Defnyddiwr:Jason.nlw/Pwll Tywod/WWI

Oddi ar Wicipedia
Yr Ail Ryfel Byd
Dyddiad 1 Medi, 19392 Medi, 1945
Lleoliad Ewrop, y Cefnfor Tawel, De Ddwyrain Asia, y Dwyrain Canol, y Môr Canoldir ac Affrica
Canlyniad Buddugoliaeth i'r Cynghreiriaid. Creu'r Cenhedloedd Unedig. Ymddangosiad yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd fel uwchbwerau. Creu meysydd dylanwad y Byd Cyntaf a'r Ail Fyd yn Ewrop sy'n arwain at y Rhyfel Oer.
Cydryfelwyr
Pwerau Cynghreiriol:

Yr Undeb Sofietaidd Yr Undeb Sofietaidd (1941-45)
Yr Unol Daleithiau Yr Unol Daleithiau (1941-45)
Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Gweriniaeth Tsieina Tsieina
Ffrainc Ffrainc
...et al.

Pwerau'r Axis:

Yr Almaen Yr Almaen
Japan Japan (1941-45)
Yr Eidal (1940-1943/45) Yr Eidal
...et al. Hwngari Hwngari (1940-44,45)
Rwmania Rwmania (1941-44,45)

Arweinwyr
Yr Undeb Sofietaidd Joseph Stalin (1941-45)

Yr Unol Daleithiau F.D. Roosevelt (1941-45)
Yr Unol Daleithiau Harry S. Truman (1945)
Y Deyrnas Unedig Winston Churchill
Gweriniaeth Tsieina Chiang Kai-shek
...et al.

Yr Almaen Adolf Hitler

Japan Hirohito (1941-45)
Yr Eidal Benito Mussolini (1940-43)
...et al.

Anafusion a cholledion
Meirw milwrol:
Dros 14 000 000
Meirw dinesig:
Dros 36 000 000
Cyfanswm y meirw:
Dros 50 000 000
Meirw milwrol:
Dros 8 000 000
Meirw dinesig:
Dros 4 000 000
Cyfanswm y meirw
Dros 12 000 000
Gweler Yr Ail Ryfel Byd am yr Ail Ryfel Byd yn cyffredinol.
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
test
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Yr Ail Ryfel Byd yw’r gwrthdaro mwyaf gwaedlyd a dinistriol a welwyd erioed. Amcangyfrifir i rhwng 50 a 70 miliwn o bobl farw o ganlyniad i’r rhyfel, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn bobl gyffredin oedd ddim yn rhan o’r brwydro. Yn ystod y rhyfel cafodd bywydau trigolion Cymru mewn gwledydd ar draws y byd eu trawsnewid wrth i’r ymladd ledu i bob cyfandir.

Arweiniwyd y pwerau Cynghreiriol gan y Deyrnas Unedig, yr Undeb Sofietaidd, Ffrainc a'r Unol Daleithiau. Ar yr ochr arall roedd yr Almaen dan arweiniad Adolf Hitler, yr Eidal a Japan.

Cafodd yr Ail Ryfel Byd effaith mawr ar bobl yng Nghymru hefyd. Ymhlith y miliynau a fu farw roedd 15,000 o Gymry, ac ymhlith yr ardaloedd gafodd eu bomio gan awyrennau’r Almaenwyr roedd rhai o borthladdoedd, ardaloedd dinesig, ac ardaloedd diwydiannol Cymru. Lladdwyd 60,000 o bobl Prydain mewn cyrchoedd awyr adeg yr Ail Ryfel Byd tra mai ychydig dros fil a laddwyd yn y Rhyfel Mawr, y mwyafrif ohonynt yn ne Lloegr.

Gwelwyd newid ar fyd yng nghefn gwlad Cymru hefyd wrth i rannau o’r economi a bywyd bob dydd gael eu haddasu i fod yn rhan o’r ymdrech ryfel a gorfod ymateb i ofynion y Llywodraeth yn ystod y cyfnod hwn o newid a gwrthdaro.[1]


Achosion yr Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod]

Roedd yr Ail Ryfel Byd wedi digwydd o ganlyniad i nifer o ffactorau gwahanol a ddaeth i’r amlwg yn y 1920au a’r 1930au ac a ddatblygodd yn rhyfel.  Roedd ffasgiaeth yn tyfu yn Ewrop, roedd yr Almaen yn ymosodol yn Ewrop ac roedd gwledydd eraill yn Ewrop wedi ceisio gwrthsefyll yn ddi-drais yn erbyn y datblygiadau yma ond roedd yr ymdrechion i greu heddwch wedi methu.  Achosodd yr elfennau hyn i gyd gyda’i gilydd rhyfel yn 1939.

Ffactorau a arweiniodd at ryfel

Militariaeth ac ailarfogi – roedd Hitler yn casau telerau Cytundeb Versailles gan ei fod yn gytundeb a oedd wedi gwanhau cryfder milwrol yr Almaen ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.  Aeth ati felly i ehangu bob un o dair cangen y lluoedd arfog (y fyddin, y llu awyr a’r llynges) a dechreuodd gynhyrchu arfau ar raddfa enfawr gyda’r bwriad o wneud yr Almaen yn bŵer cryfaf Ewrop.

Ideoleg – bwriad Hitler oedd dinistrio comiwnyddiaeth a fyddai’n golygu mynd i ryfel yn erbyn UGSS (yr Undeb Sofietaidd). Roedd Prydain a Ffrainc hefyd wedi dangos eu gwrthwynebiad i gomiwnyddiaeth. Roedd Hitler yn credu na fydden nhw’n ei wrthwynebu ac y bydden nhw o bosib yn cefnogi ei bolisïau yn Nwyrain Ewrop.

Y polisi dyhuddo (appeasement) – doedd dim gwrthwynebiad i weithredoedd Hitler yn Ewrop.  Roedd UDA yn niwtral ac nid oedd Ffrainc yn awyddus i ymyrryd yn y sefyllfa heb gefnogaeth Prydain ac roedd Prydain yn ymddangos fel petai’n cefnogi hawliau’r Almaen yn Ewrop.

Methiant Cynghrair y Cenhedloedd – methodd y Gynghrair â chymryd camau yn erbyn ymosodiad Japan yn Manchuria, na phan wnaeth yr Eidal oresgyn Abyssinia (Ethiopia heddiw) nac ychwaith mewn ymateb i weithredoedd Hitler yn Ewrop, er enghraifft, wrth oresgyn Tsiecoslofacia.

