David Malpass

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
David Malpass
David Malpass, World Bank Group President.jpg
Ganwyd 8 Mawrth 1956 Edit this on Wikidata
Michigan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Gwasanaeth Dramor Edmund A. Walsh
  • Prifysgol Denver
  • Coleg Colorado Edit this on Wikidata
Galwedigaeth economegydd Edit this on Wikidata
Swydd Llywydd Banc y Byd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol plaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.growpac.com/ Edit this on Wikidata

Economegydd a banciwr Americanaidd yw David Robert Malpass (ganed 8 Mawrth 1956) sydd yn swydd Llywydd Banc y Byd ers 2019.

Gweithiodd yn Adran y Trysorlys dan weinyddiaethau'r Arlywyddion Ronald Reagan a George H. W. Bush. Gweithiodd yn swydd prif economegydd y banc Bear Stearns am 15 mlynedd hyd at yr argyfwng ariannol yn 2008. Cafodd ei feirniadu am ysgrifennu sawl erthygl i'r Wall Street Journal ar bynciau economaidd, gan gynnwys un yn Awst 2007 a ragdybiai na fyddai'r cwymp yn y farchnad dai a dyledion y banciau yn effeithio ar yr economi. Wedi iddo ymddiswyddo o Bear Stearns, sefydlodd Malpass y busnes ymchwil Encima Global, a fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr i sawl cwmni ariannol. Dychwelodd Malpass i Adran y Trysorlys yn Awst 2017 yn swydd is-ysgrifennydd dros faterion rhyngwladol.[1]

Fe'i enwebwyd ar gyfer llywyddiaeth Banc y Byd gan yr Arlywydd Donald Trump yn Chwefror 2019, wedi i Jim Yong Kim ymddiswyddo.[2] Fe'i ddetholwyd gan fwrdd cyfarwyddwyr gweithredol Banc y Byd ar 5 Ebrill, a dechreuodd yn y swydd ar 9 Ebrill.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) "David Malpass: Who is Trump's pick for World Bank president?", BBC (6 Chwefror 2019). Adalwyd ar 1 Ionawr 2020.
  2. (Saesneg) "Trump backs World Bank critic Malpass for top job", BBC (6 Chwefror 2019). Adalwyd ar 1 Ionawr 2020.
  3. (Saesneg) "David Malpass", Banc y Byd. Adalwyd ar 1 Ionawr 2020.