David Robert Daniel
| David Robert Daniel | |
|---|---|
| Ganwyd | 6 Mai 1859 Llandderfel |
| Bu farw | 14 Medi 1931 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gohebydd gyda'i farn annibynnol, gwas sifil, undebwr llafur |
| Mam | Jane Davies |
Roedd David Robert (D. R.) Daniel (6 Mai, 1859 – 4 Medi, 1931) yn llenor a threfnydd cymdeithasol Cymreig.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd D. R. yn Ty'n-y-bryn, Llandderfel, yn blentyn i Robert Daniel, amaethwr, a Jane (née Roberts) ei wraig, fe'i haddysgwyd yn ysgol ramadeg y Bala, lle'r oedd yn gyd-ddisgybl a Thomas Edward Ellis ac Owen Morgan Edwards, bu'r tri yn gyfeillion gydol oes. O'r ysgol ramadeg aeth D. R. i Goleg Annibynwyr y Bala. Yn y coleg cafodd ei ysbrydoli gan genedlaetholdeb pybyr y prifathro, Michael D. Jones.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi cyfnod o weithio gartref ar y fferm aeth D. R. am daith i'r Unol Daleithiau ym 1885, gan ymchwilio i wleidyddiaeth rhyddfrydol y wlad. O ganlyniad i'r daith daeth yn gefnogwr brwd i'r syniad o fasnach rydd, a bu'n darlithio ac areithio o blaid y syniad yn rheolaidd. Ym 1887 cafodd ei benodi yn drefnydd gogledd Cymru o'r Undeb Dirwest Prydeinig a daeth i amlygrwydd cenedlaethol fel areithiwr poblogaidd yn y cymanfaoedd dirwest. Symudodd i fyw i'r Ffôr ar ôl gael ei swydd newydd a daeth yn weithgar mewn achosion gwleidyddol Llyn ac Eifionydd. Cafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Plwyf Aber-erch a fu yn henadur (cynghorydd trwy apwyntiad) ar Gyngor Sir Gaernarfon. Cynorthwyodd David Lloyd George i sefydlu "Utgorn Cymru",[3] papur i hyrwyddo buddiannau gwleidyddol DLlG cyn ei etholiad cyntaf.

Ym 1896 daeth yn ysgrifennydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Bu yn y swydd hyd 1908. Roedd yn ysgrifennydd yr Undeb trwy gyfnod Streic Fawr y Penrhyn, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes gwledydd Prydain. D. R. oedd yn gyfrifol am greu a chyhoeddi'r posteri enwog "Nid oes Bradwr yn y Tŷ Hwn"[4]
Ym 1908 aeth i weithio gyda'r Gwasanaeth Sifil gan wasanaethu fel ysgrifennydd comisiwn brenhinol ar erydiad tir glan y môr ac fel ysgrifennydd Comisiwn ar yr Eglwys yng Nghymru a oedd ar y pryd yn ymwneud a datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru o Eglwys Loegr.
Fel llenor bu D. R. Daniel yn gyfrannwr rheolaidd o erthyglau i gylchgronau Cymru yn arbennig i Cymru, a'r Tyst Dirwestol. Dechreuodd ysgrifennu cyfrol coffa i Tom Ellis, ond bu farw cyn ei chwblhau. Defnyddiwyd nodiadau D. R. gan Thomas Iorwerth Ellis ar gyfer ei gofiant i'w dad [5]
Teulu
[golygu | golygu cod]
Ym 1887 priododd Sarah Elizabeth Jones.[6] Bu iddynt fab, Peredur Llwyd Daniel.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw D. R. Daniel yn ei gartref yn Y Ffôr yn 72 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent capel Llandderfel.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "DANIEL, DAVID ROBERT (1859 - 1931), llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2025-08-25.
- ↑ Papur Pawb 15th Mehefin 1895 Yr Henadiur D. R, Daniel.
- ↑ Cylchgrawn y Gymdeithas Lyfryddol Gymreig Cyfrol. 11, Rhif. 3/4, 1975/76 tudalen 209 Price, Emyr Newyddiadur Cyntaf David Lloyd George
- ↑ Lleufer cylchgrawn Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru. Cyf. 14, rh. 3, Hydref 1958 tudalen 123 Owen, Emyr Hywel "Rhagor o gefndir Chwalfa]
- ↑ Y Traethodydd, Cyf. XCIX (XIII) (430-433), 1944 tudalen 187 Roberts, D Francis Adolygiad Thomas Edward Ellis (Cofiant), Cyfrol I. (1859—1886) gan T. I. Ellis.
- ↑ Mynegai Priodasau Cofrestru Sifil Lloegr a Chymru,1837-1915. Chwarter Ion-Chwef-Mawrth 1887. Ardal Gofrestru'r Bala, Sir Feirionnydd. Cyfrol 11b, Tudalen 457
- ↑ "David Robert Daniel (1859-1931) - Find a Grave..." www.findagrave.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-25.