Darren Morgan

Oddi ar Wicipedia
Darren Morgan
Ganwyd3 Mai 1966 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr snwcer Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Mae Darren Morgan (ganwyd 3 Mai 1966) yn gyn chwaraewr snwcer proffesiynol sydd nawr yn cystadlu fel amatur.

Enillodd Morgan y Bencampwriaeth Amatur Byd yn 1987 gan chwarae ar y brif daith broffesiynol o 1988 hyd at 2007. Enillodd ychydig dros £1 miliwn mewn gwobrau, gan gyrraedd rhif wyth yn y byd, ac roedd o fewn y 16 ucha am nifer o flynyddoedd er na enillodd un o'r prif gystadlaethau. Cyflawnodd 111 o rediadau o gant yn ystod ei yrfa, un o dim ond 49 chwaraewr i gwblhau canrif tra'n chwarae'n broffesiynol.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganwyd Morgan yng Nghasnewydd, De Cymru.

Ei brif gyflawniadau tra'n broffesiynol oedd ennill yr Irish Masters yn 1996, gan faeddu Steve Davis 9-8 yn y ffeinal, a bod yn gapten ar Gymru pan enillwyd y Nations Cup yn 1999. Cyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol yn y Bencampwriaeth Byd yn 1994, gan faeddu Mark King 10-5, Willie Thorne 13-12 a John Parrott 13-11 cyn colli i Jimmy White 9-16. Cyrhaeddodd rownd yr wyth olaf ar dri achlysur, gan faeddu Ken Doherty a Ronnie O-Sullivan yn 1996 a 1997 yn y Crucible. Pan faeddodd Morgan O'Sullivan yn 1997, dyma'r rownd ar ôl i O'Sullivan sgorio'r 147 cofiadau yn erbyn Mick Price a hynny mewn 5 munud 20 eiliad.

Mae Morgan yn parhau i chwarae mewn digwyddiadau amatur a pro-am, ac enillodd y Meistr Ewropeaidd a'r Bencampwriaeth Meistri'r Byd yn 2007. Ar yr 22 Hydref 2009 enillodd y TCC Pro-Am gan faeddu ei gyd Gymro Mark Williams 7-4 yn y ffeinal.

Enillodd Morgan ei ail Bencampwriaeth Snwcer Byd IBSF yn yr adran Meistri ar y 23ain o Dachwedd 2009, gan faeddu Dene Kane o Seland Newydd, a fu'n bencampwr ar dair achlysur ac a oedd yn amddiffyn ei deitl, o 6-0 yn y ffeinal.

Chwaraeodd Morgan fel amatur ynghyd â Tony Knowles yng Nghystadleuaeth Byd Agored 2010 gan achosi tipyn o sioc trwy gyrraedd y 64 olaf yn y gystadleuaeth, cyn colli o drwch blewyn i'r cyn rhif un yn y byd Matthew Stevens 3-2 yn y drydydd rownd.

Ym mis Tachwedd 2011, chwaraeodd ym Mhencampwriaeth Hŷn y Byd yn Peterborough gan faeddu Steve Davis yn y ffeinal. Maeddodd Morgan y cyn bencampwr byd Cliff Thorburn a 'Whirlwind' Jimmy White yn y rowndiau cynt cyn gwynebu y pencampwr byd ar chwech achlysur yn y ffeinal. Roedd yn rhaid i Morgan ennill gemau cymhwyso er mwyn cyrraedd rowndiau terfynol y twrnament. Maeddodd Morgan Davis 2-1 yn y ffeinal gan ddod adref a'r tlws i'w glwb yn Cross Keys.

Ym mis Mehefin 2016, fel aelod 'wildcard' ar gyfer y Riga Masters ar ol ennill teitl y EBSA European Open rai wythnosau'n gynt, maeddodd Morgan Bradley Jones 4-3, Adam Stefanow 4-2, Zhao Xintong 4-1, Doherty 4-3 a Xiao Guodong 4-2 i baratoi ar gyfer cyfarfod a Neil Robertson yn y rownd gyn-derfynol. Gan ymddangos yn y cam yma o ddigwyddiad rhengol am y tro cyntaf ers 1999, a bod yr hynaf i gyrraedd y rownd gyn-derfynol ers Rex Williams yn 1986, collodd Morgan o 5-0 i'r un a oedd yn bencampwr yn y pendraw.[1]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n byw gyda'i wraig, Tracy, a'u tair merch yn Nhrecelyn, ac mae'n berchen ar glwb snwcer cyfagos yn Crosskeys, Casnewydd, o'r enw The Red Triangle, lle mae'n hyfforddi chwaraewyr ifanc.[2]

Ffeinals Twrnamentau[golygu | golygu cod]

Ranking finals: 2 (2 runner-ups)[golygu | golygu cod]

Canlyniad Rhif. Blwyddyn Pencampwriaeth Gwrthwynebydd yn y ffeinal Sgôr
Ail 1. 1992 Welsh Open Yr Alban Hendry, StephenStephen Hendry 3–9
Ail 2. 1993 Asian Open Lloegr Harold, DaveDave Harold 3–9

