Defnyddiwr:Twiglet48

Oddi ar Wicipedia

Dyddiaduron teulu Thomas Jones, Cwningar, Niwbwrch[golygu | golygu cod]

Ym mysg ‘’’dyddiaduron teulu Thomas Jones’’’ gwelwn wyth dyddiadur wedi eu hysgrifennu rhwng 1870 a 1881 (1872, 1876, 1877 ac 1879 ar goll), hefyd, mae un llyfryn yn cofnodi dyddiadau paru’r hychod â’r baeddod, a’r buchod (gan enwi pob un) â’r teirw rhwng y blynyddoedd 1882 a 1887. Ni ellir dweud â phendantrwydd mai Thomas Jones yw awdur pob un, ond mae’r llaw ysgrifen yn gymharol debyg ynddynt i gyd.



Llyfrau Cownt[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â’r dyddiaduron mae wyth o lyfrau “cownt” yn dyddio rhwng 1842 a 1933. Maent yn cofnodi:

  • cyfrifon cwnhingod

cyfrifon rhandiroedd morhesg cyfrifon gwerthu matiau cyfrifon cyflogau’r gweithwyr cyfrifon crydd Enwau a rhif y rhai sydd wedi ymuno ar Gymdeithasfa Ddirwestol yn Niwbwrch…512 o enwau

enwau’r ffermydd, eu maint a swm y rhent rhestrau prynu a gwerthu nwyddau, a’u prisiau Cyfrifon y troliau’n cario cerrig Cyfrif y ‘clyb’ Ac efallai cyfrif ymgymerwr angladdau.