niferoedd bychain o eifr gyda'u gwartheg i'r 1950au, am eu caws ac am y credid yr arbedid y gwartheg rhag erthylu.

Yng nghreigleoedd Eryri erys diadelloedd o eifr sy'n ddisgynyddion o'r geifr dof gwreiddiol ond fu'n byw yn wyllt ers amser maith. Ceir caneuon traddodiadol am gyfri'r geifr, e.e. “Oes gafr eto?”

O'r geifr Kashmir gyflwynwyd i'r Gogarth yn y 19g y daw masgotiaid y Ffiwsilwyr Gymreig.

Morloi[golygu | golygu cod]

Y morlo llwyd (Halichoerus grypus) yn bridio mewn ogofau ar arfordiroedd ac ynysoedd Penfro, Ceredigion, Llþn a Môn. Yn weddol brin ddechrau'r 20g oherwydd fe'u difawyd gan bysgotwyr a'u hela o ran difyrrwch. Cynyddodd eu niferoedd yn sgïl Deddf i'w gwarchod yn 1932 a throi ynysoedd Penfro yn warchodfeydd natur.

Crwydrodd rhai morloi ifanc, a anwyd ac a fodrwywyd ym Mhenfro, cyn belled â Môn, gorllewin Iwerddon, Cernyw, Llydaw a Gwlad y Basg. Weithiau nofia morlo i fyny afonydd, e.e. Glaslyn, Tywi, er mawr bryder i bysgotwyr eogiaid. Ystyrir eu galwadau cwynfanllyd yn arwyddion tywydd gan drigolion yr arfordir. Cyfeirir at forloi mewn enwau lleoedd, e.e. Ogo'r morloi (Enlli), Ynysoedd y moelrhoniaid (Môn).

Prin iawn yw cofnodion o'r morlo cyffredin (Phoca vitulina) yng Nghymru - fe'i gwelir yn Sianel Bryste yn bennaf. Cafwyd corff morlo ysgithrog neu walrws ar draeth Cefn Sidan, Tachwedd 1986.

Ymlusgiaid[golygu | golygu cod]

Pump rhywogaeth o ymlusgiaid yn frodorol i Gymry yn cynnwys dwy neidr, a thair madfall. Y neidr wair (Natrix natrix) yn weddol eang ei dosbarthiad a'r wiber (Vipera berus) wenwynig yn fwy arfordirol. Llawer o gyfeiriadau llên gwerin at wiberod, e.e. eu gallu i rowlio'n gylch i lawr allt. Gwiber Penhesgyn yn fath o ddraig / sarff anferth reibus chwedlonol (Môn).

Y neidr ddefaid (Anguis fragilis) yn fadfall ddi-goes, a'r madfall cyffredin (Lacerta lacerta), yn eang eu dosbarthiad. Ceir llawer o enwau lleol ar y madfall cyffredin, e.e. cena pry gwirion (Llþn), Galapi wirion (Môn), gena goeg (Clwyd), motrywilen a botrywilen (Dyfed). Collwyd madfall y tywod (L. agilis) o Gymru am gyfnod byr ar ddiwedd yr 20g, ond fe'i hailgyflwynwyd i safleoedd addas.

Cofnodwyd crwbanod môr ar draethau Cymru yn achlysurol, yn cynnwys y crwban môr cefn-lledr (Dermochelys coriacea) anferth ar Forfa Harlech yn 1988 a arddangosir bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Ysgyfarnog[golygu | golygu cod]

(Lepus europaeus). Cyfeiriadau niferus mewn chwedlau, e.e. yn Chwedl Taliesin trodd Gwion Bach yn ysgyfarnog i ddianc rhag Ceridwen, a chafodd ysgyfarnog loches rhag yr helfa ym mhlygion gwisg Melangell. Cofnododd Gerallt Gymro, yn 1188, y goel y gallasai gwrach droi'n ysgyfarnog i ddwyn llaeth y gwartheg a cheir amryw fersiwn leol ohoni o'r 19g. Dehonglid y modd y rhedai ysgyfarnog i olygu lwc, anlwc, rhybudd neu farwolaeth ac o'i gweld dylsai gwraig feichiog orchuddio ei cheg rhag i'w phlentyn gael ei eni â thaflod y geg yn hollt.

Arferid ei hela â milgwn neu ei dal mewn “rhwyd gae” i wneud stiw blasus. Enwau eraill arni: ceinach, pry. Cyfeirir at hela'r pry yn y gân werin “Bonheddwr Mawr o'r Bala”.

