Defnyddiwr:Adda'r Yw/Pwll Tywod

Oddi ar Wicipedia



Damcaniaethwr gwleidyddol, economegydd, a newyddiadurwr o Sais oedd Walter Bagehot (3 Chwefror 182624 Mawrth 1877) sy'n nodedig am ei waith awdurdodol ar hanes cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, The English Constitution, ac am ei gyfnod dylanwadol yn olygydd The Economist,


Hanes UDA[golygu | golygu cod]

Americanes frodorol o lwyth y Cherokee oedd Florence Owens Thompson (1901/3-1983). Roedd yn hanu o Oklahoma ac yn briod i ffermwr o'r enw Cleo Owens. Yn 1927, symudodd Florence, Cleo, a'i frodyr i Merced Falls, Califfornia, ac yno gweithiodd y dynion yn y felin lifio. Bywyd hapus oedd gan y teulu, a chafodd Florence ei phumed plentyn ym Medi 1929, un mis cyn i Gwymp Wall Street ddigwydd. O ganlyniad i'r Dirwasgiad Mawr, collodd Cleo ei swydd yn 1931 a symudodd gyda'i deulu i'r gogledd i ennill arian drwy gasglu eirin gwlanog. Bu farw Cleo yn sydyn yn 1933, a symudodd Florence yn ôl i dŷ ei fam yn Oklahoma i esgor ar blentyn arall. Yn ddiweddarach, symudodd Florence gyda'i phlant yn ôl i deulu Cleo yn Merced Falls cyn iddynt grwydro o un dref i'r llall ac yn crafu rhywbeth at fyw. Bu'r plant yn lladd adar er mwyn eu bwyta, ac yn dwyn llysiau rhewllyd o'r caeau o'u cwmpas.

Trefi cytiau a godwyd yng Ngorllewin yr Unol Daleithiau gan bobl ddi-waith yn ystod y Dirwasgiad Mawr oedd Hoovervilles. Ymddangosant gan amlaf ar gyrion dinasoedd a ger cyffyrdd y rheilffyrdd, yn y mannau lle ymgasglai dynion di-waith i sleifio ar drenau er mwyn teithio a chwilio am waith. Fe'u enwyd ar ôl yr Arlywydd Herbert Hoover, a gafodd ei feio gan nifer o bobl am beidio â gwneud digon i ddyliffeithro effeithiau'r drychineb economaidd.

Yn y cyfnod 1920-33, arweiniwyd UDA gan tri arlywydd o'r Blaid Weriniaethol: Warren Harding (1920-23), Calvin Coolidge (1923-28), ac Herbert Hoover (1929-33). Roedd y tri ohonynt o blaid arwahanu ar sail hil. Ceisiodd y gweinyddiaethau Gweriniaethol dyfu'r economi drwy leihau trethi, i roi rhagor o bres ym mhoced y prynwr, a chodi tariffau ar gynnyrch tramor i gael Americanwyr i "brynu'n Americanaidd". Ac eithrio'r rhaglen o ddiffyndollaeth, polisïau laissez-faire a weithredid gan y llywodraeth ffederal yn y cyfnod hwn. Roedd Coolidge yn parchu dynion busnes yr oes ac o blaid cyn lleied o ataliadau a rheoliadau ar ddiwydiant, a gostwng trethi busnes. Cyfranodd y polisïau hyn at ymchwydd economaidd UDA yn y 1920au.

Mab i fewnfudwyr tlawd o Ewrop oedd Henry Ford, ac wedi iddo ddod yn un o ddynion cyfoethocaf ac enwocaf ei oes cafodd ei ystyried yn esiampl yn y cnawd o 'r "breuddwyd Americanaidd". Defnyddiodd mas-gynhyrchu i greu niferoedd mawr o geir a'u gwerthu am bris fforddiadwy. Yn ei fywyd preifat, dyn cas a chreulon oedd Ford, ac yn hynod o wrth-semitaidd.

Cynnig i wahardd cynhyrchiad, cludiant, a gwerthiant alcohol yn UDA oedd y Gwaharddiad (1920-33). Fe'i awdurdodwyd gan Ddeunawfed Welliant y Cyfansoddiad. Pasiwyd Deddf Volstead gan y llywodraeth ffederal i orfodi'r gyfraith ar draws y wlad. Fe'i sbardunwyd gan y mudiad dirwest, a oedd yn ddylanwadol yn UDA ers diwedd y 19g. Roedd y Gwaharddiad yn bwnc llosg drwy gydol y 1920au, a ffynnodd cyfundrefnau troseddol wrth iddynt elwa ar gyflenwi'r galw am ddiod anghyfreithlon drwy bootlegging. Diddymwyd y Gwaharddiad yn 1933 gan yr Unfed Welliant ar Hugain.

