David Hughes, Tredegar

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
David Hughes, Tredegar
Portrait of D. Hughes, B.A., Tredegar (4672914).jpg
Ganwyd 21 Mehefin 1813 Edit this on Wikidata
Llanddeiniolen Edit this on Wikidata
Bu farw 3 Mehefin 1872 Edit this on Wikidata (58 oed)
Tredegar Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth gweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Roedd Y Parchedig David Hughes BA (21 Mehefin, 18133 Mehefin, 1872) yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn awdur.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Hughes ar fferm Cefn uchaf, Llanddeiniolen, yn fab i Hugh Hughes ac Anne ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Athrofa'r Efengylwyr yn Hackney, Llundain a Phrifysgol Glasgow lle graddiodd BA ym 1841.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Hughes yn cadw ysgol yn Llanddeiniolen ar y cyd a'i frawd hŷn Griffith. Yn ôl adroddiad yn y Geninen Yr oedd y ddau yn hynod dirion at fechgyn da, ond yn llym iawn yn erbyn rhai direidus, neu y neb a droseddai drwy siarad Cymraeg.[3]

Dechreuodd bregethu yng Nghapel Bethel, Llanddeiniolen pan oedd yn 19 mlwydd oed, tua 1832. Wedi gorffen ei astudiaethau yn Llundain a Glasgow cafodd ei ordeinio i weinidogaeth yr Annibynwyr yn Llan Sain Siôr ar 14 Medi 1841 gan ddod yn weinidog ar achosion ei enwad yn Llan Sain Siôr a Moelfre. Arhosodd yn Llan Sain Siôr hyd 1846 pan symudodd i Lanelwy. Yn ystod ei gyfnod yn Llanelwy bu'n olygydd ar gylchgrawn misol byrhoedlog o'r enw Y Beirniadur.[3]

Wedi blwyddyn y Llanelwy symudodd maes ei weinidogaeth i Gapel Great Jackson Street ym Manceinion. Ym 1847 derbyniodd cais gan Y Parch Dr Arthur Jones i'w gynorthwyo i gadw un o Ysgolion elusennol Dr Daniel Williams ym Mangor.[4]. Ni fu ganddo ofalaeth capel ym Mangor ond parhaodd i bregethu'n rheolaidd. Aeth yn ôl i fod yn weinidog ym mis Tachwedd 1855 pan dderbyniodd alwad i fod yn weinidog ar Gapel Saron, Tredegar. Parhaodd yn weinidog Saron hyd ei farwolaeth.[5]

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod ei gyfnod yn Llanelwy bu'n olygydd ar gylchgrawn misol byrhoedlog o'r enw Y Beirniadur.[3] Ysgrifennodd llawer i'r cyhoeddiadau misol Cymreig, yn enwedig i'r Dysgedydd.[6] Cyfrannodd nifer fawr o ysgrifau i'r Gwyddoniadur Cymreig. Cyhoeddodd dau lyfr: Geiriadur Ysgrythrol a Duwinyddol (1852) ac Elfenau Daearyddiaeth (1859). Bu hefyd yn olygydd ar ddiwygiad o eiriadur Thomas Edwards (Caerfallwch).[7] Cyfieithodd rhan o An Introduction to the Critical Study and Knowledge of the Holy Scriptures gan Thomas Hartwell Horne i'r Gymraeg fel Arweiniad at Efrydiaeth Feirniadol a Gwybodaeth Sanctaidd ym 1854.[8]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn briod a merch o'r enw Jane, merch o Lanbadrig, Ynys Môn. Ganwyd eu mab hynaf Y Parch David Griffith Hughes ym 1858, sy'n awgrymu eu bod wedi priodi rhywbryd cyn hynny.[9]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Hughes yn ei gartref yn Georgetown, Tredegar yn 58 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cefn Golau.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jenkins, R. T., (1953). HUGHES, DAVID (1813 - 1872), gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 28 Ion 2020
  2. "AT OLYGYDD Y DYDD - Y Dydd". William Hughes. 1917-03-09. Cyrchwyd 2020-01-28.
  3. 3.0 3.1 3.2 CENINEN GWYL DEWI - Mawrth 1890, Y PARCH. D. HUGHES. B.A gan David Griffith, Dolgellau Adferwyd 28 Ion 2020
  4. Owen, R. G., (1953). JONES, ARTHUR (1776 - 1860), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 28 Ion 2020
  5. "Hughes, David (1813–1872), Congregational minister and writer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. Cyrchwyd 2020-01-28.
  6. "MARWOLAETH Y PARCH D HUGHES GC TREDEGAR - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1872-06-12. Cyrchwyd 2020-01-28.
  7. Lewis, H., (1953). EDWARDS, THOMAS (‘Caerfallwch’; 1779 - 1858), geiriadurwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 28 Ion 2020
  8. "Hysbysebion - Yr Amserau". Michael James Whitty & William Ellis. 1854-01-11. Cyrchwyd 2020-01-28.
  9. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1861 Bedwellte – Tredegar, Ardal 29, RG9/4002; Ffolio: 76; Tudalen: 1
  10. "MARWOLAETH Y PARCH DAVID HUGHES BA TREDEGAR - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1872-06-15. Cyrchwyd 2020-01-28.