Cyflwynwyd yr ysgyfarnog fynydd (L.timidus) o'r Alban i ucheldiroedd Eryri a'r Canolbarth yn yr 19g. Posib bod nifer fechan o'u disgynyddion yn dal ar y Carneddau hyd heddiw.

Ystlymod[golygu | golygu cod]

(Chiroptera) O'r 16 rhywogaeth o'r mamaliaid hedegog hyn ym Mhrydain cofnodwyd 12 ohonynt yng Nghymru yn cynnwys yr ystlum lleiaf, ystlum hirglust, ystlum mawr, ystlum Natterer, ystlum barfog, ystlum Brandt, ystlum y dŵr, ystlum pedol mwyaf, ystlum pedol lleiaf, ystlum du, ystlum adain lydan ac ystlum Leisler.

Yr ystlym lleiaf a'r hirglust yw'r mwyaf cyffredin ac yn ddibynnol iawn ar adeiladau i glwydo ynddynt. Ystlymod pedol yn brin iawn, a'u cadarnleoedd Ewropeaidd yn ogystal â Phrydeinig yng Nghymru a'r Gororau. Oherwydd i ystlymod yn gyffredinol brinhau yn arw yn ystod yr 20g maent oll dan warchodaeth gyfreithiol lem erbyn hyn. Yng Nghymru ystyrid gweld ystlymod yn arwydd o lwc dda a phriodas cyn pen y flwyddyn, ond yn anlwcus yn rhai ardaloedd os ehedent o gylch y pen. Roedd coel gyffredin - ond di-sail - y buasent yn mynd yn sownd yn y gwallt. Yn arwydd o dywydd braf os yn hedfan yn gynnar gyda'r nos.

CŴN[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau niferus yn y Mabinogi - at helgwn yn bennaf. Yng Nghyfraith Hywel enwir y gellgi (helgi ceirw), milgi, bytheaid, bugeilgi a'r costog (gwarchodgi). Rhaid oedd i wŷr rhyddion borthi cŵn a meirch y brenin ar ei gylchdaith - arfer y gwelwyd cysgod ohono yn yr amod mewn aml gytundeb fferm hyd yn ddiweddar fod tenantiaid i gadw helgwn eu meistr tir.

Datblygwyd cŵn i amryw ddibenion:

Helgwn - bytheaid neu helgi Cymreig yn grychflew, a thorgoch yn wreiddiol. Cedwid pac ohonynt i hela ceirw a baeddod gwylltion yn y canoloesoedd, ond i ddifa llwynogod erbyn heddiw, gyda'r helwyr ar geffylau, neu ar droed - fel yn Eryri.

Daeargwn - y daeargi Cymreig torgoch i dyrchu ar ôl llwynogod ac i ladd llygod mawr. Ci sioe rhyngwladol bwysig erbyn hyn. Y daeargi Sealyham gwyn o Benfro bellach yn brin. O'r Sealyham x Scottie y magwyd y daeargi Cesky yng Ngweriniaeth Tsiec.

Cŵn adar / Adargwn - [Sbaengi (sbaniel)]; y tafrgi Cymreig (Welsh springer) yn hen frîd i leoli a chodi'r gêm a chario'n ôl aderyn a saethwyd. Y cocker Cymreig (Welsh cocker) yn amrywiad ond heb ei gydnabod yn frîd ar wahân. Roedd setiwr Llanidloes (Llanidloes setter) â'i gôt wen gyrliog yn amrywiad lleol yn y 19g. Bugeilgwn - i amddiffyn yn ogystal â rheoli'r preiddiau yn y canoloesoedd. Yn Chwedl Culhwch ac Olwen: “bugail a'i afaelgi blewog, oedd yn fwy na cheffyl nawmlwydd….na chollodd oen erioed heb sôn am (ddafad)”. Cyn amgau tiroedd arweiniai'r cŵn y preiddiau yn y bore a'u gyrru'n ôl i gorlannau yn y prynhawn a'u gwarchod dros nos.

