Dawns forys

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dawnswyr morys yng Gŵyl Werin Genedlaethol Awstralia
Dawnswyr Earlsdon yng Gŵyl Werin Whitby
Dawnswyr Cadi Ha yng Nghaerwys
Plough Stots Goathland
Dawnswyr morys yn California

Mae Dawns Forys yn fath o ddawns werin Saesnig.


Tarddiad y gair ‘Morys’[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’n debyg bod y gair yn tarddu o’r Ffrangeg ‘morisque’, sydd yn golygu dawns. Daeth ‘morisque’ yn ‘moricsh’ yn Fflemineg ac wedyn ‘moryssh’ yn Saesneg.[1]


Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cofnod o berfformiad gan ddawnswyr morys yn Llundain ar 19 Mai 1448, a dawnsiodd Will Kemp o Lundain i Norwich tua 1600.


Daeth Morys yn llai boblogaidd yn ystod y 18g, nd goroesodd y draddodiad. Roedd dawns morys yn rhan o ddathliad Jubili aur Brenhines Victoria ym 1887, ac mae cofnod bod dawnswyr o Chwarel Headington wedi dawnsio yn ystod darlith gan Percy Manning yng Nghyfnewidfa Ŷd Rhydychen ym Mawrth 1899. [1]


Gwelodd Cecil Sharp ddawns forys am y tro cyntaf ym 1899, a chasgliodd o’r gerddoriaeth. Ffurfiodd Gymdeithas Ddawns Werin Saesnig ym 1911, y daeth yn Gymdeithas Ddawns a Chân Werin Saesnig ym 1932.


Cyhoeddodd Sharp rhan cyntaf y Llyfr Morys ym 1907, a’r ail ran ym 1909. Cyhoeddwyd Llyfr Morys Esprans gan Mary Neal ym 1910. Defnyddiwyd y llyfrau mewn ysgolion a mewn clybiau dawns werin.


Ffurfiwyd mwy o glybiau morys a chleddf yn y 20au a 30au. Ffurfiwyd y Cylch Morys ym 1934 gan Ddawnswyr Caergrawnt, Dwyrain Surrey, Greensleeves, Letchworth, Prifysgol Rhydychen a Thaxted. Ffurfiwyd mwyafrif y clybiau yn ystod yr 80 mlynedd ddiwethaf. Mae gan pob clwb sgweier, sydd yn drefnydd, blaenwr, sydd yn dysgu’r dawnsiau, a bagman, sydd yn drysorydd.


Mae sawl math o ddawns forys, yn cynnwys defnydd o ffyn, cadachau a chleddyfau yn ogystal a dramau mwmio a defodau gwerinol, yn cynnwys Dawns forys Gotswold, Dawns forys Molly, Dawns forys cyffiniau Cymru, Dawns forys clocsen Gogledd-orllewinol, Dawns forys cleddyf hir a Dawns Rapper


Cynhelir cyfarfod blynyddol y Cylch Morys yn Thaxted, Swydd Essex.

Y calendr[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn draddodiadol, perfformwyd dawns forys ar amserau penodol y flwyddyn; yn canolbarth Lloegr, y Sulgwyn; Yn y gogledd-orllewin, yr Haf; cleddyf hir a rapper, y Nadolig. Erbyn hyn perfformir dawns forys yng ngwyliau werin trwy’r flwyddyn. Mae sawl math o ddawns forys sydd yn unigryw i un lleoliad penodol, megis Gŵyl Cadi Ha yn Nhrefynnon, Dawnswyr Cnau Coco Bacup, Dawnswyr Corn Abbots Bromley a Dawns Obby Oss Padstow.[2]

Dramau Mumming[golygu | golygu cod y dudalen]

Dramau traddodiadol gyda enwau amrywiol o ardal ardal, megis ‘souling’, ‘pace-egging’, ‘tipteers’ a ‘plough jacks’. Perfformir y drama tu mewn neu tu allan tafarndai, heb lwyfan. Casglwyd eu geiriau traddodiadol erbyn 1914. Ychwanegir darnau newydd i adlewyrchu digwyddiadau cyfoes. Mae cymeriadau sydd yn gyffredin i’r dramau i gyd; Sant Siors, marchog Twrcaidd a meddyg. Fel arfer, lleddir Sant Siors gan y marchog Twrcaidd ac wedyn atgyfodir gan y meddyg.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

P dance.png Eginyn erthygl sydd uchod am ddawns. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am dawns forys
yn Wiciadur.