Neidio i'r cynnwys

Death Valley (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
Death Valley
MathDirgelwch
Crëwyd ganPaul Doolan
Yn serennu
Gwlad tarddiadY Deyrnas Unedig
Iaith gwreiddiolSaesneg
Nifer o gyfresi1
Nifer o benodau6
Cynhyrchu
Amser rhedeg45 munud
Cwmni cynhyrchuBBC Studios
Dyddiad rhyddhau gwreiddiol
RhwydwaithBBC One
Dyddiad rhyddhau25 Mai 2025 (2025-05-25) –
presennol

Cyfres deledu trosedd ddirgelwch yw Death Valley gyda Timothy Spall a Gwyneth Keyworth yn serennu. Darlledwyd am y tro cyntaf ar 25 Mai 2025 ar BBC One a BBC iPlayer.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Wedi'i lleoli ym nhref ffuglennol Cwmishel rhywle yn Ne Cymru, mae'r gyfres ddirgelwch yn dilyn y bartneriaeth annhebygol o ddatrys troseddau rhwng y trysor cenedlaethol ecsentrig John Chapel (Timothy Spall), actor wedi ymddeol a seren y sioe deledu dditectif ffuglennol boblogaidd Caesar, a'r Rhingyll Ditectif Janie Mallowan (Gwyneth Keyworth).

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfres chwe rhan wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Paul Doolan, sydd yn awdur comedi profiadol. Ychwanegwyd elfen Gymreig gref i'r sgript drwy gyfraniadau'r awdures Siân Harries.[1]

Cafodd Timothy Spall a Gwyneth Keyworth eu dewis i chwarae'r prif rannau ym mis Mai 2024.[2] Hefyd yn y cast mae Steffan Rhodri, Alexandria Riley a Melanie Walters. Mae sêr gwadd yn cynnwys Kiell Smith-Bynoe, Sian Gibson, Patricia Hodge a Jim Howick.[3]

Yn ôl Doolan, mae'r ditectif Janie Mallowan yn cymryd ei henw o enw priodasol Agatha Christie, Mallowan, ac o gymeriad Christie, Jane Marple.[4]

Ffilmiwyd y gyfres gyntaf ym mis Mehefin 2024 ym Mhenarth, yn enwedig Clwb Ceidwadol Penarth a Phier Penarth, ac yn Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg, gan gynnwys Eglwys Sant Illtyd.[5][6]

Darlledu

[golygu | golygu cod]

Dangoswyd y gyfres gyntaf o 25 Mai 2025[7] ar BBC One a BBC iPlayer.[8]

Cast a chymeriadau

[golygu | golygu cod]

Derbyniad

[golygu | golygu cod]

Dywedodd y Guardian ei bod yn gyfres ddirgelwch glyd o safon, gan ei galw'n "ffraeth a hwyliog".[9] Yn The Daily Telegraph rhoddodd Benji Wilson bedair seren allan o bump i'r nofel agoriadol; "Mae ditectif ffraeth Timothy Spall yn profi i fod yn gystadleuydd i Ludwig".[10]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Baalla, Sara (2025-05-17). "BBC Death Valley's rural Welsh filming locations posed unexpected 'challenges'". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-16.
  2. Goldbart, Max (19 Mai 2024). "BAFTA-Winning 'Sixth Commandment' Star Timothy Spall Leading BBC Comedy-Drama 'Death Valley'". Deadline Hollywood. Cyrchwyd 24 Mai 2024.
  3. "Death Valley - the new BBC comedy drama - reveals cast". Comedy.co.uk. 11 Medi 2024. Cyrchwyd 13 Medi 2024.
  4. "How much do I love detectives? My dog's called Dorothy L Sayers..." Chortle. 20 Mai 2025. Cyrchwyd 8 Mehefin 2025.
  5. "BBC's Death Valley starring Timothy Spall films in Penarth". Penarth Times. 16 Mehefin 2024. Cyrchwyd 16 Mehefin 2024.
  6. Jones, Indigo (25 Mai 2025). "BBC Death Valley's full list of Welsh filming locations". Wales Online.
  7. "Gavin & Stacey stars join Timothy Spall in BBC comedy drama Death Valley". radiotimes.com. Cyrchwyd 12 Medi 2024.
  8. White, George (20 Mai 2024). "Timothy Spall leads new BBC comedy murder mystery Death Valley". Radio Times. Cyrchwyd 16 Mehefin 2024.
  9. Mangan, Lucy (2025-05-25). "Death Valley review – Timothy Spall's quality new detective drama is a cosy, witty joy". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-06-05.
  10. Wilson, Benji. "Death Valley, review: Timothy Spall's witty sleuth proves a rival for Ludwig". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 27 Mai 2025.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]