Ceid sawl math o fugeilgwn Cymreig - y ci llwyd â'i gôt hirflew galed ddaeth yn boblogaidd ymysg porthmyn i gerdded defaid a gwartheg i Loegr; y torgoch - yng Nghanolbarth Cymru'n bennaf, a'r bugeilgi mawr coch neu las. Gyda dyfodiad y rheilffyrdd o'r 1840au, pan ddaeth agen gwell rheolaeth i drycio anifeiliaid, a chau tiroedd mynydd yn yr 1850au - 70au pan leihaodd yr angen am fugeilio, graddol ddisodlwyd y bugeilgwn gan y coli Albanaidd. Arweiniodd treialon cðn defaid, a gychwynnwyd ym Mhrydain gan Stad Rhiwlas, Y Bala yn 1873, at boblogeiddio'r coli ymhellach ac o ganlyniad aeth y bugeilgi Cymreig yn brin erbyn hanner ola'r 20g. Adferwyd diddordeb ynddynt er pan sefydlwyd y Gymdeithas Cŵn Defaid Cymreig yn 1997. Y brîd yn amrywiol iawn o ran lliw a maint, a'r blewyn yn hir neu fyr. Yn gŵn mawr cryfion a nodweddir gan ddull o weithio sy'n wahanol i'r coli - dim setio ond gwasgu ar y defaid gan gyfarth a dal y gynffon yn uchel.

Aethpwyd â chŵn llwydion hirflew Cymreig i Batagonia ddiwedd y 19g, lle'u hadnabyddir heddiw fel y “barboucho” a cheir gwaed y bugeilgi Cymreig yng nghŵn defaid Awstralia – y ‘kelpie'.

I yrru gwartheg defnyddiai'r porthmyn gŵn mawr cryfion allasai gerdded ymhell ac amddiffyn eu meistr rhag lladron. Datblygwyd corgwn i sodli gwartheg i'w symud yn lleol. Corgi Ceredigion yn frowngoch a gwyn, neu las a gwyn, â chynffon hir. Corgi Penfro â chynffon fer.

Erbyn heddiw addaswyd llawer o fridiau, hen a newydd, yn gŵn anwes pedigri i'w harddangos mewn Sioeau. Un enw ar gi anwes bychan yn Gymraeg yw ci rhech, yn seiliedig ar ddychymyg y werin bobl am fioneddiges rwysgfawr mewn parti uchel-ael, â chi bychan ar ei braich: petai hi yn rhoi rhech gallasai roi'r bai ar y ci.

DOFEDNOD[golygu | golygu cod]

Daeth ieir a gwyddau i Brydain yn y cyfnod Celtaidd; hwyaid gyda'r Normaniaid a thyrcwn yn yr 16g. Megid ieir yn wreiddiol cymaint ar gyfer ymladd ceiliogod ag am eu hwyau a'u cig. Parhaodd ymladd yn boblogaidd, mewn talyrnau pwrpasol, tan ei anghyfreithloni yn 1849. Datblygwyd nifer fawr o wahanol fridiau o ieir ac fe'u cedwid ar bob fferm, tyddyn a llawer o erddi-cefn pentrefol tan ganol yr 20g. Ers hynny cynyddodd ffermio dwys lle cedwir degau o filoedd o ieir dan do. Ceir llawer o rigymau a choelion am ieir ac erys eu dangos mewn sioeau yn boblogaidd.

Dan Gyfraith Hywel pennid cosb o ŵy ac ailblannu'r cnwd a ddifrodwyd ar berchennog gŵydd a grwydrodd i gae ŷd cymydog. Defnyddid adain gŵydd i hel llwch; y bluen fel cwilsyn ysgrifennu ac i wneud saethau; rhannau o'r llafn mewn offerynnau chwyth neu yn deth i oen amddifad sugno drwyddi a rhoddid y manblu mewn clustogau a gwely plu. Defnyddid saim gŵydd i ystwytho lledr, iro peiriannau ac yn feddyginiaeth i ddyn ac anifail. Cedwid llawer o wyddau ar diroedd comin yn y 18g a cherddwyd llawer ohonynt i Loegr gan borthmyn fyddai'n rhoi pyg a thywod i arbed traed yr adar wrth deithio. Pesgid llawer o wyddau ar gyfer marchnad y Nadolig ac roedd y diwrnod pluo yn achlysur cymdeithasol pwysig cyn i'r twrci eu disodli. Ceir un brîd Cymreig o ŵydd - y Brecon buff.

