David Welch (actor)
Gwedd
| David Welch | |
|---|---|
| Ganwyd | David Welch |
| Galwedigaeth | actor |
| Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
Fel "Actor, canwr, cyfansoddwr a bardd"[1] y disgrifir David Welch o Gydweli,[2] Cymru yn The Stage ym 1968. Nodwyd hefyd ei fod wedi cyflwyno nifer o "sioeau-un-dyn" drwy'r wlad ac wedi teithio a pherfformio yn Awstralia, India a Seland Newydd.[1] Bu'n rhan o'r cast a lwyfannodd y dramâu cerdd King's Rhapsody a South Pacific (1952).
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn siaradwr Cymraeg, cafodd ei eni yng Nghydweli, a symud oddi yno i fyw yn Chelsea, Llundain.[3] Dechreuodd ei yrfa yn canu yn y capel.[3]
Ym 1969, cynigiodd y dylid adeiladu theatr fechan yn Nhalacharn, er cof am Dylan Thomas.[4]
Ymunodd â Chwmni Theatr Cymru ym 1969, a bu'n rhan o gynyrchiadau fel Cilwg yn Ôl (1969) ac Y Ffordd (1970).
Symudodd i fyw yng Nghaernarfon yn y 1970au.[5]
Gwaith
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]Llundain
- King's Rhapsody (1950au) Palace Theatr [sioe Ivor Novello][3]
- South Pacific (1952) Taith Awstralia a Seland Newydd [6]
- Cilwg yn Ôl (1969)
- Y Ffordd (1970)
Teledu
[golygu | golygu cod]- Adar y Nos (1960)[2]
Radio
[golygu | golygu cod]- When Day is Done
- Souvenirs
- Welsh Rarebit
Oriel
[golygu | golygu cod]- David Welch
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Cymru Post". The Stage. 14 Tachwedd 1968.
- ↑ 2.0 2.1 "Welsh TV". South Wales Gazette. 29 Ionawr 1960.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "One Man Talent Show". Westminster and Pimlico News. 30 Mehefin 1967.
- ↑ "Theatre Memorial to Dylan?". Liverpool Daily Post. 2 Hydref 1969.
- ↑ "Man of Many Parts". Daily Post. 14 Ebrill 1971.
- ↑ "South Pacific (Australian Production, 1952) | Ovrtur: Database of Musical Theatre History". ovrtur.com. Cyrchwyd 2025-08-31.