Defnyddiwr:Prosiect Wici Mon/Llefaredd

Oddi ar Wicipedia
<-- Prif ddalen y Prosiect

Bydd rhan o Brosiect Wici Môn yn ymwneud â llefaredd. Y gobaith yw recordio enwau cymunedau a threfi Cymru (dros fil) a'u rhoi ar Comin, ac yna ar y Wicipedia Cymraeg a ieithoedd eraill.

Er mwyn eu casglu'n daclus at ei gilydd, rydym wedi creu rhestr sy'n dod o Wicidata. Mae na dipyn o waith i'w wneud, ond y rhestr hon yw'r man cychwyn.

Yna, byddwn yn mynd ati i recordio lleisiau pobl yn yr Eisteddfod, yn ynganu (yn y tafodiaith addas) yr enwau lleoedd hyn. Bydd y Corpws Cymraeg Cenedlaethol Cyfoes (CorCenCC) hefyd yn fwy na thebyg yn defnyddio'r ffeiliau sain hyn.