Llinell doriad

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Dash)

Marc atalnodi yw llinell doriad (Saesneg: dash) sy'n hirach na cysylltnod a gyda defnydd gwahanol. Y mathau mwyaf cyffredin o llinellau toriad yw'r llinell doriad en (–) a'r llinell doriad em (—).

Llinellau toriad cyffredin[golygu | golygu cod]

Mae sawl math o llinell doriad, y mwyaf cyffredin yw:

glyff Unicode[1] HTML[2] HTML/XML[3] TeX
cysylltnod U+2010 (8208) dim ‐ neu ‐ -
llinell doriad ffigur U+2012 (8210) dim ‒ neu ‒ dim
llinell doriad en U+2013 (8211) – – neu – --
llinell doriad em U+2014 (8212) — — neu — ---
bar llorweddol U+2015 (8213) dim ― neu ―
llinell doriad wedi siglo U+2053 (8275) dim ⁓ neu ⁓

Cysylltnod[golygu | golygu cod]

Prif: Cysylltnod

Defnyddir cysylltnod (‐) i uno geiriau ac i wahanu sillafau. Nid yw cysyllnod yn wirioneddol yn llinell doriad; mae gosod teip gofalus (gan gynnyws gyda rhaglenni cyfrifiadur cyfoes, megis prosesydd geiriau a HTML) yn dibynnu yn hytrach ar y llinellau toriad cywir canlynol.

Llinell doriad ffigur[golygu | golygu cod]

Caiff llinell doriad ffigur (‒) ei enw gan ei fod yr un lled a ffigur, mewn ffurfdeipiau lle mae'r ffigurau o led cyfartal o leiaf.

Defnyddir llinell doriad ffigwr pan mae'n rhaid defnyddio llinellau toriad o ffewn ffigurau, er enghraifft gyda rhifau ffôn: 8675309. Nid yw hyn yn dangos amrediad (defnyddir llinell doriad en ar gyfer gwneud hynny), na ffwythiant fel y minws (sydd gyda glyff ei hun).

Nid yw'r llinell doriad ffigwr wastad ar gael; yn yr achos hyn, dylid defnyddio llinell doriad minws yn ei le. Y cyfeirnod Unicode ar gyfer llinell doriad ffigwr yw U+2012 (degol 8210). Rhaid i awduron HTML ddefnyddio'r ffurf rhifol ‒ neu ‒ i'w deipio os nad ydy'r ddogfen yn Unicode; nid oes endid nod cywerth. Yn TeX, nid oes gan y ffont safonol linell doriad ffigwr; ond, mae gan y rhanfwyaf o ffigurau'r un lled a llinell doriad en, felly gellir defnyddio hwnnw yn ei le yn TeX.

Llinell doriad en[golygu | golygu cod]

Mae llinell doriad en, neu llinell doriad n, (–) tua'r un lled a'r lythyren n. Mae hanner maint llinell doriad em.

Defnyddir y llinell doriad en i ddynodi amrediad, megis 6–10 blwyddyn, a darllenir fel "chwech i ddeg blwyddyn".

Amrediadau o werthoedd[golygu | golygu cod]

Defnyddir llinell doriad en yn gyffredin i ddynodi amrediad caeedig o werthoedd (amrediad sydd wedi ei ddiffinio'n glir heb ffiniau is nac uwch sy'n anfeidraidd) , megis amrediad rhwng dyddiadau, amserau, neu rhifau.[4][5][6][7]

Rhai enghreifftiau o'r defnydd:

  • Mehefin – Gorffennaf 1967
  • 9:00 – 10:00 y bore
  • Ar gyfer plant oedran 3–5
  • tud. 38–55
  • Arlywydd Jimmy Carter (1977–1981)

Mae'r Guide for the Use of the International System of Units (SI) yn argymell y dylid y gair i gael ei ddefnyddio yn hytrach na llinell doriad en pan y gall amrediad rhifol gael ei gamddeallt fel tynnu, megis mewn amrediad o unedau. Er enghraifft, "foltedd o 50 V i 100 V" yn hytrach na "foltedd o 50 – 100 V".