Non-ranking finals: 12 (7 titles, 5 runner-ups)[golygu | golygu cod]

Canlyniad Rhif. Blwyddyn Pencampwriaeth Gwrthwynebydd yn y ffeinal Sgôr
Enillydd 1. 1989 Pontins Professional Malta Drago, TonyTony Drago 9–2
Ail 1. 1989 WPBSA Non-Ranking - Event 1 Awstralia Foldvari, RobbyRobby Foldvari 1–8
Enillydd 2. 1990 Welsh Professional Championship Cymru Mountjoy, DougDoug Mountjoy 9–7
Enillydd 3. 1990 Shoot-Out Lloegr Hallett, MikeMike Hallett 2–1
Enillydd 4. 1991 Welsh Professional Championship (2) Cymru Bennett, MarkMark Bennett 9–3
Ail 2. 1991 Benson & Hedges Championship Gweriniaeth Iwerddon Doherty, KenKen Doherty 3–9
Ail 3. 1993 Pontins Professional Gweriniaeth Iwerddon Doherty, KenKen Doherty 3–9
Enillydd 5. 1996 Irish Masters Lloegr Davis, SteveSteve Davis 9–8
Ail 4. 1997 Irish Masters Yr Alban Hendry, StephenStephen Hendry 8–9
Enillydd 6. 2000 Pontins Professional (2) Lloegr White, JimmyJimmy White 9–2
Enillydd 7. 2011 World Seniors Championship Lloegr Davis, SteveSteve Davis 2–1
Ail 5. 2016 World Seniors Championship Lloegr Davis, MarkMark Davis 1–2

Team event finals: 2 (1 title, 1 runner-up)[golygu | golygu cod]

Canlyniad Rhif. Blwyddyn Pencampwriaeth Tîm/partner Gwrthwynebydd yn y ffeinal Sgôr
Enillydd 1. 1999 Nations Cup Baner Cymru Cymru Baner Yr Alban Yr Alban 6–4
Ail 1. 2000 Nations Cup Baner Cymru Cymru Baner Lloegr Lloegr 4–6

Pro-am event finals: 2 (1 title, 1 runner-up)[golygu | golygu cod]

Canlyniad Rhif. Blwyddyn Pencampwriaeth Gwrthwynebydd yn y ffeinal Sgôr
Ail 1. 1996 Pontins Spring Open Gweriniaeth Iwerddon Doherty, KenKen Doherty 3–7
Enillydd 1. 2009 TCC Open Snooker Championship Cymru Williams, MarkMark Williams 7–4

Amateur event finals: 18 (15 titles, 3 runner-ups)[golygu | golygu cod]

Canlyniad Rhif. Blwyddyn Pencampwriaeth Gwrthwynebydd yn y ffeinal Sgôr
Enillydd 1. 1987 Welsh Amateur Championship Cymru John Herbert 8–4
Enillydd 2. 1987 World Amateur Championship Malta Joe Grech 11–4
Enillydd 3. 2007 European Amateur Championship - Masters Gogledd Iwerddon Kieran McMahon 6–2
Enillydd 4. 2007 World Amateur Championship - Masters Gwlad Tai Kanchai Wongjan 9–1
Ail 1. 2009 Welsh Amateur Championship Cymru White, MichaelMichael White 2–8
Enillydd 5. 2009 European Amateur Championship - Masters (2) Gweriniaeth Iwerddon Delaney, JoeJoe Delaney 6–3
Enillydd 6. 2009 Bargoed Labour Club Invitational [3]
Enillydd 7. 2009 World Amateur Championship - Masters (2) Awstralia O'Kane, DeneDene O'Kane 6–0
Enillydd 8. 2010 European Amateur Championship - Masters (3) Gweriniaeth Iwerddon Delaney, JoeJoe Delaney 6–0
Enillydd 9. 2012 European Amateur Championship - Masters (4) Lloegr Steve Judd 6–0
Enillydd 10. 2012 World Amateur Championship - Masters (3) Awstralia Wilkinson, GlenGlen Wilkinson 6–2
Enillydd 11. 2013 European Amateur Championship - Masters (5) Lloegr Alan Trigg 6–3
Ail 2. 2014 World Amateur Championship - Masters Gwlad Tai Phisit Chandsri 5–6
Enillydd 12. 2015 Welsh Amateur Championship (2) Cymru Wells, DanielDaniel Wells 8–0
Enillydd 13. 2015 European Amateur Championship - Masters (6) Lloegr Jamie Bodle 6–2
Ail 3. 2016 Welsh Amateur Championship (2) Cymru John, DavidDavid John 7–8
Enillydd 14. 2017 European Snooker Open Gweriniaeth Iwerddon Judge, MichaelMichael Judge 4–1
Enillydd 15. 2017 European Amateur Championship - Masters (7) Cymru Elfed Evans 6–2

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [1]
  2. Meet snooker star Darren Morgan, Wales Online
  3. "Global Snooker: 2009 Bargoed Labour Club Invitational (Results)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-27. Cyrchwyd 2017-08-02.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]