Adar buarth eraill oedd hwyaid, ieir gini a thyrcwn. Addaswyd y twrci ar gyfer ffermio dwys ac ers canol yr 20g ef yw prif aderyn bwrdd y Nadolig. Cedwid peunod ar rai ffermydd, fel sioe yn bennaf, ond hefyd am eu bod yn lladd nadroedd. Ar ddiwedd yr 20g mentrodd rhai amaethwyr Cymreig gadw estrysod am eu cig a'u plu.

MOCHYN[golygu | golygu cod]

Yn Chwedl Math fab Mathonwy dywed Gwydion fod “anifeiliaid wedi dod i'r De na ddaeth eu bath i'r Ynys hon erioed….moch y'u gelwir”. Arddangosai moch canoloesol lawer o nodweddion cyntefig oherwydd mynych groesiadau â'r baedd gwyllt a ddaliodd ei dir yng nghoedwigoedd Cymru hyd y 15 - 16g. Dan Gyfraith Hywel gosodid dirwyon amrywiol am ddifrod wnâi moch i eiddo cymydog. Gollyngid y moch i'r goedwig o Ŵyl Ifan tan ganol gaeaf, ond wrth i'r coedwigoedd ddiflannu daethant fwyfwy yn anifeiliaid y caeau a'r buarth. Erbyn y 18g ceid amryw fathau - rhai golau yn fwyaf cyffredin, a rhai cochion, duon a smotiog ac oll yn hir eu swch, main eu cefn ac araf i aeddfedu.

Gyda'r chwyldro diwydiannol cynyddodd galw am gig moch yn y dinasoedd a'r porthladdoedd. Cyn dyfodiad y rheilffyrdd cerddai porthmyn lawer ohonynt i Loegr ac elai eraill ar longau, e.e. o Lŷn i Lerpwl. Gwellhaodd y stoc trwy'r 19eg ganrif a daeth y twlc mochyn yn rhan hanfodol o bob fferm a thyddyn hyd at ganol yr 20g. Roedd diwrnod lladd mochyn yn achlysur pwysig pan helltid y cig at y gaeaf a defnyddid “pob rhan o'r mochyn heblaw'r wïch.”

Daeth brîd y mochyn Cymreig yn boblogaidd, ac erbyn y 1980au ef oedd y trydydd mwyaf niferus ym Mhrydain. Gwyn ei liw, gellir ei fagu dan do neu allan, a'i gig o'r safon uchaf gyda ond ychydig o frasder. Cynhyrchu Modern - Mae ffermydd moch yn fawr, gyda llawer yn magu dros 3,000 o foch. Ceir dau brif ddull cynhyrchu - dwys, lle cedwir moch Gwyn Mawr, Cymreig neu Landrace dan do, neu awyr agored, lle cedwir moch cenglog (Saddleback) a Chymreig yn bennaf. Gwerthir moch porc yn 4 - 5 mis oed yn pwyso tua 70kg., moch bacwn a ham oddeutu 90kg., ac aiff moch 100kg neu fwy ar gyfer selsig a phasteiod.

CEFFYLAU[golygu | golygu cod]

Dofwyd ceffylau ym Mhrydain cyn gynhared â'r Oes Neolithig (neu Oes Newydd y Cerrig) ond ni cheir tystiolaeth archaeolegol o'u defnydd mewn harnais hyd yr Oes Efydd. Erbyn yr Oes Haearn ceid ceffylau bychain “Celtaidd”, rhagflaenwyr y merlod mynydd Cymreig, ac addolid Epona - duwies y ceffylau o'r hon y tarddodd y Fari Lwyd bresennol.

Yng Nghyfraith Hywel disgrifir y ceffyl marchogaeth, y pynfarch a'r ceffyl gwaith a dynnai gar llusg neu og. Fel arfer gwaith yr ychain oedd tynnu'r aradr a rhaid oedd aros tan y 18g i'r wedd geffylau eu disodli. Canmola Gerallt Gymro yn 1188 "geffylau Powys" â gwaed Sbaenaidd ynddynt. O'r rhain, a groeswyd â meirch Arabaidd o'r Croesgadau y disgynnodd y cob Cymreig.