Cysidrir yn anaddas i ddefnyddio llinell doriad en yn lle'r geiriau i ac a mawn brawddegau sy'n dilyn y ffurf o ... i ... a rhwng ... a ....[5][6]

Perthynas a chysylltiad[golygu | golygu cod]

Gellir defnyddio llinell doriad en yn ogystal i gyferbynnu gwerthoedd, neu i ddangos perthynas rhwng sau beth.[4][7]

Rhai enghreifftiau o'r defnydd:

  • Curwyd Caerdydd gan Abertawe 31–30.
  • Taith awyren Ynys Môn–Caerdydd (ond mae rhai yn dweud fod Ynys Môn i Gaerdydd yn fwy addas gan fod Ynys Môn yn un enw sydd wedi ei gyfansoddi o ddau air; gyda llinell doriad mae'r frawddeg yn aneglur[7])
  • Perthynas mam–merch
  • Pleidleisiodd y pwyllgor 5–4 drost y penderfyniad.
  • Mesur McCain–Feingold
  • bond sengl C–C

Ysgrifennir "gyfansoddyn" syml a ddefnyddir fel ansoddair gyda cysylltnod; mae rhai yn cysidro fod par o enwau megis yn enw Deddf Taft-Hartley yn "syml",[5] ond mae'r rhan fwyaf yn credu mai llinell doriad en sydd fwyaf addas yma i ddangos y berthynas cyfartal, megis yn Mesur McCain–Feingold neu Ystadegau Bose–Einstein. (ond dylid sylwi fod gwir enwau cyfansawdd yn cael eu hysgrifennu gyda chysylltnod, megis potensial Lennard-Jones sydd wedi cael ei enwi ar ôl un person, tra bod Bose ac Einstein yn ddau berson.)

Ansoddeiriau cyfansawdd[golygu | golygu cod]

Gellir defnyddio llinell doriad en yn hytrach na chysylltnod mewn ansoddeiriau cyfansawdd pan mae un rhan yn cynnwys dau air neu un gair cyplysedig:[5][6]

  • Ardal is–Ynys Môn
  • Cyfnod ôl–MS-DOS
  • tasgau blaenoriaeth-uchel–pwysedd-uchel (tasgau sy'n flaenoriaeth-uchel ac yn bwysedd-uchel).

Canllawiau defnydd[golygu | golygu cod]

Defnyddir llinell doriad en yn lle collnod mewn ansoddeiriau cyfansawdd pan nad yw unrhyw ran o'r ansoddair yn newid ystyr y rhan arall. Hynny yw, pan mae'n newid enw. Mae hyn yn gyffredin ym myd gwyddoniaeth, pan mae enwau yn cyfansoddi ansoddair fel yn Cywasgiad Bose–Einstein. Gallwn gymharu hyn gyda "Rhyfel Ffranco-Prwsiaidd", "Eingl-Sacson", ayb., lle nad yw elfen cyntaf y cyfansawdd yn newid yr ail yn nhermau llym, ond defnyddir cysylltnod fel arfer bethbynnag.

Nid oes gan llinell doriad en sy'n cael eu defnyddio yn lle cysylltnod wagle o'i amgylch fel rheol. Ond mae eithriad i'w gael pan byddai peidio defnyddio gwagle yn achosi dryswch, neu'n edrych yn rhyfedd, megis 12 Mehefin – 3 Gorffennaf; yn hytrach na 12 Mehefin–3 Gorffennaf. Ond, pan nad oes llinell doriad en ar gael, gellir defnyddio cysylltnod-minws gyda un gwagle pob ochr yn ei le (" - ").

Defnydd parenthetic, a defnyddiau eraill ar lefel brawddeg[golygu | golygu cod]

Gellir defnyddio llinellau toriad en yn debyg i llinellau toriad em yn lle colon, neu barau o comas sy'n marcio diwedd cymal neu eiriad sydd wdi ei nythu. Gellir eu defnyddio o gwmpas mynegiadau parenthetical – megis hyn – yn lle'r llinellau toriad em, sydd yn well gan rhai cyhoeddwyr, yn arbennig lle defnyddir colonau cul, gan y gall llinell doriad em edrych yn lletchwith ar ddiwedd llinell. Yn y sefyllfa yma, dylid cael un gwagle pob ochr i'r llinell doriad en.


