David Onllwyn Brace
David Onllwyn Brace | |
---|---|
Ffugenw | Onllwyn |
Ganwyd | 11 Tachwedd 1848 Onllwyn |
Bu farw | 28 Mehefin 1891 Aberdâr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, bardd |
Roedd y Parch David Onllwyn Brace (11 Tachwedd 1848 – 28 Mehefin 1891) yn weinidog yr Annibynwyr, ac yn fardd o Gymru.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Onllwyn yn yr Onllwyn, Dyffryn Dulais; yn blentyn i John Brace, gweithiwr haearn a Gwenllian (née Hurt) ei wraig. Prin iawn bu unrhyw addysg a gafodd. Yn wyth oed dechreuodd gweithio fel cariwr llythyrau o Ystradgynlais i'r Onllwyn. Gan fod cario llythyrau yn waith y bore cynnar iawn roedd wedi cyflawni ei ddydd o waith mewn pryd i fynychu gwersi'r prynhawn yn yr ysgol ddyddiol.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi ychydig fisoedd o gario llythyrau yn y bore ac ysgol yn y prynhawn cafodd Onllwyn swydd yn siop yr of a daeth ei ysgol ffurfiol i ben. Dechreuodd gweithio fel negesydd i'r gof ond erbyn yr oedd yn 13 mlwydd oed mae cyfrifiad 1861 yn dangos ei fod wedi cyrraedd rheng träwr yn yr ofaint.[3]
Dechreuodd pregethu yng nghapel Annibynwyr Onllwyn pan oedd yn laslanc[4] ac yn 18 oed aeth i Goleg Annibynwyr y Bala i hyfforddi am y weinidogaeth. Ar ôl tair blynedd yn y coleg derbyniodd alwad i fod yn weinidog gan Annibynwyr Rhosymedre, Sir Ddinbych, lle cafodd ei ordeinio ar 24 Hydref 1870.[5] Ymadawodd â'r weinidogaeth ym 1872 oherwydd problemau iechyd, a symudodd adref at ei deulu i geisio adferiad.[6] Ym 1873 cymerodd ofal capeli Bethel, Glantwrch, a Pant-y-Crwys, Cwmclydach[7] cyn symud i gapel Bethel Aberdâr ym 1878, lle arhosodd am weddill ei fywyd byr.
Bardd
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Onllwyn barddoni pan oedd yn ifanc iawn. Mae rhai o'i rigymau am ei gyd weithwyr yn siop y gof, pan oedd yn llai na 10 mlwydd oed dal ar gadw. Enillodd ei wobr gyntaf am farddoniaeth pan oedd tua 11 oed, mewn eisteddfod capel yn Abercraf.[2] Am ei ddawn i ganu marwnadau, mae Onllwyn yn cael ei gofio mwyaf. Canodd gymaint o gerddi coffa i bobl marw fel bod rhai yn cyfeirio ato fel "Jeremeia Cymru" (roedd Jeremeia yn broffwyd Beiblaidd oedd yn enwog am ei alaru).
Roedd peth feirniadaeth ohono am ei farwnadau lluosog. Cyfansoddodd y mwyafrif ohonynt er mwyn cystadlu (ac ennill gwobrau ariannol) mewn eisteddfodau gan godi'r feirniadaeth ei fod yn cyfansoddi am y geiniog yn hytrach nag oherwydd y golled.
Canodd Evan Samuel (Cadifor) yn ei gerdd am "Onllwyn Brace fel Marwnadwr"[8]:—
“ | Lledir ei logell a dŵr ei lygaid | ” |
Mewn ysgrif yn Yr Haul ym 1905 meddai awdur anhysbys amdano[9]:—
“ | Yr oedd talent ddiamheuol ac awen wir yn meddiant y diweddar Onllwyn Brace, ond yr oedd braidd yn ddigri sylwi mor naturiol y gallai wylo ar ôl pawb yn ddiwahaniaeth. Gwobr dda oedd yr unig amod, a gwelid awen Onllwyn yn wylo fel pe ar dorri ei chalon. | ” |
Ond er tegwch i Onllwyn, roedd yn arfer, ar y pryd, i deulu'r ymadawedig cyflwyno wobrau uwch na'r cyffredin ar gyfer cystadlaethau cerddi coffa mewn eisteddfod. Os oedd pwyllgor yr eisteddfod yn cynnig gwobr o 5 swllt am gyfres o englynion i'r "tebot", byddai teulu'r "diweddar John Jones" yn cynnig gwobr o 5 gini am gerdd debyg i'w hanwylyd. Y bwriad oedd denu'r beirdd gorau i gystadlu er mwyn cael y gerdd gorau i'r un annwyl. A phwy all beio'r beirdd gorau am ildio i ddymuniad y teulu, a llyncu'r abwyd?[2]
Cyhoeddwyd nifer o'i ganeuon yn y papurau a chylchgronau Cymraeg a chasglwyd dau lyfr o'i ganiadau:—
- Cerddi Onllwyn, (1888)
- Rachel, (1890)
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref yn Aberdâr yn 48 mlwydd oed,[10] gan adael Rachel (née Williams), ei wraig dau fab a ddwy ferch. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Aberdâr.[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "BRACE, DAVID ONLLWYN (1848 - 1891), gweinidog Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-04-10.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Cwrs y byd | Cyf. I rhif. 8 - Awst 1891 | 1891 | Cylchgronau Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2022-04-10.
- ↑ Yr Archif Genedlaethol; Cyfrifiad Yr Onllwyn 1861, cyfeirnod RG09/ 4093; Ffolio 55
- ↑ "Diwygiwr | Awst 1891 | 1891 | Cylchgronau Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2022-04-10.
- ↑ "Bala Galwad - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1870-09-14. Cyrchwyd 2022-04-10.
- ↑ "RHOSYMEDRE - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1872-03-27. Cyrchwyd 2022-04-10.
- ↑ "NEWYDDION CYMREIG - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1873-01-25. Cyrchwyd 2022-04-10.
- ↑ "ONLLWYN BRACE FEL MARWNADWR-The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1883-10-13. Cyrchwyd 2022-04-10.
- ↑ "Yr haul | Cyf. VII rhif. 76 - Ebrill 1905 | 1905 | Cylchgronau Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2022-04-10.
- ↑ "MARWOLAETH ONLLWYN BRACE - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1891-07-08. Cyrchwyd 2022-04-10.
- ↑ "DEATH OF THE REV ONLLWYN BRACE - South Wales Echo". Jones & Son. 1891-07-02. Cyrchwyd 2022-04-10.