David Thompson (gwleidydd Barbadaidd)

Oddi ar Wicipedia
David Thompson
Ganwyd25 Rhagfyr 1961 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw23 Hydref 2010 Edit this on Wikidata
Saint Philip Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBarbados Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Combermere School
  • Prifysgol India'r Gorllewin
  • Hugh Wooding Law School
  • University of the West Indies - Cave Hill Campus Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, cyfreithegwr Edit this on Wikidata
SwyddMember of the House of Assembly of Barbados, Prif Weinidog Barbados Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolDemocratic Labour Party Edit this on Wikidata
PriodMara Thompson Edit this on Wikidata

Cyfreithiwr a gwleidydd Barbadaidd oedd David John Howard Thompson (25 Rhagfyr 196123 Hydref 2010)[1] oedd yn Brif Weinidog Barbados o Ionawr 2008 hyd ei farwolaeth.

Cafodd ei eni yn Llundain a'i fagu ym Marbados. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol India'r Gorllewin ac ym 1986 ymunodd â Trident Chambers, cwmni cyfreithwyr dan arweiniad Errol Barrow, Prif Weinidog cyntaf Barbados. Daeth Thompson yn bennaeth adran ieuenctid y Blaid Lafur Ddemocrataidd (DLP)[1] ac ym 1987 enillodd is-etholiad i fod yn Aelod Seneddol dros Saint John wedi i Barrow, AS yr etholaeth honno, farw. Gwasanaethodd fel Gweinidog Datblygiad Cymunedol a Diwylliant ac yna Gweinidog Cyllid yn ystod llywodraeth y Prif Weinidog Lloyd Erskine Sandiford ar ddechrau'r 1990au.[2] Daeth Thompson yn arweinydd y DLP ym 1994 ond collodd y blaid etholiadau cyffredinol ym 1994 a 1999. Ymddiswyddodd o arweinyddiaeth y blaid ym mis Medi 2001[2] gan ddychwelyd at fod yn gyfreithiwr,[1] ond dychwelodd i arwain y DLP yn Ionawr 2006.[2]

Enillodd y DLP fwyafrif seneddol yn etholiad cyffredinol 2008 a daeth Thompson yn chweched Brif Weinidog y wlad ers ei hannibyniaeth. Roedd Thompson yn Brif Weinidog etholedig ieuaf y wlad.[3] Bu farw o ganser y pancreas yn ei gartref ym mhlwyf Saint Philip yn 2010.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) McKittrick, David (19 Tachwedd 2010). David Thompson: London-born politician who became Prime Minister of Barbados. The Independent. Adalwyd ar 23 Mai 2013.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Thompson: 'much at stake for Barbados'. BBC (16 Ionawr 2008). Adalwyd ar 23 Mai 2013.
  3. (Saesneg) David Thompson, Barbados Prime Minister, Dies at 48. The New York Times (23 Hydref 2010). Adalwyd ar 23 Mai 2013.
  4. (Saesneg) Barbados Prime Minister David Thompson dies of cancer. BBC (23 Hydref 2010). Adalwyd ar 23 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Baner BarbadosEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Farbadiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.