Imperialaeth – roedd Japan eisiau creu ymerodraeth Japaneaidd yn y Môr Tawel a fyddai’n ymestyn i China ac Awstralia. Roedd Benito Mussolini, unben/rheolwr yr Eidal, eisiau ymerodraeth Ffasgaidd–Rufeinig ym Môr y Canoldir a Dwyrain Affrica.  Nod Hitler oedd uno’r holl siaradwyr Almaeneg mewn Almaen Fawr a fyddai’n ymestyn draw i ddwyrain Ewrop. Golygai hyn y byddai’n dod i wrthdaro gyda yr Undeb Sofietaidd.[2]

Consgripsiwn[golygu | golygu cod]

Poster recriwptio o'r Ail Ryfel Byd

Gyda’r rhyfel ar y gorwel pasiodd y Llywodraeth y Ddeddf Hyfforddiant Milwrol (1939).  Roedd hyn yn golygu y gallai dynion 20–22 mlwydd oed gael eu galw i fyny i hyfforddi am 6 mis – hwn oedd y tro cyntaf i gonsgripsiwn gael ei gyflwyno yn ystod cyfnod o heddwch.


Pan ddechreuodd y rhyfel ar 3 Medi 1939 pasiodd y deddf Gwasanaeth Cenedlaethol, daeth pob dyn rhwng 18 a 40 mlwydd oed yn gymwys i gael ei alw i fyny ar gyfer gwasanaeth milwrol yn y Lluoedd Arfog.  Codwyd yr oedran i 51 yn 1941. Cofrestrodd 250,000 i wasanaethu ac, fel yn achos y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd rhai swyddi yn cael eu gweld fel ‘gwaith neilltuedig’ er enraifft yn 1943 cafodd 22,000 o ‘Fechgyn Bevin’ (a gafodd eu henwi ar ôl Ernest Bevin, y Gweinidog Llafur) eu consgriptio i weithio yn y pyllau glo.  


Cafodd trefniadau eraill eu gwneud ar gyfer y rhai hynny a oeddent yn gwrthod gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar sail foesol (er enghraifft, yn anghytuno gyda’r egwyddor o ryfela ac ymladd).  Bu rhaid iddynt wynebu tribiwnlysoedd milwrol (llysoedd ble mae troseddau milwrol fyddai’n cael eu profi’n unig) ond oherwydd profiad y Rhyfel Byd Cyntaf cawson nhw eu trin yn fwy dyngarol. Cafodd llawer wneud swyddi lle doedd dim rhaid ymladd, er enghraifft, yn gweithio ar ffermydd ac mewn ysbytai.[2]

Cyflwynodd oddeutu 60,000 o ddynion a 1,000 o fenywod gais i gael eu heithrio o wasanaeth milwrol. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd roedd tua 6,500 wedi cael eu carcharu am eu bod yn gwrthod gwneud unrhyw beth oedd a chysylltiad gyda rhyfel. [3]

Gwrthwynebwyr rhyfel[golygu | golygu cod]

Roedd gwrthwynebwyr rhyfel wedi bod yn ymgyrchu yng Nghymru yn y ddegawd cyn cychwyn yr Ail Ryfel Byd yn 1939. Sefydlwyd yr Undeb Llw Heddwch ym 1934 gan y Canon Dick Sheppard a fu’n gaplan yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ysgrifennodd lythyr i’r papurau newydd at ddynion (gan fod merched yn gweithredu yn y mudiad heddwch yn barod) yn gofyn iddynt arwyddo llw os oeddent yn gwrthwynebu yr hyn a ymddangosai fel cyffroi rhyfel arall: ‘Rwy’n ymwrthod â rhyfel, ac ni fyddaf yn cefnogi na goddef un arall.’ Roedd wrth ei fodd gyda’r ymateb. Roedd y mudiad yn cynnwys merched ers 1936. Heddiw, yr Undeb Llw Heddwch sy’n cyflenwi’r Pabiau Gwyn sy’n cael ei wisgo ar Ddydd y Coffa. Gwisgwyd pabïau o’r fath am y tro cyntaf ar anogiad Urdd Cydweithredol y Merched ar Ddydd y Cadoediad, 1933 (newidiodd Dydd y Cadoediad yn Ddydd y Coffa yn dilyn yr Ail Ryfel Byd).[4]

Y Blitz[golygu | golygu cod]

Llundain yn ystod Y Blitz
Trigolion Abertawe, ychydig cyn neu ar ôl y bomio.

Gweler hefyd Y Blitz a Blitz Abertawe

Y Blitz oedd ymgyrch bomio awyr barhaus yr Almaen Natsïaidd yn erbyn Prydain yn yr Ail Ryfel Byd. Lladdodd y cyrchoedd 43,000 o sifiliaid a pharhau am wyth mis, gan edrych allan pan ddechreuodd Hitler ganolbwyntio ar ei gynlluniau ar gyfer goresgyniad Rwseg ym mis Mai 1941.

Dechreuodd y ‘Blitz’ neu ‘Dydd Sadwrn Du’ ar Medi 7, 1940, pan ymosododd awyrennau bomio’r Almaen ar Lundain. Lladdwyd 430 ac anafwyd 1,600. Cafodd bomiau eu gollwng ar borthladdoedd eraill gan gynnwys Bryste, Caerdydd, Portsmouth, Plymouth, Southampton ac Abertawe, yn ogystal â dinasoedd diwydiannol Birmingham, Belfast, Coventry, Glasgow, Manceinion a Sheffield. Yn wyneb colledion cynyddol, dechreuodd yr Almaenwyr fomio yn ystod y nos a gollwng bomiau tân newydd a oedd yn achosi tanau enfawr. 29 Rhagfyr 1940 Ar un noson yn unig achosodd bomiau tan dros 1,300 o danau yng nghanol Llundain. Parhaodd y Blitz o fis Medi 1940 tan fis Mai 1941. Lladdwyd 45,000 o sifiliaid a chafodd tair miliwn a hanner o dai eu difrodi neu eu dinistrio. Am bob sifiliad a fu farw, cafodd tri deg pump eu gwneud yn ddigartref.[2]

Yng Nghymru targedodd yr Almaenwyr y de diwydiannol. Roedd Dociau Barry, Caerdydd ac Abertawe ymhlith y targedau a chafodd Abertawe ei ddifrodi'n ddrwg gan fomio. Dewiswyd Abertawe fel targed addas oherwydd ei phwysigrwydd fel porthladd a'i dociau ac oherwydd y purfeydd olew cyfagos. Roedd y ddinas hefyd yn bwysig oherwydd y diwydiant copr a welwyd yno. Roedd dinistrio'r ddinas yn rhan allweddol o ymgyrchoedd bomio strategol y Natsiaid gyda'r nod o rwystro allforio glo a chwalu hyder y dinasyddion a'r gwasanaethau brys.