Dan Harri'r 8fed gwaharddwyd ceffylau bychain, a thebyg mai codi'r gwaharddiad hwnnw gan Elisabeth 1af a boblogeiddiodd yr enwau Bess a Queen ar gesyg oddi ar hynny. Yn 1740 gwaharddwyd ceffylau bychain o'r caeau rasio a phan ryddhawyd un ohonynt, stalwyn o'r enw Merlin, ar fryniau Rhiwabon, enwyd ei ddisgynyddion, a'u math, yn ferlynnod, merlod, merliwn a.y.b. Bu llawer o ddatblygu ar ferlod a chobiau trwy'r 19g ar gyfer marchogaeth a thynnu cerbydau ysgafn. Roedd galw mawr hefyd am ferlod i'r pyllau glo a chobiau'n geffylau gwaith yn yr ucheldiroedd. Sefydlwyd y Llyfr Gre Cymreig yn 1901 gyda phedair adran:

A - merlod mynydd bychain;
B - merlod;
C - merlod o fath y cob;
D - cobiau, oll o bwys ac enwogrwydd rhyngwladol erbyn heddiw.

Tardda'r ceffylau gwedd o geffylau mawr cryfion y marchogion Normanaidd a enillodd frwydr Hastings i Gwilym Goncwerwr. Bu cryn ddatblygu ar geffylau rhyfel o'u bath dros y 500 mlynedd nesa.

Gyda chwyldroadau diwydiannol ac amaethyddol y 18g addaswyd y ceffylau mawrion i bwrpas amaethyddol a datblygwyd offer amaethyddol penodol ar eu cyfer. Roedd y galw cynyddol am geffylau trymion i dynnu wageni strydoedd yn ysgogiad arall i amaethwyr fagu ceffylau gwedd a chwiliai porthmyn a dilars am barau neu bedwaroedd oedd yn cyd-fynd o ran maint, lliw a phatrwm ar gyfer gwahanol gwmnïau a bragdai a.y.b.. I wella'r stoc llogid stalwyni pedigri o bob cwr o'r deyrnas gan Gymdeithasau Sirol i'w harddangos mewn sioeau ac yna eu gyrru ar gylchdeithiau rheolaidd i wasanaethu cesyg y fro. Allforid llawer o geffylau ifainc i ddinasoedd Lloegr ar y rheilffyrdd a gwrthgyferbynnir effaith economaidd y ceffylau'n gadael a'r arian yn dod i mewn i'r cyfnod diweddarach pan ddeuai tractorau i mewn a'r arian yn mynd allan.

Ar ddechrau'r 20g roedd 175,000 o geffylau gwedd ar waith ar ffermydd Cymru. Gyrrwyd niferoedd mawr ohonynt i Ffrainc yn 1914-18, pan ddaethant eto'n geffylau rhyfel - i dynnu offer brwydro ayb. Daliodd ceffylau eu tir tan y 1950au pan y'u disodlwyd gan dractorau bron yn gyfan gwbwl. Aeth ceffylau gwaith yn eithriadol brin, ond fe'u gwelir o hyd mewn sioeau amaethyddol - wedi eu trimio â rubanau lliwgar a'u rhawn wedi ei blethu.

Mae rasio ceffylau yn dyddio o'r cyfnod Celtaidd ac yr oedd yn ddull pwysig i arddangos doniau'r meirch yn ffeiriau'r canoloesoedd. Daeth yn sbort pwysig ymysg uchelwyr y 18g ac yn gyfrwng iddynt arddangos eu cyfoeth a'u statws trwy fetio a magu ceffylau pedigri drudfawr. Roedd rasio merlod a chobiau yn boblogaidd ymysg ffermwyr a bugeiliaid Ceredigion a sonnir am Nans o'r Glyn, y ferlen gyffredin a drechodd redwyr o lawer gwell pedigri yn y 19g. Uchafbwynt Ffair Geffylau Cymreig fawr Barnet yn y 19g oedd ras geffylau'r porthmyn Cymreig. Cynhelir y "Grand National" Gymreig heddiw ar gae rasio Cas-gwent (Chepstow). Cododd rasio trotian, yn Nhregaron a mannau eraill o'r arfer o arddangos cobiau'n uchelgamu.

Daeth cystadleuthau marchogaeth yn boblogaidd mewn sioeau amaethyddol a bu cynnydd mawr ym mhoblogrwydd merlota yn hanner ola'r 20g.

GWARTHEG[golygu | golygu cod]

Defnyddid gwartheg i aredig cyn gynhared â'r Oes Efydd ac erbyn yr Oes Haearn ceid amryw o fathau, yn cynnwys y fuwch Geltaidd fechan fyrgorn; o'r hon y tarddodd y rhan fwyaf o'r bridiau llaethog modern. Yng Nghyfraith Hywel disgrifir gweddoedd o 2, 4, 6 neu 8 ychen yn tynnu aradr. Roedd gwartheg yn unedau ariannol a thardda'r gair 'cyfalaf' o 'alaf' sef y gair am yrr o wartheg.

