Martyn Lloyd-Jones

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o David Martyn Lloyd-Jones)
Martyn Lloyd-Jones
Ganwyd20 Rhagfyr 1899 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mawrth 1981 Edit this on Wikidata
Ealing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd, gweinidog yr Efengyl, meddyg Edit this on Wikidata
PlantElizabeth Lloyd-Jones Edit this on Wikidata

Gweinidog, meddyg ac awdur oedd David Martyn Lloyd-Jones (20 Rhagfyr 18991 Mawrth 1981) a oedd yn hynod o ddylanwadol yn y mudiad Efengylaidd yng ngwledydd Prydain yn yr 20g. Bu'n gweinidogaethu mewn capel yn Llundain am bron i 30 mlynedd. Gwrthwynebai Gristnogaeth Ryddfrydol yn gryf iawn a chefnogai Efengylwyr Anglicanaidd a ddymunai adael eu henwad. Credai mai dim ond drwy ddod at ei gilydd oedd gwir gymrodaeth (neu frawdgarwch) Cristnogol yn bosibl.

Y blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Yng Nghaerdydd y ganwyd Lloyd-Jones a chafodd ei fagu yn Llangeitho, Ceredigion. Groser oedd ei dad ac roedd gan Lloyd-Jones ddau frawd. Yn Llangeitho, y bu gweinidogaeth Daniel Rowland, ac roedd y pentref yn fan canolog yn y Diwygiad Methodistaidd. Bu'n ddisgybl mewn ysgol ramadeg yn Llundain rhwng 1914 ac 1917 cyn treulio amser fel myfyriwr meddygol yn Ysbyty Bartholomew. Derbyniodd radd feddygol MD o Brifysgol Llundain, a daeth yn Aelod o Goleg Brenhinol y Ffisegwyr.[1] Am ddwy flynedd teimlodd yr alwad i ddychwelyd i Gymru i bregethu ac ildiodd i'r alwad honno yn 1927 gyda'i briod newydd Bethan (nee Phillips). Yn ddiweddarach cawsant ddau o blant: Elizabeth ac Ann. Derbyniodd wahoddiad i weinidogaethu mewn eglwys yn Aberafon, Porth Talbot.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Eveson 2004, t. 41.