Bywyd ar y Ffrynt Cartref[golygu | golygu cod]

Nid dim ond milwyr, morwyr a pheilotiaid fu’n cymryd rhan yn y rhyfel. Roedd y Llywodraeth yn gofyn i bobl baratoi ar gyfer yr ymosodiadau ac mae’r gwaith oedd yn cael ei wneud gan bobl gyffredin i helpu Prydain yn yr ymdrech ryfel i gyd yn rhan o’r hyn sy’n cael ei alw’n Ffrynt Cartref. Daeth y Rhyfel a newidiadau dramatig i fywydau pob dydd pobl hyd yn oed yn y rhannau mwyaf anghysbell o Gymru.

Daeth nifer o rheolau newydd i rym yn ystod y rhyfel ac roedd disgwyl bod y boblogaeth gyfan yn dilyn rhain;

Blacowt

Daeth y blacowt i rym ym Medi 1939. Roedd blacotwt dros nos ym mhobman er mwyn atal awyrennau’r gelyn rhag medru gweld golau ar y ddaear a darganfod lleoliad penodol. Roedd yn rhaid diffodd pob golau allanol, rhoi caead ar lampau’r ceir a chau llenni tai fel nad oedd unrhyw oleuni i’w weld o’r tu allan.

Wardeniaid ARP yn profi mygydau nwy yn Nhrallwng, Tachwedd 1940.


Wardeiniaid (ARP)

I sicrhau bod pawb yn dilyn y rheolau penodwyd Wardeniaid Cyrch Awyr (ARP) i bob tref a phentref. Roedd bod yn Warden ARP yn waith gwirfoddol a’r prif gyfrifoldebau oedd dosbarthu mygydau nwy, gwneud yn siwr eu bod yn ffitio’n gywir, a sicrhau bod un gan bawb. Rhan arall o’u gwaith oedd sicrhau bod pawb yn gweithredu’r blacowt ac fe fydden nhw’n mynd o dy i dy i sicrhau nad oedd golau i’w weld o’r tu allan. Roedd y Wardeiniaid mewn gwisgoedd gwrth-nwy ac roedd pob un yn cario ratl neu gloch. Byddai swn y ratl yn arwydd o berygl nwy a swn y gloch yn nodi nad oedd perygl mwyach.

Gwirfoddolwyr Amddiffyn Lleol (LDV)

’Dad’s Army’ – Sefydlwyd y gwirfoddolwyr yma yn gynnar yn y rhyfel fel byddin wirfoddol o ddynion nad oedden nhw’n ddigon heini, iach neu ifanc i ymuno gyda’r lluoedd arfog. Oherwydd bod gan lawer ohonynt feibion yn ymladd yn yr Ail Ryfel Byd daeth y llysenw ‘Dad’s Army’ yn derm poblogaidd I’w disgrifio. Newidiwyd yr enw i’r Gwarchodlu Cartref (Home Guard) yn 1940.

Nid oedd arfau gan lawer o aelodau’r Gwarchodlu Cartref, ac roedd yn rhaid dibynnu ar y cyhoedd i roi gynnau iddynt, neu ddefnyddio picweirch, gwaywffyn neu reifflau ffug. Doedd dim gwisg swyddogol ganddyn nhw i ddechrau er iddyn nhw dderbyn iwnifform yn hwyrach yn y rhyfel.

Prif bwrpas y Gwarchodlu Cartref oedd amddiffyn rhag goresgyniad gan yr Almaenwyr. Rhan o’u gwaith oedd dileu arwyddion ffordd a llosgi mapiau i ddrysu’r Almaenwyr. Un arall o’u cyfrifoldebau oedd dal parasiwtwyr Almaenig oedd yn disgyn yng nghefn gwlad. Lleolwyd un uned o’r enw Home Guard y Mynydd yn yr ardal rhwng Tregaron a Llanwrtyd yn arbennig ar gyfer gwneud hyn. Bu’r Gwarchodlu hefyd yn amddiffyn ffatrioedd arfau a meysydd glanio, trefnu rhwystrau ffyrdd, ac yn archwilio cardiau adnabod. Roedd yymarfer yn cael ei ystyried yn bwysig iawn gan y Gwarchodlu fel bod pobl yn gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng. Weithiau byddai ymarfer gan y Gwasanaeth Tân, ymarfer gwisgo mygydau nwy, ymarf er argyfwng, ac ymarfer dril gan y Gwarchodlu Cartref.

• Adeiladu llochesi Oherwydd y bygythiad o ymosodiadau awyr aeth y Llywodraeth ati i sicrhau bod pobl yn fwy diogel drwy ddarparu llochesau ar eu cyfer. Adeiladwyd llochesi cyhoeddus mawr rhag y bomiau, a rhai llai mewn gerddi (llochesi "Anderson”) ac mewn tai (llochesi "Morrison"). Roedd rhai pobl yn y trefi mawr hefyd yn defnyddio pontydd rheilffordd, twneli a seleri tai i guddio rhag y bomiau. Er nad oedd y cyrchoedd awyr yn gymaint o fygythiad yng nghefn gwlad, aeth rhai ffermwyr ati i adeiladu eu llochesau eu hunain rhag ofn. Defnyddiwyd sachau tywod i amddiffyn adeiladau, gyda phobl yn dod at ei gilydd i lenwi a gosod y sachau tywod er mwyn ceisio sicrhau bod adeiladau cyhoeddus yn ddiogel. https://www.llyfrgell.cymru/gwasanaethau/addysg/adnoddau-dysgu/yr-ail-ryfel-byd/,t.45-48 (Yr Ail Ryfel Byd yng Nghymru – ffotograffau Geoff Charles)