Tan y 16 - 17g symudid gwartheg yn dymhorol rhwng hafod a hendre ynghyd â geifr ac ychydig ddefaid, ond erbyn y 18g porid y mynydd-dir bellach gan ddefaid yn unig. Cynyddodd y farchnad i wartheg Cymreig yn Lloegr yn sylweddol wrth i boblogaeth y dinasoedd dyfu'n gyflym trwy'r 18 - 19g. Fe'u cerddwyd gan borthmyn i ffeiriau Canolbarth a De-ddwyrain Lloegr.

Ceid amryw o fridiau Cymreig, e.e. gwartheg Morgannwg, Maldwyn, Môn, Penfro a llawer o amrywiaethau lleol. Hefyd gwartheg gwynion hanner gwylltion Dinefwr a'r Faenol. O'r 1850au, trosglwyddid anifeiliaid yn bennaf ar y rheilffyrdd a newidiodd y galw am anifeiliaid bychan caled i rai mwy a gwell eu cyflwr. Yn raddol, disodlwyd y ffeiriau pentref gan y martiau - a leolid ar fin y rheilffyrdd.

Sefydlwyd Cofrestrau Pedigri i wartheg Penfro yn 1874, a Môn yn 1883, a'u cyfuno yn 1905 i ffurfio Bucheslyfr y Gwartheg Duon Cymreig, sy'n frîd rhyngwladol-bwysig erbyn hyn. Diflannodd gwartheg Morgannwg a Maldwyn ddiwedd y 19g. Trwy'r 20g gwellhaodd ansawdd a chynnyrch bridiau yn sylweddol pan sefydlwyd Cymdeithasau Teirw o 1914, y Bwrdd Marchnata Llaeth yn 1933, ffrwythloni artiffisial o'r 1950au a throsglwyddo embryonau o'r 1990au.

Yn y 1950au gwartheg duon Cymreig gynhyrchai'r rhan fwyaf o'r llaeth ar yr ucheldir a buchesi Byrgorn neu Ayrshire ar dir gwaelod. Cynhyrchid cig yn bennaf trwy groesi'r gwartheg â theirw Henffordd. Erbyn y 1960au roedd buchesi bychain y beudy wedi eu newid am fuchesi mwy o wartheg Friesian-Holstein mewn parlyrau godro, i'w croesi â theirw cyfandirol am gig. Aeth ffermydd yr ucheldir i arbenigo mewn cig eidion a defaid a disodlwyd y tarw Henffordd i groesi gan y Charolais a'r Limousin yn y 1970au - 80au.

Cynhyrchu modern[golygu | golygu cod]

Llaeth - Caiff buchod eu godro â pheiriant mewn parlwr godro ddwywaith y dydd a chedwir y llaeth i'w gasglu gan dancer - lori o hufenfa leol yn ddyddiol neu bob yn eilddydd. Yn y parlwr herringbôn arferol gellir godro oddeutu 20 o wartheg ar unwaith a thros 100 mewn awr. Cyrhaedda cynnyrch llaeth uchafbwynt o tua 40 litr y fuwch y dydd am tua deufis, cyn lleihau'n raddol nes i'r fuwch gael ei hesbio wedi 10 mis, iddi gryfhau cyn dechrau llaetha eto ar enedigaeth ei llo nesa.

Yn y gaeaf cedwir buchod llaeth dan do a'u bwydo â gwair, silwair a dwysfwyd. Dros yr haf byddant yn pori allan a derbyn dwysfwyd wrth odro. Ond erbyn yr 20g ceid ffermydd yng Nghymru lle cedwir y gwartheg dan do drwy gydol y flwyddyn, heb i'r fuwch weld blewyn o laswellt Er mwyn cael llo bob blwyddyn i laetha defnyddir tarw potel o frîd pur neu o frîd cig. Maint y buchesi llaeth yw 60 - 80, gyda dros 80% yn Friesian-Holstein a'r gweddill yn Ayrshire, Jersey a Guernsey.

Cig - O'r 4 - 6 llo gynhyrcha buwch laeth dim ond un, o frîd pur, fydd ei angen i gymryd lle'r fuwch. Felly gall y gweddill fod yn groesiadau â bridiau eraill ar gyfer eu cig. Daw y rhan fwyaf o'r cig a fwytawn felly o'r fuches laeth.