Porthladd yn Ninas Efrog Newydd a leolir yn aber Afon Hudson yw Ynys Ellis. Yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g, Ynys Ellis oedd man cyntaf y mwyafrif o fewnfudwyr i'r Unol Daleithiau a deithiodd ar draws Cefnfor yr Iwerydd. Yma oedd canolfan brosesu'r mewnfudwyr, ac roedd yn rhaid iddynt basio prawf corfforol ac ateb cyfres o gwestiynau personol. Danfonwyd y rhai a chanddynt afiechydon difrifo yn ôl gartref. Defnyddiwyd symbolau yn yr archwiliad i ddynodi namau corfforol a chlefydau, gan gynnwys:

  • C conjunctivitis
  • CT trachoma
  • E llygaid
  • F wyneb
  • FT traed
  • G goiter
  • H gwres
  • K hernia
  • L cloffni
  • N gwddf
  • P corfforol, ysgyfaint
  • PG beichiogrwydd
  • SC scalp (ffwng)
  • SI ymchwiliad arbennig
  • X anaf meddyliol posib
  • X mewn cylch anaf meddyliol sicr

Ar ôl 1924, defnyddiwyd Ynys Ellis i brosesu ffoaduriaid yn unig.

Versailles, Weimar a'r Natsïaid[golygu | golygu cod]

angen gwirio

  • unigolyn o bob plaid yn cael ei ethol i'r Reichstag am bob 60,000 o bleidleisiau
  • arlywydd yn bennaeth y lluoedd arfog ac yn penderfynu pryd i gynnal etholiadau
  • arlywydd yn penodi canghellor, canghellor yn penodi'r cabinet
  • canghellor a'r cabinet yn ateb gorchmynion y Reichstag
  • 181 o erthyglau yn y cyfansoddiad
  • Reichstag oedd y prif gorff deddfu
  • cyfansoddiad yn sicrhau hawliau sylfaenol i bobl yr Almaen
  • Reichstag yn symbol o ddemocratiaeth
  • canghellor sy'n colli cefnogaeth yn cael ei ddiswyddo neu angen dewis cabinet newydd
  • Reichstrat (ail dŷ'r senedd): nifer y cynrychiolwyr yn cynrychioli maint y rhanbarth, ond ni all un rhanbarth gael mwy na 2/5 o faint y Reichstrat
  • pob rhanbarth yn yr Almaen gyda llywodraeth ranbarthol
  • o dan reolaeth y cyfansoddiad roedd y prif lywodraeth yn rheoli llawer o faterion rhanbarthol
  • cyfansoddiad yn rhoi'r hawl i refferenda gael eu cynnal (angen i 10% o'r etholaeth arwyddo deiseb o blaid cynigiad)
  • cyfansoddiad yn sicrhau rhyddid economaidd a chrefyddol, bodolaeth urddasol, lles i'r diwaith a'r sâl, ac yr hawl i ymuno ag undebau llafur
  • cadoediad yn fêl i ddwylo Hitler
  • dim ymladd yn ystod lluniad y cytundeb heddwch
  • Almaenwyr yn credu bydd y cytundeb yn deg ac yn ddemocrataidd
  • cynhaliwyd cynhadledd heddwch ym Mharis i lunio'r cytundeb
  • cyflwyno cytundeb i'r Almaen ar 7 Mai 1919 - llawer llymach nag yr oeddynt yn disgwyl
  • cymryd holl drefedigaethau tramor yr Almaen
  • yr Almaen angen talu iawndal rhyfel o £6.6 biliwn i'r Cynghreiriaid
  • y cytundeb oedd prif danwydd Hitler wrth ddod i rym
  • cyfyngiadau ar y fyddin Almaenig
  • colli tir yn y Rheindir a Dwyrain yr Almaen
  • gweld y cytundeb fel diktat i'r Almaen
  • dwylo'r Almaen wedi'u clymu'n wleidyddol
  • morâl cymdeithasol yn isel
  • Almaenwyr yn teimlo fel bod nhw wedi'u twyllo gan Gytundeb Versailles
  • mêl yn nwylo'r comiwnyddion
  • economi'r Almaen dim digon sefydlog neu sylweddol i dalu'r iawndal → argraffu mwy a mwy o arian → chwyddiant → gorchwyddiant
  • Bruning byth yn boblogaidd
  • Bruning yn wan yn y Reichstag - dim ond gyda chefnogaeth Plaid y Canol
  • cefnogaeth dros Von Papen yn gostwng mewn dau etholiad
  • Von Papen yn codi'r gwaharddiad ar yr SA i drio cael cefnogaeth y Natsïaid, ond nid yw'n llwydo sefydlogi ei ganghelloriaeth
  • Hindenburg yn casáu'r SPD ac yn troi yn erbyn Schleicher pan mae'n trio ffurfio clymblaid gyda nhw
  • Hitler yn defnyddio propaganda wedi ei angelu at y gweithwyr i greu delwedd o'r NSDAP fel gobaith olaf yr Almaen