• Dogni Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd rhai pethau'n brin iawn oherwydd ymosodiadau ar longau oedd yn mewnforio nwyddau i Brydain, a'r ffaith fod ffatrioedd yn canolbwyntio ar gynhyrchu arfau rhyfel. Yn 1940 cyflwynwyd rheolau newydd oedd yn cyfyngu ar faint o fwyd neu nwyddau yr oedd hawl gan bobl i’w prynu. Mae’r term dogni yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r mesurau a gyflwynodd y Llywodraeth i sicrhau bod nwyddau’n cael eu dosbarthu’n deg i bawb. Oherwydd bod prinder pob math o nwyddau bu’n rhaid dogni pethau elfennol fel bara, cig a menyn. Dosbarthwyd llyfrau dogni a daeth pobl i arfer a chyfnewid cwpon am fwydydd neu nwyddau. Roedd yn rhaid i bobl gofrestru gyda siopwyr lleol a mynd i’r un siop i brynu eu holl nwyddau oedd wedi’u dogni.

• Ailgylchu – dillad a nwyddau Gan ei bod yn anodd mewnforio dillad i Brydain, a bod angen lifrau ar y miloedd o forwyr a milwyr roedd dillad yn brin iawn yn ystod y rhyfel. Ym Mehefin 1941 cafodd dillad eu dogni a rhoddwyd cwponau dillad i bobl. Cyhoeddodd y Bwrdd Masnach daflenni yn annog pobl i 'Drwsio a gwneud y tro', lle roedd cymeriad o’r enw ‘Mrs. Sew-and-sew’ yn dysgu pobl sut i drwsio dillad yn lle eu taflu. Roedd pobl hefyd yn cael eu hannog i ailgylchu hen nwyddau pob dydd yn lle eu taflu. Roedd alwminiwm yn arbennig o werthfawr am fod sosbenni, tegelli a nwyddau tebyg yn gallu cael eu defnyddio i gynhyrchu awyrennau. Gan fod papur yn brin sefydlwyd sgwadiau o bobl o bob oed i’w gasglu. Byddai papur sgrap yn cael ei ailgylchu a chasglwyd hen bapurau newydd a chylchgronau er mwyn eu hanfon at y milwyr oedd yn ymladd dramor. Mewn rhai ardaloedd crewyd cystadleuaeth i weld pwy allai gasglu fwyaf o bapur.

Sgwad dadlygru y Drenewydd yn ymarfer ar gyfer cyrch awyr. Drenewydd 1940.

• Bwyd Dim ond hyn a hyn o eitemau fel sebon, siwgr, melysion, dillad a phetrol allai pobl eu prynu hefyd, ac roedd yn rhaid addasu i ddefnyddio llai o’r rhain. Cyhoeddodd y Llywodraeth daflenni gwybodaeth yn esbonio i bobl sut i fyw heb lawer o nwyddau, a chynhaliwyd gwersi oedd yn dysgu sut i ddefnyddio llai wrth goginio. Gan fod llawer o fwydydd yn brin, ac yn ogystal â dogni bwyd, roedd y Llywodraeth yn annog pobl i dyfu bwyd eu hunain, er enghraifft, yn yr ardd neu mewn gerddi cymunedol fel bod Prydain yn dibynnu’n llai ar fewnforio bwyd. Roedd ymgyrch ‘Palu Dros Fuddugoliaeth’ (Dig For Victory) y Llywodraeth yn annog pobl i dyfu llysiau yn eu gerddi neu ar unrhyw ddarn sbar o dir. Defnyddiwyd cymeriadau fel Potato Pete a Dr Carrot i annog oedolion a phlant i fwyta bwyd rhad a dyfwyd gartref fel bod llai o angen mewnforio bwydydd. Roedd hyd yn oed yr ysgolion eu gerddi eu hunain lle’r oedd disgyblion yn cael eu dysgu i dyfu llysiau. https://www.llyfrgell.cymru/gwasanaethau/addysg/adnoddau-dysgu/yr-ail-ryfel-byd/,t.52-54 (Yr Ail Ryfel Byd yng Nghymru – ffotograffau Geoff Charles)

Is-bennawd Rôl Merched Cyn yr Ail Ryfel Byd credwyd yn gyffredinol mai lle’r fenyw oedd y cartref, ac mae lle’r dyn oedd mynd allan i weithio. Newidiodd bywydau llawer o fenywod yn gyfan gwbl yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dyma’r tro cyntaf i lawer ohonyn nhw adael y cartref i weithio: yn 1939 roedd 94,000 o fenywod yng Nghymru yn gweithio, ond erbyn 1944 roedd y nifer wedi dyblu i dros 200,000.

• Byddin Tir y Merched Gan fod angen i Brydain fod yn hunangynhaliol, a gofyn i ffermwyr gynhyrchu mwy o fwyd nag erioed o’r blaen, bu’n rhaid chwilio am fwy o bobl i weithio ar y ffermydd. Roedd llawer o weision fferm wedi mynd i ymladd yn y rhyfel, ac ateb y Llywodraeth oedd ailsefydlu Byddin Tir y Merched, cynllun oedd wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn 1943 roedd bron i 5,000 o fenywod yn rhan o Fyddin Tir y Merched yng Nghymru. Roedd miloedd o fenywod hefyd yn gweithio ar fferm y teulu yn helpu i gynhyrchu bwyd ar gyfer yr ymdrech ryfel. Roedd menywod rhwng 18 a 40 ml.oed yn cael eu hannog i ymaelodi a byddai disgwyl iddynt fedru symud i weithio llawn amser ar ffermydd unrhyw le ym Mhrydain. Byddai’r merched yn cael dillad arbennig ar gyfer y gwaith oedd yn cynnwys esgidiau lledr, sanau gwlan, oferols, siwmperi gwyrdd a throwsusau brown. Er bod y posteri recriwtio yn dangos menywod ffasiynol yn cael amser da roedd y gwaith yn gallu bod yn anodd, corfforol a chaled. Roedd y gwaith yn amrywio o dyfu cnydau i drin y tir, gofalu am anifeiliaid, godro, tynnu tatws a hyd yn oed dal llygod mawr. Roedd y merched oedd yn gweithio yn y coedwigoedd yn cael y llysenw ‘Timber Jills’. https://www.llyfrgell.cymru/gwasanaethau/addysg/adnoddau-dysgu/yr-ail-ryfel-byd/,t.39-40 (Yr Ail Ryfel Byd yng Nghymru – ffotograffau Geoff Charles)

