David Charles II

Oddi ar Wicipedia
David Charles II
Ganwyd1803 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mai 1880 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, emynydd Edit this on Wikidata
TadDavid Charles Edit this on Wikidata
MamSarah Phillips Edit this on Wikidata
PriodAnne Roberts Edit this on Wikidata
PlantDavid Roberts Charles Edit this on Wikidata

Roedd David Charles II yn fab i David Charles (I), yn weinidog ac yn emynydd o sir Gaerfyrddin.

Ganwyd David Charles II yn nhref Caerfyrddin yn 1803, ac fe'i addysgwyd yn yr ysgol ramadeg a'r Coleg Presbyteraidd. Priododd Sarah, merch Thomas Rice Charles, ei wraig gyntaf, a fu farw ym 1833, ac Ann, merch Richard Roberts, Lerpwl, a chael un mab, David Roberts Charles. Cychwynnodd weithio i'w dad, ac fel yntau, dechreuodd bregethu pan yn ganol oed, a chael ei ordeinio i'r gwaith gan y Methodistiaid Calfinaidd yn 1851. Un agwedd ar y gwaith hwnnw oedd cyhoeddi misolyn bychan o'r enw Yr Addysgydd, a golygu'r Casgliad o Hymnau Hen a Newydd at wasanaeth y Trefnyddion Calfinaidd. Bu'n flaenllaw yn yr alwedigaeth hon, gan dderbyn cadair y Gymdeithasfa yn y De yn y flwyddyn 1853, ac yn gyd-ysgrifennydd Coleg Trefecca o 1842 i 1852. Cyfansoddodd a/neu gyfieithu emynau lawer, a daeth rhai yn adnabyddus iawn. Bu farw yn nhy ei fab, ac fe'i claddwyd yn Ulverston, swydd Gaerhirfryn.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Y Traethodydd, (1893) & (1936)
  • J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid, (1945)
  • David Charles II, Casgliad o Hymnau Hen a Newydd, (1841)