Dau Gymro yn Taring yn bell o'u Gwlad
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | llyfr ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1595 ![]() |
Llyfr Cymraeg gan Robert Holland yw Dau Gymro yn Taring yn bell o'u Gwlad, a gyhoeddwyd tua'r flwyddyn 1595. Ymddengys bod pob copi o'r argraffiad cyntaf wedi diflannu, ond fe'i ailargraffwyd gan yr addysgwr Stephen Hughes yn 1681, gyda Canwyll y Cymry.[1]
Cynnwys[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae testun y llyfr ar ffurf deialog sy'n beirniadu Dynion Hysbys ac ofergoeledd; "Tudyr" a "Gronw" yw'r ddau Gymro sy'n ymddiddan am hynny.[1] Safbwynt Cristnogol a geir yn y llyfr, sy'n brawf ychwanegol, er hynny, fod dewiniaeth y Dynion Hysbys yn boblogaidd o hyd yng Nghymru ar droad yr 17g.