Nodau eraill sy'n debyg i llinell doriad[golygu | golygu cod]

Mae sawl nod arall sy'n edrych yn debyg i llinell doriad, ond mae gennynt ystyr a defnydd gwahanol. Mae rhain yn cynnwys:

  • Cysylltnod-minws (-), Unicode U+002D, hwn yw'r cysylltnod safonol ASCII. Mae'n edrych fel llinell doriad, ond dylid ei ddefnyddio yn unig pan nad yw'r llinell doriad cywir ar gael. Defnyddir mewn grŵpiau weithiau i ddynodi gwahanol fathau o linellau toriad.
  • Tilde (~), U+007E, marc diacritig.
  • Tanrhic (_), U+005F, (Saesneg: Underscore) sydd ynteu yn farc diacritig, neu yn nod sy'n cymryd lle bwlch safonol.
  • Macron (¯), U+00AF, marc diacritig arall.
  • Cysylltnod meddal (U+00AD) sy'n cael ei ddefnyddio i ddangos lle gall linell dorri, megis mewn geiriau cyfansawdd neu rhwng sillafau.
  • Cysylltnod (‐), U+2010, nod sydd, yn wahanol i'r cystylltnod ASCII, wastad yn cynyrchioli cysylltnod.
  • Cysylltnod bwled (⁃), U+2043, llinell fer llorweddol a ddefnyddir fel pwynt bwled mewn rhestrau.
  • Minws (−), U+2212, −, sy'n weithredydd rhifyddeg a ddefnyddir mewn mathemateg i gynnyrchioli tynnu neu rifau negyddol.
  • Llinell doriad ton (〜), U+301C, a'r Llinell doriad tonnog (〰), U+3030, sy'n linellau tonnog a chaiff eu canfod mewn setiau nodau Asiaidd Dwyreiniol. Yn deipograffegol, maent yr un lled ac un cell nod CJK (ffurf lled llawn), ac yn dilyn cyfeiriad y teip (yn llorweddol neu'n fertigol ar gyfer teip colofn). Defnyddir hwy fel llinellau toriad, ac weithiau fel amrywiolyn pwysleisiol o'r marc ymestyn llafariad katakana.
  • Cysylltnod Armeniaidd (֊), U+058A, sy'n gysylltnod yn yr wyddor Armeniaidd.
  • Maqaf Hebreaidd (־), U+05BE, sy'n nod tebyg i gysylltnod yn yr wyddor Hebreaidd.
  • Cysylltnod todo Mongoliaidd (᠆), U+1806, sy'n gysylltnod yn yr wyddor Mongoliaidd.
  • Hangul Jungseong Eu ( U+3161 neu U+1173) a ddefnyddir yn aml yn Corëeg i ddynodi'r sain [ɨ].
  • Chōonpu Siapaneaidd (ー), U+30FC, a ddefnyddir yn Siapaneg i ddynodi llafariad hir.
  • Yī/ichi (一), U+4E00, sy'n nod Tseiniadd sy'n golygu "un" yn Tsieinëeg a Siapaneg.

Gosod llinellau toriad ar gyfrifiaduron[golygu | golygu cod]

Yn draddodiadol, roedd gan deipiaduron a chyfrifiaduron set llythrennau cyfyngedig, yn aml heb allwedd i greu llinell doriad. Fel canlyniad, mae wedi dod yn gyffredin i amnewid am y nod neu'r pwynt atalnodi anghywir sydd agosaf at llinell doriad. Cynrychiolir llinell doriad em yn aml gan bâr o fylchau oamgylch un cysylltnod-minws (defnydd Prydeinig arferol) neu gan bâr o fylchau oamgylch dau cysylltnod-minws (yn yr Unol Daleithiau'n bennaf).

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyfeirir at nodau Unicode yn rhyddiaith drwy ddefnyddio nodiant "U+". Y rhif hexadecimal ar ôl y "U+" yw pwynt cod yr Unicode. Dengys y cywerth degol yn y cromfachau.
  2. Cyfeirnod diffiniedig yw endid nod, a ellir ei ddefnyddio mewn dogfen HTML yn lle symbol llythrennol llinell doriad.
  3. Cyfeirnod nod rhifol a ellir ei ddefnyddio mewn dogfen HTML neu XML yn lle symbol llythrennol llinell doriad.
  4. 4.0 4.1 Benjamin W. Griffith, ac eraill (2004). Pocket Guide to Correct Grammar, Barron's Pocket Guides. Woodbury, Efrog Newydd: Barron's Educational Series. ISBN 0-7641-2690-3
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Karen Judd (2001). Copyediting: A Practical Guide. Menlo Park, Calif: Crisp Publications. ISBN 1-56052-608-4
  6. 6.0 6.1 6.2 Gordon Loberger; Kate Shoup Welsh (2001). Webster's new world English grammar handbook. New York: Hungry Minds. ISBN 0-7645-6488-9
  7. 7.0 7.1 7.2 George B. Ives (1921). Text, Type and Style: A Compendium of Atlantic Usage. Boston: Atlantic Monthly Press

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am llinell doriad
yn Wiciadur.