Defnyddiwr:Rhisart ap y frân/Schwg

Oddi ar Wicipedia

Saws poeth yw schwg (Hebraeg: סחוג) neu sahawiq (Arabeg-Iemeni: سحاوقسحاوق)  sy'n dod yn wreiddiol o goginiaeth Iddewig-Iemeni ac yn boblogaidd yn Israel. Yn ddiweddar mae wedi dod yn boblogaidd yn Ewrop ac yng Ngogledd America yn ogystal.

Mae hefyd yn boblogaidd ym Mhenrhyn Arabia. Yn ardal Gwlff Persia fe'i gelwir hefyd yn daqqus (Arabeg: دقوس‎).

Cynhwysion[golygu | golygu cod]

Gwneir schwg o buprod poeth  coch neu wyrdd ffres wedi eu sesno â llysiau'r bara, garlleg, halen, cwmin du (dewisol) a sbeisys amrywiol.

Gwneir schwg o  buprod poeth coch neu wyrdd ffres wedi eu sesno â llysiau'r bara, garlleg, halen, cwmin du (dewisol) a gwahanol sbeisys.[1][2] Mae rhai hefyd yn ychwanegu hadau carwe. Gall schwg fod yn goch neu'n wyrdd gan ddibynnu ar y math o buprod a ddefnyddir.

Mathau[golygu | golygu cod]

Mae mathau yn Iemen  yn cynnwys sahawiq akhdar (sahawiq gwyrdd), sahawiq ahmar (sahawiq coch), a sahawiq bel-jiben (sahawiq gyda chaws).[3] Yn Israel, ceir skhug adom (" skhug coch"), skhug yarok ("skhug gwyrdd") a skhug chum (" skhug brown") sy'n cynnwys tomatos.[angen ffynhonnell]

Yn Israel, gellir cyfeirio at schwg drwy'r term cyffredinol harif (hebraeg: חריף; yn llyth. "poeth/sbeislyd"). Mae hefyd yn adnabyddus o dan yr enw  schwg[4][5][6]. Mae ar gael yn gyfferedin fel  cyfwyd poblogaidd mewn stondinau ffelaffel a siawarma ac yn cael ei weini gyda hwmws.[7]

Paratoi[golygu | golygu cod]

Mae cogyddion Idewig-Iemeni traddodiadol yn gweithio shawiq  drwy ddefnyddio dwy garreg: defnyddiant garreg fawr fel arwyneb gweithio ac un lai i falu'r cynhwysion. Dewisiadau eraill yw morter a phestl neu brosesydd bwyd.[8]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Goldstein, Nili (6 Apr 2006). "PASSOVER: Yemenite Flavor at the Seder". Tribe Media. Jewish Journal. Cyrchwyd 23 April 2018.
  2. Kremezi, Aglaia (21 Jun 2010). "Recipe: Zhug (Yemeni Hot Sauce)". The Atlantic. Cyrchwyd 23 April 2018.
  3. Various Yemeni Sahawiq varieties
  4. Ferguson, Gillian (4 Oct 2017). "What's up with all the zhoug at restaurants around town". Los Angeles Times. Cyrchwyd 23 April 2018.
  5. "Where to get Auckland's best globally-influenced breakfasts". New Zealand Media and Entertainment. New Zealand Herald. 21 Oct 2017. Cyrchwyd 23 April 2018.
  6. Ottolenghi, Yotam; Tamimi, Sami (2012). Jerusalem: A Cookbook. Potter/TenSpeed/Harmony. t. 301. ISBN 9781607743958.
  7. Red Skhug: A recipe and a story
  8. Janna Gur brings you the taste of Israel: Zhug

Templed:Israel bwyd

[[Categori:Geiriau ac ymadroddion Arabeg]] [[Categori:Cyfwydydd]] [[Categori:Coginiaeth Israel]] [[Categori:Coginiaeth Iemen]]