Neidio i'r cynnwys

David Hockney

Oddi ar Wicipedia
David Hockney
LlaisDavid hockney front row b01460l8.flac Edit this on Wikidata
Ganwyd9 Gorffennaf 1937 Edit this on Wikidata
Bradford Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mehefin 2026 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • y Coleg Celf Brenhinol
  • Coleg Celf Chelsea
  • Bradford Grammar School
  • Coleg Bradford Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, gwneuthurwr printiau, ffotograffydd, cynllunydd llwyfan, drafftsmon, darlunydd, lithograffydd, arlunydd graffig, cerflunydd, gludweithiwr, drafftsmon, sgriptiwr, artist, celfyddydwr, ysgrifennwr, athro, dylunydd theatr, ysgythrwr, engrafwr plât copr Edit this on Wikidata
Blodeuodd2015, 2014 Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amA Bigger Splash, American Collectors (Fred and Marcia Weisman), A Bigger Grand Canyon, Portrait of an Artist (Pool with Two Figures) Edit this on Wikidata
Arddullgraffeg, ffotograffiaeth, celf tirlun, portread (paentiad), peintio genre, celf ddigidol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadPablo Picasso, Francis Bacon Edit this on Wikidata
Mudiadhyperrealism, celf gyfoes, celf bop, Nouveau réalisme Edit this on Wikidata
Gwobr/auJohn Moores Painting Prize, Praemium Imperiale, Q641545, Media Award of the German AIDS Foundation, Urdd Cymdeithion Anrhydedd, Urdd Teilyngdod, Neuadd Enwogion California, Queen Sonja Print Award, Officier de la Légion d'honneur, Gwobr Cylch y Beirniaid am Wasanaeth Nodedig i'r Celfyddydau Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.hockney.com/ Edit this on Wikidata

Arlunydd a ffotograffydd o Loegr oedd David Hockney (9 Gorffennaf 193711 Mehefin 2026). Roedd yn gyfrannwr pwysig i fudiad celf bop yn y 1960au. Fe'i hystyrir yn un o artistiaid Prydeinig mwyaf dylanwadol yr 20g a'r 21g.[1]

Bywyd a gwaith

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd ar 9 Gorffennaf 1937 yn Bradford, Gorllewin Swydd Efrog, Lloegr, y pedwerydd o bump o blant i Kenneth Hockney (1904–1978), cyfrifydd, a Laura (née Thompson, 1900–1999). Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Wellington, Ysgol Ramadeg Bradford, Coleg Celf Bradford, a Choleg Brenhinol y Celfyddydau, Llundain, lle graddiodd yn 1962. Yna cymerodd swyddi addysgu yng Ngholeg Celf Maidstone, Prifysgol Iowa (1964), Prifysgol Colorado Boulder (1965), Prifysgol Califfornia, Los Angeles (1966–7) a Phrifysgol Califfornia, Berkeley (1967).

Wedi iddo symud i Los Angeles yn 1964, a than ddylanwad golau haul llachar Califfornia, cafodd ei waith ei nodi gan y defnydd o liw bywiog, yn aml yn defnyddio paent acrylig. Daeth yn adnabyddus am ei gyfres o baentiadau o byllau nofio a'i ddarluniad o ffordd o fyw cyfunrywiol hamddenol yr ardal. Er ei fod wedi'i leoli yn ei gartrefi ym Mryniau Hollywood ac ym Malibu byddai'n aros yn Llundain a Pharis hefyd. Yn y 1990au, dychwelodd yn rheolaidd i Bradford i ymweld â'i fam hyd ei marwolaeth yn 1999. Dechreuodd beintio cefn gwlad Swydd Efrog, ac yn 2011 symudodd i Bridlington. Yng ngwanwyn 2020, yn ystod y pandemig COVID-19 byd-eang, dechreuodd fyw yn Normandi, Ffrainc.

Arbrofodd yn rhydd gyda chyfryngau a phynciau. Yn ogystal â defnyddio paent, gwnaeth ysgythriadau a lithograffau. Un ffordd y torrodd dir newydd oedd creu delweddau collage wedi'u gwneud o ffotograffau Polaroid. Un arall oedd defnyddio iPad i greu delweddau. Mae rhai o'i greadigaethau diweddarach ar raddfa fawr iawn.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "David Hockney A Bigger Picture". Royal Academy of Arts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Ionawr 2012. Cyrchwyd 18 Ionawr 2012.
  2. Charles Darwent, "David Hockney obituary", The Guardian, 12 Mehefin 2026; adalwyd 12 Mehefin 2026