Erbyn y 21g, y bridiau cig pwysicaf yng Nghymru oedd y Du Cymreig, Henffordd, Byrgorn, Aberdeen Angus a'r Charolais, Limousin a Simental cyfandirol. Ceir cig eidion o'r ansawdd orau o'r bridiau cig pur, a cheir sawl dull o'i gynhyrchu. Ar ucheldir Cymru cedwir yr anifeiliaid dan do dros y gaeaf fel arfer, a'u bwydo ar wair neu silwair. Pori allan wnânt dros yr haf a bydd y bustych a'r heffrod yn barod i'w lladd pan fyddant bron yn 300kg.

DEFAID[golygu | golygu cod]

Daeth y defaid cyntaf i Gymru gyda'r mewnfudwyr Oes Newydd y Cerrig (neu Neolithig), 4 - 3,000CC. Pori gan ddefaid, gwartheg a geifr yn dilyn clirio coed o'r cyfnod hwn ymlaen gadwodd dirlun y rhan helaethaf o ucheldiroedd Cymru yn agored i'n dyddiau ni. Datblygodd y symudiad drawstrefol rhwng hafod a hendre erbyn yr Oes Haearn a pharhaodd hyd yr 1870au yn Eryri.

Arloeswyd ffermio defaid ar raddfa fawr gan fynachlogydd y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol a chododd diwydiant gwehyddu cartref o bwys yng Nghymru o ganlyniad. Serch hynny eilradd oedd cadw defaid o gymharu â gwartheg hyd chwyldro amaethyddol y 18 - 19g, pan gaewyd tiroedd comin ar raddfa fawr a sefydlu gyrroedd enfawr o ddefaid ar gynefinoedd mynyddig.

Erbyn dechrau'r 19g roedd y Drenewydd a Dolgellau yn ganolfannau gwehyddu o bwys, a'r Bala ar gyfer gwau, ond wedi dyfodiad y rheilffyrdd bu dirywiad yn wyneb cystadleuaeth allanol. Ar y llaw arall ffynnodd melinau gwlân Dyffryn Teifi â fanteisiodd ar y rheilffordd i gyrraedd marchnad boblog cymoedd diwydiannol De Cymru. Erbyn heddiw dim ond nifer fechan o felinau a erys, yn cynhyrchu brethynnau, gwlanenni a charthenni patrymog. Allforir llawer o wlân Cymreig i wneud carpedi, er i'r farchnad honno leihau yn hanner ola'r 20g yn wyneb cystadleuaeth o ddefnyddiau artiffisial.

Cynnyrch pwysicaf y diadelloedd Cymreig yw cig, gwlân ac anifeiliaid stôr i'w gwerthu ar gyfer eu pesgi neu i'w croesi â hyrddod o fridiau llawr gwlad. Enillodd cig oen Cymru fri rhyngwladol am ei safon a'i flas. Roedd 11.2 miliwn o ddefaid ac ŵyn yng Nghymru ym Mefefin 2000.

O'r 18g ymlaen bu cryn wella ar y bridiau defaid Cymreig; datblygwyd mathau newydd ac arbrofwyd â'r croesiadau cymhwysaf ar gyfer gwahanol amgylchiadau amaethyddol.

Bridiau
Bridiau mynydd Cymreig - yn cynnwys Defaid Mynydd, Defaid Mynydd De Cymru, Defaid Duon Mynydd, Torddu, Penfrith (Beulah), Maesyfed a.y.b. Defaid bychain a gwydn ydynt, yn enwedig y Defaid Mynydd wedi cynefino i'r mynydd-dir agored.
Bridiau Canolig Cymreig / y Gororau - mwy o faint na'r bridiau mynydd, e.e. defaid Kerry a Clun ar y Gororau a Defaid Llŷn a Llanwenog yn rhannau gorllewinol Cymru.
Bridiau croesi - hyrddod llawr gwlad a bridiau canolig yn bennaf. Bridiau poblogaidd llawr gwlad yng Nghymru yw'r Blue faced a Border Leicester, Suffolk, Dorset Down, a.y.b.. Fe'u croesir â'r defaid mynydd i gynhyrchu ŵyn hanner brîd sy'n cyfuno safon uchel cig y bridiau mynydd â maint a graddfa tyfiant uwch y bridiau llawr gwlad / canolig.
Croesiadau - ers canol yr 20g datblygodd y Ddafad Hanner Brîd Gymreig (o'r Ddafad fynydd x Border Leicester) yn frîd newydd. Hefyd y Ddafad Groesryw Gymreig neu "Welsh Mule" (Dafad Fynydd x Blue faced Leicester). Fe'u defnyddir ar dir isel i'w croesi ymhellach â hwrdd brîd llawr gwlad i gynhyrchu ŵyn chwarter brîd.