• Swyddi eraill Aeth eraill i weithio mewn swyddi newydd fel ffatrïoedd cemegau, ffrwydron, ac adeiladu awyrennau. Erbyn 1944 roedd 55% o weithwyr rhyfel Cymru yn fenywod. Gweithiau menywod hefyd yn adeiladu llongau, cynhyrchu peiriannau a cherbydau, ar y rheilffyrdd, y camlesi, ac ar y bysiau. Roedd nifer hefyd yn rhan o’r gwasanaethau brys a’r gwasanaethau achub. Roedd eraill yn gweithio mewn ffatrioedd oedd yn cynhyrchu nwyddau i ymladd yn y rhyfel, er enghraifft, yn gweithio ar beiriannau gwau sanau. https://www.llyfrgell.cymru/gwasanaethau/addysg/adnoddau-dysgu/yr-ail-ryfel-byd/,t.42 (Yr Ail Ryfel Byd yng Nghymru – ffotograffau Geoff Charles)

• Y Lluoedd Arfog Er mai dynion yn bennaffu’n ymladd yn y rhengoedd blaen, bu menywod yn cyfrannu’n sylweddol at weithgareddau wrth gefn y lluoedd arfog. O fis Rhagfyr 1941 ymlaen roedd yn rhaid i bob menyw rhwng 20 a 30 oed gofrestru ar gyfer gwaith rhyfel neu waith gyda'r Lluoedd Arfog. Ymunodd llawer gyda Gwasanaethau Cynorthwyol Menywod y fyddin, y llynges a’r llu awyr. Doedd dim hawl ganddyn nhw i ymladd ond roedden nhw’n cefnogi gwaith y dynion gyda thasgau fel teipio, coginio, glanhau, ateb y ffôn ayb. Yn ddiweddarach, cawsant waith oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r rhyfel fel bod mwy o ddynion yn gallu mynd i ffwrdd i ymladd. Roedd merched hefyd yn medru ymuno gyda Gwasanaeth Gwirfoddol y Menywod. Erbyn Medi 1943, roedd dros filiwn wedi ymaelodi. Roedd eu gwaith yn amrywio o yrru cerbydau ambiwlans, gofalu am blant sal a faciwis, a chynorthwyo mewn llochesau cyrch awyr. https://www.llyfrgell.cymru/gwasanaethau/addysg/adnoddau-dysgu/yr-ail-ryfel-byd/,t.42 (Yr Ail Ryfel Byd yng Nghymru – ffotograffau Geoff Charles)

Is-bennawd Bywydau Plant yn ystod yr Ail Ryfel Byd Ifaciwis - Yn ystod yr Ail Ryfel Byd symudwyd dros filiwn (1,000,000) o blant o ddinasoedd Prydain fel eu bod yn fwy diogel rhag y bomiau a'r cyrchoedd awyr. Anfonwyd dros 200,000 o'r plant hyn i bob rhan o Gymru, a'r enw oedd yn cael ei ddefnyddio am blant oedd yn cael eu symud i gefn gwlad oedd faciwîs. Yn aml byddent yn gorfod gadael eu teuluoedd a theithio ar drên gyda dim byd ond ychydig eiddo personol, mwgwd nwy a thag adnabod.

Roedd plant o du allan Prydain yn cyrraedd er mwyn ffoi oddi wrth y Natsiaid. Yn 1938-9, teithiodd 10,000 o blant Iddewig i’r DU mewn ymgyrch o’r enw Kindertransport. Aeth tua 200 ohonynt i Gastell Gwrych ger Abergele. http://resource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/vtc/2018-19/18-19_2-1/pdf/patrymau-mudo-y-cyd-destyn-cymreig.pdf, t.4

Yn y 1930au daeth tua 40,000 o Iddewon a oedd yn ffoi rhag erledigaeth y Natsïaid i Brydain. Ymgartrefodd rhai ohonynt yng Nghymru, lle y gwnaethant helpu i sefydlu ystad fasnachu Trefforest. http://resource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/vtc/2018-19/18-19_2-1/pdf/patrymau-mudo-y-cyd-destyn-cymreig.pdf, t.4

Plant Cymru - Newidiodd bywydau plant Cymru hefyd yn y cyfnod hwn. Roedden nhw'n cael eu hannog i gyfrannu at yr ymgyrch ryfel drwy ddysgu sgiliau fel garddio, gwnïo, a chasglu adnoddau i ailgylchu. Roedd plant yn gorfod ymarfer gwisgo mygydau nwy, ac roedd nwyddau fel siocled yn brin ac yn cael eu dogni. https://www.llyfrgell.cymru/gwasanaethau/addysg/adnoddau-dysgu/yr-ail-ryfel-byd/,t.8 (Cymru a’r Ail Ryfel Byd)

Is-bennawd Sensoriaeth Adeg rhyfel, mae pob llywodraeth yn ceisio rheoli’r newyddion er mwyn cuddio’r gwir; gelwir hyn yn sensoriaeth. Adeg yr Ail Ryfel Byd, roedd Prydain, fel yn yr Almaen, yn defnyddio pob math o gyfryngau torfol – y radio, papurau newydd, cylchgronau, ffilmiau sinema a ffilmiau newyddion – ac roedd rhain i gyd yn cael eu sensro. Sefydlwyd y Weinyddiaeth Wybodaeth, a rhoddwyd y dasg iddi o reoli’r rheolau ar sensoriaeth a phropaganda. Y bwriad oedd sicrhau mai dim ond y wybodaeth yr oedd y Llywodraeth am iddyn nhw ei chael, neu’n credu y dylen nhw ei chael, y byddai’r bobl yn ei derbyn. Ni rannwyd llawer o newyddion drwg, felly roedd gwybodaeth am drychinebau milwrol a gorchfygiadau’n cael ei dal yn ôl neu’n cael ei chadw’n gyfrinachol. Roedd Llywodraeth Prydain yn honni bod y cyfreithiau sensoriaeth yno i amddiffyn y bobl rhag celwyddau, sibrydion a phropaganda o’r Almaen. http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-42/cym/dirwasgiad-a-rhyfel-cym.pdf, t.33