= Hitler yn atgyfnerthu ei rym[golygu | golygu cod]

Gellir rhannu'r cyfnod o'r Natsïaid yn atgyfnerthu eu grym yn 1933–34 yn dri cham:

Ionawr–Mawrth 1933 (rheolaeth o'r canol)
  • 30 Ionawr: Hindenburg yn apwyntio Hitler yn ganghellor ac yn dod i rym trwy'r drws cefn. Ar hyn o bryd, roedd safle Hitler yn ansicr, a dim ond 3 o bob 12 sedd yn nwylo'r Natsïaid. Gallai Hitler gael ei ddiswyddo ar unrhyw adeg.
  • 31 Ionawr: Hitler yn areithio i'r bobl, ac yn chwarae ar wendidau Gweriniaeth Weimar: "Rhowch siawns i ni dangos beth gallen ni wneud." Pwyntiodd ei fys at gomiwnyddion a'r Iddewon fel buchau dihangol. Apeliodd ei bropaganda at nifer o bobl.
  • 1 Chwefror: Cyfarfod cyntaf y Reichstag gyda Hitler yn ganghellor. Perswadio Hindenburg i ddiddymu'r Reichstag. Hitler yn galw am etholiad ar 5 Mawrth 1933.
  • 4 Chwefror: Diddymu papurau newydd an-Natsïaidd. Pwerau gan lywodraethau taleithiol i wahardd cyfarfodydd pleidiau eraill. Llais y bobl yn raddol yn diflannu.
  • 6 Chwefror: Hitler yn perswadio Hindenburg i basio archddyfarniad oedd yn rhoi talaith fwyaf yr Almaen, Prwsia, o dan reolaeth un dyn (Göring). Dechrau'r wladwriaeth heddlu (yr SA a'r SS). Newidiadau cyfreithlon oedd y rhain.
  • 20 Chwefror: Hitler yn cwrdd â diwydianwyr mawr yr Almaen. Hitler yn dymuno taro bargen: arian a chefnogaeth y diwdianwyr os yw Hitler yn addo amddiffyn eu busnesau rhag comiwnyddiaeth.
  • 27 Chwefror: Tân y Reichstag. Symbol o ddemocratiaeth mewn dinistr. Gosod y bai mewn cyfeiriad y comiwnyddion.
  • 28 Chwefror: Deddf Amddiffyn y Bobl a'r Wladwriaeth. Esgus i droi ymgyrch yn erbyn y comiwnyddion. Lot fawr o bropaganda i'w ddod. Hitler yn rhoi ffydd ond yn cymryd hawliau. Hysteria: Hitler yw'r achubydd.
  • 3 Mawrth: Ernst Thalmann, arweinydd y Blaid Gomiwnyddol, ac eraill yn cael eu harestio. Ffydd mewn Hitler: ennill cefnogaeth ar gyfer yr etholiad.
  • 5 Mawrth: Canlyniadau'r etholiad: Natsïaid yn ennill 288 o seddi allan o 647 (43.9% o'r bleidlais) → heb fwyafrif. Dwylo Hitler dal wedi clymu.
  • 8 Mawrth: Gweinidog Mewnol yn cyhoeddi y gwersyll crynhoi cyntaf yn Dachau, ger München. Pwrpas: delio â'r bygythiad o'r Blaid Gomiwnyddol. Ni chafodd hyn argraff wael iawn.
  • 13 Mawrth: Goebbels yn cael ei apwyntio'n Weinidog Propaganda, ac felly'n rheoli cefnogaeth y bobl.
  • 21 Mawrth: Hitler a Hindenburg yn ysgwyd dwylo ar Ddiwrnod Potsdam. Hitler yn gwisgo'n barchus ac yn moesymgrymu i Hindenburg. Buont yn sefyll wrth fedd Ffredrig Fawr, ac yn cwrdd yn yr eglwys gadeiriol yng nghanol y dathliadau. Enillodd Hitler fwy o gefnogaeth boblogaidd o ganlyniad.
