David Jones (Llan-gan)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o David Jones (Llangan))
David Jones
Ganwyd10 Gorffennaf 1736, 1735 Edit this on Wikidata
Llanllwni Edit this on Wikidata
Bu farw12 Awst 1810 Edit this on Wikidata
Manorowen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, clerig Edit this on Wikidata

Roedd David Jones (10 Gorffennaf 1736 - 12 Awst 1810) yn offeiriad Cymreig, cafodd dylanwad mawr ar ddatblygu a lledaenu Methodistiaeth cynnar yng Nghymru [1][2]. Roedd yn cael ei adnabod fel Angel Llan-gan.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jones yn Aber Ceiliog ym mhlwyf Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Richard Jones (ffermwr) a Gwenllian ei wraig. Syrthiodd i mewn i faril o laeth berwedig pan oedd yn blentyn ifanc, wnaeth ei adael hogyn ychydig yn eiddil. O ganlyniad, penderfynwyd y dylai fynd i mewn i'r eglwys yn hytrach na gweithio ar fferm ei dad.[3]

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ordeiniwyd Jones yn ddiacon yn Eglwys Loegr ym 1758. Gwasanaethodd am gyfnod byr fel curad Tudweiliog (1758-9) ac yna yn Llanafan Fawr, Sir Frycheiniog (1759-60) cyn ei ordeinio’n offeiriad ym mis Awst 1760. Ym 1761 fe symudodd i guradiaethau Trefddyn a Chil y coed, Sir Fynwy, lle daeth o dan ddylanwad y mudiad efengylaidd. Symudodd i Fryste ac yna i Crudwell yn Wiltshire. Yn ystod y cyfnod hwn yn Lloegr y cyfarfu â Selina Hastings, Iarlles Huntingdon. Defnyddiodd yr Iarlles Huntingdon ei dylanwad gael bywoliaeth Llan-gan iddo gan yr Arglwyddes Charlotte Edwin ym 1767.

Yn Llan-gan daeth Jones yn adnabyddus am ei allu fel pregethwr efengylaidd.[4] Bu Methodistiaid yn teithio o bob rhan o Gymru i glywed ei bregethau ac i dderbyn cymun yn Llan-gan. Ymledodd ei enw da fel pregethwr a gwahoddwyd ef yn aml i bregethu ledled Cymru yn ogystal ac mewn nifer o gapeli'r Iarlles Huntingdon yn Lloegr. Traddododd bregeth yn angladd Daniel Rowland, ym 1790 ac angladd yr Iarlles Huntingdon ym 1791. Er gwaethaf ei amharodrwydd i wynebu unrhyw hollt rhwng Eglwys Loegr a'r Methodistiaid, bu'n weithgar yn casglu arian ar gyfer adeiladu capeli Methodistaidd newydd. Roedd hefyd yn ymwneud yn agos ag ymdrechion Thomas Charles o'r Bala i ddosbarthu Beiblau ymhlith pobl Cymru.

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Jones ddwywaith. Bu ei briodas gyntaf â Sinah Bowen o Waunifor ar 1 Ionawr 1771[5] bu iddynt dri o blant. Yn dilyn marwolaeth ei wraig gyntaf ym 1792, priododd gwraig weddw gyfoethog, Mrs Bowen Parry o Faenorowen, Sir Benfro, ym 1794. Yn dilyn y briodas hon daeth Maenorowen yn gartref parhaol iddo, er iddo barhau i wasanaethu fel ficer Llan-gan hyd ei farwolaeth ym 1810.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ym Maenorowen ar 12 Awst 1810, y flwyddyn cyn i'r mudiad Methodistaidd sefydlu ei hun yn enwad ar wahân i Eglwys Loegr. Cafodd ei gladdu ym Maenorowen.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. David Jones - Y Bywgraffiadur Cymreig
  2. David Jones - Bywgraffiadur Rhydychen
  3. "History - David Jones". Friends of Saron & Treoes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-01. Cyrchwyd 2019-09-01.
  4. "Parish of Cowbridge". Cyrchwyd 2019-09-01.
  5. Davies, William Jenkin (1896). Hanes Plwyf Llandyssul. Llandysul: J D Lewis. t. 40.
  6. "Geograph:: Grave of 'The Angel of Llangan' (C) ceridwen". www.geograph.org.uk. Cyrchwyd 2019-09-01.