Is-bennawd Propaganda a chadw moral i fyny Wrth gwrs, nid oedd newyddion da fel buddugoliaethau milwrol a llwyddiannau eraill yn cael eu sensro, ond yn aml roedd y gwir yn cael ei orbwysleisio er mwyn gwneud i’r buddugoliaethau ymddangos yn fwy nag oedden nhw. Propaganda oedd hyn. Roedd y ddwy ochr yn gwneud defnydd da o bropaganda a daeth y ‘rhyfel geiriau’hwn yn arf pwysig yn ystod y rhyfel gan ei fod yn helpu i gynnal ysbryd y bobl. • Radio - yr arf pwysicaf a oedd gan Brydain oedd y BBC. Roedd yn darlledu ym Mhrydain a thramor, felly gallai pobl y gwledydd a feddiannwyd wrando ar y newyddion hefyd. Roedd y BBC mor bwerus gan ei fod i’w glywed yn y cartref trwy’r radio. Trwy ddarllediadau radio, yn fwy na dim arall, yr oedd pobl yn derbyn eu newyddion a’u hadloniant. Un o’r rhaglenni radio mwyaf poblogaidd oedd rhaglen Tommy Handley, It’s That Man Again. • Sinema - roedd y sinema a’r diwydiant ffilmiau, yn cael ei ddefnyddio gan y Llywodraeth hefyd i gynhyrchu ffilmiau gwladgarol. Rhai o’r ffilmiau mwyaf poblogaidd a mwyaf pwerus am y rhyfel oedd Went the Day Well?; The Day Will Dawn; Tomorrow We Live; a One of Our Aircraft Is Missing. Rhyngddyn nhw, gwnaeth y radio a’r sinema lawer i lunio agweddau a barn pobl Prydain. Trwyddyn nhw, roedd yn bosibl i’r Llywodraeth lunio a rheoli barn y cyhoedd. http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-42/cym/dirwasgiad-a-rhyfel-cym.pdf, t.33-34

Is-bennawd Codi arian Roedd y llywodraeth yn defnyddio ymgyrchoedd ac apeliadau i wneud i’r bobl deimlo eu bod wir yn gwneud rhywbeth ar gyfer ymdrech y rhyfel. Yr Arglwydd Beaverbrook, sef perchennog papur newydd a dyn busnes Prydeinig o Ganada oedd yn bennaf gyfrifol am y math yma o ymgyrchoedd. Yn 1940, penodwyd ef gan Churchill yn Weinidog Cynhyrchu Awyrennau. Un o’i ymgyrchoedd mwyaf llwyddiannus oedd y Gronfa Spitfire, sef cronfa oedd yn annog pobl i gyfrannu at adeiladu awyrennau Spitfires. Ym mis Gorffennaf 1940, lansiodd tref Casnewydd ei hapêl i godi’r £5000 yr oedd ei angen i adeiladu Spitfire. Gwnaeth llawer o drefi oedd yn helpu codi arian ar gyfer y Gronfa dalu am eu hawyren Spitfire eu hunain. Amcangyfrifwyd bod y Gronfa wedi bod yn gyfrifol am tua 1,600 o’r 30,000 o’r awyrennau Spitfire a adeiladwyd yn ystod y rhyfel. http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-42/cym/dirwasgiad-a-rhyfel-cym.pdf, t.34 http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-42/cym/dirwasgiad-a-rhyfel-cym.pdf, t.56

Is-bennawd Hamdden ac Adloniant Er mor anodd a pheryglus oedd bywyd yn ystod y rhyfel roedd pobl yn gwneud eu gorau glas i fwynhau bywyd. Sylweddolai’r Llywodraeth ei bod yn bwysig bod pobl yn cynnal eu hysbryd, ac er bod nifer o weithgareddau hamdden wedi cael eu hatal yn syth ar ddechrau’r rhyfel gwelwyd mwy a mwy o’r rhain yn ailddechrau yn fuan wedyn. Roedd y radio yn bwysig iawn i dderbyn gwybodaeth yn y cyfnod hwn. Byddai teuluoedd yn eistedd gyda’i gilydd fin nos yn ystod y blacowts yn gwrando ar newyddion y BBC ar y radio, ac yn derbyn gwybodaeth a phropaganda rhyfel drwy raglenni eraill. Cafodd gwasanaeth Rhanbarth Cymru’r BBC ei stopio ar ddechrau’r rhyfel, a rhoddwyd stop ar yr ychydig ddarlledu Cymraeg oedd ar gael. Erbyn 1940, serch hynny, roedd ychydig oriau bob wythnos yn cael eu darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn 1940 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberpennar ar y radio. Roedd adloniant lleol yn rhan bwysig o fywyd mewn llawer o ardaloedd gwledig achos roedd y dogni petrol yn ei gwneud yn anodd iawn i bobl o’r ardaloedd hyn gyrraedd y trefi. Gan eu bod yn llai tebygol o wynebu cyrchoedd awyr roedd modd cynnal dawnsfeydd, gyrfau chwist a dramau mewn neuaddau pentref, ac yn ystod misoedd yr haf roedd garddwesti a sioeau amaethyddol yn boblogaidd iawn. http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-42/cym/dirwasgiad-a-rhyfel-cym.pdf, t.59-62

Is-bennawd Cyfraniad tir Cymru Cyfrannodd Cymru nid yn unig o ran nifer y milwyr ar y ffryntiau ymladd ond defnyddiwyd ei thir hefyd fel adnodd i helpu’r ymgyrch, er enghraifft, fel meysydd hyfforddiant ac fel canolfannau trin anafedigion. Roedd nifer o wersylloedd hyfforddiant milwrol yng Nghymru, ac roedd yn gyffredin gweld milwyr yng nghefn gwlad. Erbyn 1945 roedd y Swyddfa Ryfel yn rheoli 10% o dir Cymru, ac yn ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer tanio, neu fel lle ar gyfer gwersylloedd hyfforddiant a charchardai. Credai’r llywodraeth fod hyfforddiant mewn mannau gwyllt a diarffordd yn help i baratoi milwyr ymdopi gyda thywydd drwg ac amgylchiadau anodd pan fydden nhw’n gorfod mynd dramor. http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-42/cym/dirwasgiad-a-rhyfel-cym.pdf, t.68

Meddiannwyd tua hanner ys ystad, tua 6,000 o erwau gan y Weinyddiaeth Amddiffyn /llawer o dir fferm Stad Stackpole ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd I greu maes hyfforddiant ar gyfer milwyr Prydeinig, sef Maes Tanio Castlemartin(Castlemartin Range). https://www.nationaltrust.org.uk/stackpole/features/history-of-the-stackpole-estate

Defnyddiwyd tir yng Nghymru hefyd ar gyfer y paratoadau ar gyfer glaniadau D-Day yn Normandi yn 1944. Ar ddydd Mawrth y 6ed o Fehefin 1944, glaniodd y lluoedd Cynghreiriol ar draethau Normandi fel rhan o’r ymgyrch morwrol, tir ac awyr mwyaf yn hanes. Marciodd D-Day gychwyn ar ymgyrch hir, wedi’i enwi’n ‘Operation Overlord, i ryddhau gogledd-orllewin Ewrop o feddiant y Natsïaid.