  • 23 Mawrth: Y Ddeddf Alluogi. Hitler yn meddu'r hawl i lunio'r gyfraith heb y Reichstag am 4 mlynedd. Dyma'r hoelen olaf yn arch democratiaeth yr Almaen, wrth i'r Reichstag pleidleisio yn erbyn ei hunan. Dilewyd rhyddid a hawliau'r bobl. Enillodd Hitler y bleidlais hon drwy ddefnyddio trais: y Natsïaid yn arestio ac yn gwahardd comiwnyddion. Roedd pleidlais yr SDP yn allweddol. Rhwyg ymysg y sosialwyr, gyda Kaas ar un ochr a Papen ar yr ochr arall.
Ebrill–Gorffennaf 1933 (rheolaeth tu fas i'r canol)
  • 31 Mawrth: Canoli grym. Nifer o ddeddfau yn cyd-lynu'r taleithiau gyda'i gilydd. Rhyddid y bobl yn diflannu. Natsïeiddio'r Almaen: trwy weithredoedd yr heddlu a'r llywodraeth. Pob cam o'r cyfnod hwn, y Gleichschaltung ("cyd-lynu", "cyd-gysylltu"), yn digwydd yn gyfreithlon.
  • 7 Ebrill: Deddf i Adfer y Gwasanaeth Sifil. Dim ond Aryaid yn cael gweithio fel gweision sifil. Iddewon yn colli swyddi. Reichstrathalter (llywodraethwr) yn rheoli pob talaith: Natsïaid yng nghanol pob rhan o'r Almaen. Lleihau'r siawns o wrthryfela.
  • 2 Mai: Hitler yn diddymu'r undebau llafur. Llais y bobl yn diflannu.
  • 6 Mai: Siawns o'r gweithwyr yn gwrthryfela o ganlyniad i 2 Mai, felly aeth Hitler un cam ymlaen drwy sefydlu'r DAF: un undeb mawr i'r cyflogwyr ac i'r gweithwyr (Dr Robert Ley yn ei bennu). Dim hawl i aelodau'r undeb brotestio. Hawliau'r gweithwyr yn mynd lawr y tŷ bach.
  • 22 Mehefin: SPD yn cael ei gwahardd.
  • 5 Gorffennaf: Plaid y Canol yn diddymu eu hunain (cyn i Hitler wneud).
  • 8 Gorffennaf: Concordat â'r Pab.
  • 14 Gorffennaf: Hitler yn gwahardd unrhyw blaid rhag bodoli yn yr Almaen ar wahân i Blaid y Natsïaid. Gwladwriaeth unbleidiol. Delio gyda holl elynion gwleidyddol y llywodraeth. Etholiadau dim yn diflannu: dangos bod y bobl dal yn gallu "dewis", cefnogaeth 100% gan y Natsïaid.
Ionawr–Awst 1934 (o ddemocratiaeth i unbennaeth)
  • Ionawr: Diddymu'r Landtage: y grym nawr i gyd ym Merlin.
  • 30 Mehefin: Noson y Cyllyll Hirion
    • Hitler yn cael gwared ar fygythiad Ernst Röhm a'r Ail Chwyldro
    • Gambl enfawr i Hitler: dal gan Hindenburg yr hawl i ddiddymu Hitler o'r llywodraeth
    • Hitler yn cael gwared ar nifer o elynion yn ogystal â'r SA
    • Hitler yn cyfreithloni'r cyflafan
    • Niferoedd yr SA yn gostwng o 2.9 miliwn i 1.2 miliwn
  • 2 Awst: Hindenburg yn marw. Hitler oedd y dyn pwysicaf, a daeth yn Führer. Difetha democratiaeth a sefydlu'r unbennaeth. Hitler yn rhoi egwyddor Führerprinzip ar waith. Y Natsïaid yn troi'r Almaen yn wladwriaeth dotalitaraidd. Y fyddin yn tyngu llw o ffyddlondeb i Hitler.
  • 19 Awst: refferendwm: llinyn fesur i ddangos cefnogaeth Hitler. 90% o'r etholwyr yn pleidleisio o blaid Hitler. Heb gefnogaeth yr holl bobl. Dal canran arwyddocáol o'r boblogaeth yn gwrthwynebu Hitler. Wedi symud o wladwriaeth ddemocrataidd i wladwriaeth unbennaidd mewn 18 mis. Bellach, yr unig wir fygythiad i Hitler oedd y chwyldro oddi isod (hynny yw, y bygythiad mewnol o blith y Natsïaid).