David Nicholas
David Nicholas | |
---|---|
Ganwyd | 25 Ionawr 1930 ![]() Tregaron ![]() |
Bu farw | 6 Mehefin 2022 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr ![]() |
Swydd | llywydd corfforaeth, llywydd corfforaeth, cadeirydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | CBE, Marchog Faglor ![]() |
Newyddiadurwr teledu a gweithredwr busnes o Gymru oedd Syr David Nicholas CBE (25 Ionawr 1930 – 4 Mehefin 2022). Mewn gyrfa hir gyda chwmni newyddion ITN, bu'n brif olygydd, prif weithredwr (1977–1989), a chadeirydd (1989–91).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Nicholas ar 25 Ionawr 1930 yn Nhregaron, Ceredigionge. Roedd yn fab i Daniel Nicholas, prif dderbynnydd arian mewn banc, a'i wraig Elizabeth (née Williams). Magwyd ef yng Nglyn-nedd, Sir Forgannwg, a mynychodd ysgol ramadeg Castell-nedd. Ar ôl graddio mewn Saesneg (Baglor yn y Celfyddydau) o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a gwneud gwasanaeth cenedlaethol yng nghorff addysg y Fyddin (o 1951 i 1953), daeth Nicholas yn newyddiadurwr. Gweithiodd ar The Yorkshire Post, yna gweithiodd ar The Daily Telegraph fel is-olygydd.[1][2][3][4]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ymunodd Nicholas ag ITN ym 1960 fel is-olygydd.[5] Roedd yn gwneud shifft penwythnos ar The Observer hefyd. Gweithiodd ei ffordd i fyny i fod yn brif is-olygydd ac yna'n ddirprwy olygydd ym 1963. Ef oedd cynhyrchydd rhaglen News at Ten ITN pan sefydlwyd y rhaglen. Rhwng 1966 a 1987 roedd yn brif olygydd, a chynhyrchodd ddarllediadau noson etholiad yn ogystal â darllediadau Glaniad Apollo ar y Lleuad, a rhaglenni arbennig ITN. Daeth yn brif weithredwr ITN o 1977 i 1989, ac yna'n gadeirydd o 1989 hyd at ei ymddeoliad ym 1991. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr Channel 4 o 1992 i 1997 ac yn gadeirydd Sports News TV o 1996 i 2003.[1][2][3][4] Roedd yn Olygydd Gwadd yn Ysgol Newyddiaduraeth Graddedigion Berkeley (o 1993) ac yn Ysgol Newyddiaduraeth, Prifysgol Boulder, Colorado (o 1994). Roedd hefyd yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Deptford Challenge o 1996 i 2005 ac yn Aelod o Gyngor Coleg Goldsmiths, Llundain, o 1996 i 2003[6]
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Derbyniodd Nicholas Wobr Urdd y Cynhyrchwyr ym 1967 (am rhaglenni yn dangos dychweliad mordaith Syr Francis Chichester). Derbyniodd Gymrodoriaeth (FRTS) hefyd ym 1980, Gwobr Cyril Bennett ym 1985, Gwobr y Beirniaid ym 1991 a gwobr Cyflawniad Oes gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 2012.[6] Dyfarnwyd CBE iddo yn Anrhydeddau Pen-blwydd 1982 a Baglor Marchog yn Anrhydeddau Pen-blwydd 1989. Fe'i gwnaed yn Gymrawd Coleg Prifysgol Aberystwyth a derbyniodd radd er Anrhydedd (LLD) gan Brifysgol Cymru ym 1990. Cafodd ei ethol ddwywaith yn Llywydd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr ei brifysgol ym 1990 a 1992. Dyfarnwyd gradd er anrhydedd (DHL) iddo hefyd gan Brifysgol De Illinois yn 2000. Derbyniodd hefyd Wobr Cyflawniad Oes News World yn 2001 a chafodd ei wneud yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Goldsmiths, Llundain yn 2004.[1][2][3][4][6]
Teulu
[golygu | golygu cod]Roedd Nicholas yn briod â Juliet Davies o 1952 hyd at ei marwolaeth yn 2013. Roedd gan y cwpl ddau o blant.[4]
Bu farw ar 4 Mehefin 2022 yn 92 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Former ITN editor Sir David Nicholas dies aged 92". The Independent (yn Saesneg). 6 Mehefin 2022. Cyrchwyd 9 Mehefin 2022.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Brazier, Tori (7 Mehefin 2022). "Sir David Nicholas, former ITN editor, dies aged 92". Metro (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Mehefin 2022.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Sir David Nicholas obituary". The Times (yn Saesneg). 7 Mehefin 2022. ISSN 0140-0460. Cyrchwyd 9 Mehefin 2022.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Hayward, Anthony (6 Mehefin 2022). "Sir David Nicholas obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Mehefin 2022.
- ↑ "ITN at 60: Sir David Nicholas". ITN (yn Saesneg). 16 Medi 2015. Cyrchwyd 9 June 2022.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 "Nicholas, Sir David, (born 25 Jan. 1930), Editor and Chief Executive, 1977–89, Chairman, 1989–91, Independent Television News" (yn en), Who's Who (Oxford University Press), 2007-12-01, doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u29459, ISBN 978-0-19-954088-4, http://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540884.001.0001/ww-9780199540884-e-29459, adalwyd 2022-06-09