Ymosododd degau o filoedd o filwyr, yn bennaf o’r DU, yr UD a Chanada, ar fyddinoedd yr Almaen ar bum traeth ar arfordir gogledd Ffrainc: Utah, Omaha, Gold, Juno a Sword. Yn oriau man y bore hwnnw, glaniodd miloedd o awyr filwyr tu ôl i linellau’r gelyn cyn i’r milwyr traed a’r adrannau arfog ddechrau glanio ar y traethau. Cefnogwyd hwy gan bron i 7,000 o longau milwrol.

Cychwynnodd y gwaith o gynllunio Operation Overlord misoedd lawer cyn yr ymosodiad. Roedd dros ddwy filiwn o filwyr o dros 12 gwlad wedi cyrraedd ym Mhrydain erbyn 1944 fel rhan o’r paratoadau. Roedd hyn yn cynnwys bataliwn o filwyr Americanaidd oedd yn aros yng ngwersyll Island Farm ym Mhen-y-bont. Cafodd y cytiau eu hadeiladu’r wreiddiol ar gyfer gweithwyr yn y ffatri arfau cyfagos ond yr oedd yn wag hyd nes dyfodiad yr Americanwyr yn Hydref 1943. Dywedir bod y Cadfridog Dwight D. Eisenhower ei hun wedi ymweld â’r gwersyll yn Ebrill 1944 i gyfarch y milwyr cyn iddynt adael i Ffrainc. Bu Dwight Eisenhower yn Arlywydd UDA rhwng 1953 – 1961. Yn hwyrach yn y Rhyfel, defnyddiwyd Island Farm fel gwersyll carcharorion rhyfel ar gyfer swyddogion yr Almaen.

Erbyn diwedd D-Day, roedd y Cynghreiriaid wedi sefydlu troedle bychan yn Ffrainc. Fe wnaeth hyn arwain at ryddhau Paris ac, yn y pendraw, buddugoliaeth dros y Natsïaid. Cafodd dros 150,000 o filwyr Cynghreiriol eu danfon i arfordir Normandi ar y diwrnod hwnnw, gyda 10,000 o gerbydau milwrol. Bu farw tua 4,400 o’r dynion yma ac anafwyd 10,000 arall. https://blog.llyfrgell.cymru/?s=Ail+Ryfel+Byd, ‘D-Day 75: Cofio glaniadau Normandi’

Pennawd Bywyd ym Mhrydain - ar ôl y rhyfel

      Problemau cymdeithasol

Roedd diweithdra yn uchel ym Mhrydain ar ôl y rhyfel gyda pobl yn ei chwilio’n anodd i ddod o hyd i swyddi. Rhwng 1947 ac 1951 cynyddodd diweithdra o 400,000 i 1.75 miliwn.

Roedd teuluoedd a oedd wedi bod ar wahan am nifer o flynyddoedd bellach yn gorfod dysgu addasu i fywyd nol gartref. Roedd llawer yn ei chwilio’n anodd gyda’r gyfradd ysgaru ar ôl y rhyfel yn cynyddu’n sylweddol rhwng 1945 ac 1948.

Cafodd llawer o bobl eu siomi hefyd am nad oedd dogni wedi dod i ben yn syth ar ôl y rhyfel. Roedd bwydydd sylfaenol fel bara a thatws, petrol, glo a dillad dal yn brin. Disgrifiwyd y cyfnod ar ôl 1945 fel ‘Oes y Llymder’. Cafodd y Llywodraeth Lafur ei beirniadu’n hallt am hyn. Ni ddaeth dogni i ben tan 1954 pan oedd y Ceidwadwyr mewn pwer. https://www.llyfrgell.cymru/fileadmin/addysg/pdf/myglyw1cymraeg.pdf

• Ail-adeiladu Pan ddaeth y rhyfel i ben, roedd Prydain yn wlad a oedd wedi dioddef difrod difrifol. Roedd ei dinasoedd a’i threfi mawr wedi cael eu bomio, ac er bod y difrod yn amrywio, roedd canolfannau rhai trefi a dinasoedd fel Abertawe a Coventry bron wedi eu dinistrio’n llwyr. Roedd 20% o ysgolion a miloedd o siopau, ffatrïoedd a thai wedi cael eu difrodi neu eu dinistrio; byddai’n rhaid ailadeiladu’r rhain. Penderfynodd y Llywodraeth felly ganolbwyntio ar adeiladu tai ar gyfer y miloedd o bobl ddigartref.

Yn ystod ei blwyddyn gyntaf mewn grym, adeiladodd y Blaid Lafur 22,000 o dai a chodi 41,000 o gartrefi dros dro neu dai parod (prefabs: prefabricated homes) a oedd i fod i bara am bum mlynedd. Roedd y llywodraeth yn credu y byddai digon o gartrefi parhaol ar gael erbyn hynny. http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-42/cym/dirwasgiad-a-rhyfel-cym.pdf, t.40

• Gweithlu newydd Ar ôl yr Ail Ryfel Byd roedd prinder llafur yn broblem fawr ym Mhrydain ac aeth y llywodraeth ati i annog pobl i fudo i’r wlad. Daethant o amrywiol fannau. Yn ystod y rhyfel, ymladdodd llawer o Bwyliaid (yn ogystal â Tsieciaid ac Wcraniaid) ar ochr y cynghreiriad. Ar ôl y rhyfel, wrth i Ddwyrain Ewrop ddisgyn i gomiwnyddiaeth, penderfynodd llawer ohonynt sefyll ym Mhrydain, yn rhannol oherwydd eu bod yn casáu comiwnyddiaeth ac yn rhannol oherwydd y cysylltiadau yr oeddent wedi’u gwneud yn ystod blynyddoedd y rhyfel. Nododd cyfrifiad 1951 fod 160,000 o Bwyliaid yn byw yn y DU. Cafodd llawer ohonynt eu lleoli i ddechrau mewn gwersylloedd ailgyfanheddu (hen ganolfannau milwrol yr UD yn aml) fel yr un ym Mhenrhos, Gwynedd, a ddaeth yn “Bentref Pwylaidd” gyda’i eglwys, ei lyfrgell, ei ystafelloedd cyffredin, ei siop a’i randiroedd ei hun.