Cynhyrchu modern[golygu | golygu cod]

Oherwydd amrywiaeth tir, a nifer y bridiau a chroesiadau posib, ceir nifer o wahanol systemau cynhyrchu.

Cynhyrcha'r diadelloedd mynydd wlân, ŵyn stôr a thewion ac anifeiliaid magu. Pesgir y rhan fwyaf o'r ŵyn ar gyfer eu cig ond didolir eraill i'w cadw neu eu gwerthu ar gyfer magu. Arbeniga rhai ffermwyr mewn magu defaid a hyrddod pedigri a cheir prisiau uchel am y goreuon mewn arwerthiannau arbennig.

Wedi ŵyna am tua pedwar tymor gwerthir y mamogiaid mynydd hŷn i ffermydd ar dir mwy ffafriol lle'u croesir â hyrddod bridiau croesi i gynhyrchu ŵyn hanner brîd mwy o faint. Bydd angen adnewyddu chwarter y ddiadell yn flynyddol felly â hesbinod ifainc a fagwyd ar gynefin y fferm.

Ar y ffermydd mynydd cedwir y defaid ar borfeydd mynydd dros yr haf, un ai ar dir agored a rennir yn gyffredin â ffermwyr eraill neu ar dir sy'n benodol i'r fferm. Yn ychwanegol bydd tir ffridd sylweddol islaw'r wal fynydd lle cedwir y mamogiaid am gyfnod cyn dod â hwy i dir gwell neu dan do i ŵyna yn y gwanwyn. Ceidw eraill y mamogiaid ar dir gwaelod y fferm, neu eu gyrru i fferm arall ar dir gwell. Gyrrir y defaid ifainc (hesbinod) i ffermydd tir gwaelod, weithiau gryn bellter i ffwrdd dros y gaeaf - rhain yw y defaid cadw neu ddefaid tac. Tyfir gwair neu silwair yn borthiant gaeaf i'r mamogiaid a rhoir ychydig ddwysfwyd iddynt tra byddant yn feichiog.

Gwaith bugeiliol bob yn dymor

Ceir trefn arbennig i weithgareddau bugeiliol y flwyddyn ond bydd y gwaith ar yr ucheldir fis neu ddau yn hwyrach na'r iseldir oherwydd yr hinsawdd:

Diwedd yr haf - gwella cyflwr y mamogiaid, eu trochi rhag paraseitiaid a'u paru â'r hyrddod. Amrywir amseriad y paru yn ôl yr hinsawdd, h.y. gellir geni'r ŵyn yn gynnar iawn ar y tir gwaelod ond Mawrth / Ebrill yn yr ucheldir.
Gaeaf - mae'n gyffredin i gadw'r defaid llawr gwlad dan do, a'r defaid mynydd ar y ffridd, a'u bwydo. Sganir y defaid i ganfod nifer yr ŵyn ynddynt a didoli'r defaid gweigion. Addasir y bwyd a'r amodau i'r nifer o ŵyn mae'r famog yn eu cario.
Gwanwyn - y defaid cadw yn dychwelyd. Brechu a dosio'r mamogiaid. Dod â'r defaid gedwir allan un ai dan do neu i gaeau cysgodol ar gyfer ŵyna - pryd y bydd prysurdeb mawr am fis. Maga'r ddafad fynydd 1 - 2 oen fel arfer ond maga'r bridiau eraill 2 neu 3.
Dechrau haf - tocio cynffonnau. Cneifio. Sbaddu'r ŵyn gyrfod, nodi clustiau.
Ganol haf - diddyfnir yr ŵyn oddi ar eu mamau yn 12 - 16 wythnos oed i'w pesgi. Gwerthir ŵyn tewion o hyn tan ddechrau'r gaeaf. Didolir chwarter y mamogiaid hŷn i'w gwerthu a chymerir nifer tebyg o ŵyn beinw o'r tymor cynt i gymryd eu lle yn y ddiadell fagu.