Fodd bynnag, nid oedd y mewnfudwyr Pwylaidd hyn, na’r don newydd o fewnfudwyr o’r Eidal, yn ddigon i fynd i’r afael â'r prinder llafur. Felly, yn y 1950au a’r 1960au dechreuodd mewnfudwyr o wledydd newydd y Gymanwlad gyrraedd Prydain. • Rhoddodd Deddf Cenedligrwydd Prydain 1948 yr hawl i ddeiliaid yr Ymerodraeth Brydeinig fyw a gweithio yn y DU. • Daeth rhai pobl i Brydain hefyd oherwydd diweithdra yn y Caribî a’r dadleoli yn dilyn yr ymrannu yn India. • Ar ddiwedd y 1960au ac ar ddechrau’r 1970au, daeth Asiaid o Kenya ac Asiaid o Uganda i Brydain hefyd er mwyn ffoi rhag erledigaeth. (Fel y Pwyliaid gynt, cafodd Asiaid o Uganda eu lleoli i ddechrau mewn hen ganolfannau milwrol, fel yr un yn Nhonfanau ger Tywyn). http://resource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/vtc/2018-19/18-19_2-1/pdf/patrymau-mudo-y-cyd-destyn-cymreig.pdf, t.4

• Dadfyddino Cynyddodd y galw am gartrefi fforddiadwy yn sylweddol yn y cyfnod rhwng 1945 ac 1947 gan fod milwyr yn dychwelyd adref. Yn 1945 roedd dros bum miliwn o ddynion a menywod ym Myddin Prydain, yn y Llynges Frenhinol a’r Llu Awyr Brenhinol. Roedd y rhan fwyaf wedi cael eu consgriptio i wasanaethu am gyfnod y rhyfel yn unig, ac roedden nhw bellach am ddychwelyd adref. Dechreuwyd dadfyddino o fewn chwe wythnos i ddiwedd y rhyfel.

Gan fod sefyllfa economaidd y wlad yn wan, teimlwyd y byddai lleihau maint y lluoedd arfog yn arbed arian i’r llywodraeth. Gan fod cymaint o ddifrod ar ôl y rhyfel, roedd y llywodraeth yn hyderus y byddai’r miliynau o gyn-filwyr yn dod o hyd i waith, ac felly’n dod yn gyfarwydd â bywyd arferol, y tu allan i’r lluoedd arfog. http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-42/cym/dirwasgiad-a-rhyfel-cym.pdf, t.40-41 https://www.llyfrgell.cymru/fileadmin/addysg/pdf/myglyw1cymraeg.pdf https://www.llyfrgell.cymru/fileadmin/addysg/pdf/myglyw2cymraeg.pdf

• Rôl Ernest Bevin Ernest Bevin, y Gweinidog Llafur a Gwasanaeth Cenedlaethol, a ddewiswyd i fod yn gyfrifol am y cynllun dadfyddino. Byddai mwyafrif y milwyr, yn ddynion a menywod, yn cael eu rhyddhau o’r lluoedd arfog yn ôl ‘eu rhif oedran a gwasanaeth’ (a gyfrifwyd yn ôl eu hoedran a sawl mis yr oedden nhw wedi gwasanaethu mewn gwisg filwrol).

Er mwyn helpu’r broses o ailadeiladu Prydain ar ôl y rhyfel, gwnaeth Bevin restr o ‘ddynion allweddol’ a oedd ganddynt sgiliau galwedigaethol hanfodol fyddai’n golygu eu bod yn medru cael eu rhyddhau cyn eu tro. Daeth rhain i gael eu hadnabod fel y ‘Bevin boys’. http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-42/cym/dirwasgiad-a-rhyfel-cym.pdf, t.40-41

• Gwasanaeth cenedlaethol ar ôl yr Ail Ryfel Byd Cyflwynodd Prydain Gwasanaeth Cenedlaethol neu gonsgripsiwn yn 1948 ac o Ionawr 1, 1949 roedd disgwyl I bob dyn ffit yn feddygol rhwng 17-21 mlwydd oed wasanaethu yn y lluoedd arfog am 18 mis ac aros ar y rhestr wrth gefn am 4 blynedd. Gwasanaethodd y rhan fwyaf o’r rhain yn y fyddin a’r llu awyr gan mai nifer bach iawn o filwyr gafodd eu derbyn gan y llynges.

Cafodd dynion mewn diwydiannau allweddol eu hesgusodi a gellid gohirio Gwasanaeth Cenedlaethol er mwyn i ddynion ifainc gwblhau eu haddysg uwch, er enghraifft, yn y brifysgol. Ar ôl 10 wythnos o hyfforddiant sylfaenol anfonwyd dynion i ymuno â chatrodau gartref a thramor. Roedd eu profiadau yn amrywio’n fawr. Bu farw llawer wrth wasanaethu gyda’r lluoedd, dysgodd rhai eraill grefft, fel gwaith coed neu plymio, a threuliodd eraill eu hamser ar y maes ymarfer. Daeth Gwasanaeth Cenedlaethol i ben yn 1960 a dychwelodd Prydain i ddibynnu ar fyddin wirfoddol, sefydlog. http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-15/cym/Datblygu-rhyfela.pdf, t.37

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Yr Ail Ryfel Byd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. t. 8. Cyrchwyd 2020-01-31.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Datblygu Rhyfela" (PDF). CBAC. t. 8. Cyrchwyd 31 Ionawr 2020.
  3. "Search - Hwb". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-02-14.
  4. "Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2020-02-14.