Darbi

Mae gêm darbi neu ornest leol yn cyfeirio at gystadleuaeth chwaraeon rhwng dau dîm sydd â ffyrnigrwydd neu nodwedd hynod - fel rheol dau dîm lleol i'w gilydd er enghraifft dau dîm o'r un ddinas.[1] Daw o'r Saesneg, "Derby".[2]
Cyd-destun
[golygu | golygu cod]Gall dwyster y gystadleuaeth amrywio'n fawr o gêm gyfeillgar a thynnu coes ysgafn i drais difrifol. Gall cystadleuaeth sy'n mynd allan o reolaeth arwain at ymladd, hwliganiaeth, terfysg a rhai achosion gyda chanlyniadau diwedd gyrfa a hyd yn oed angheuol. Yn "Y rhyfel pêl-droed", ynghyd â ffactorau eraill, awgrymwyd mai hwn oedd y pwynt tipio wrth arwain at wrthdaro milwrol.[3]
Mae'n hysbys bod perchnogion yn annog cystadlu gan eu bod yn tueddu i wella presenoldeb gemau a sgôr teledu ar gyfer gemau cystadlu.[4] Gall clybiau leihau ymddygiad ymosodol ffan o amgylch gemau cystadlu trwy gydnabod yn hytrach na bychanu'r gwrthdaro [5] oherwydd bod y gystadleuaeth yn rhan annatod o hunaniaeth ffan.[6]
Hanes y term
[golygu | golygu cod]
Yn aml, gelwir gemau rhwng dau gystadleuydd sydd wedi'u lleoli sy'n agos yn ddaearyddol yn 'ddarbi leol', neu 'ddarbi' yn unig. Gall fod rhwng dau dîm o'r un dref, dinas neu ranbarth. Mae'r term fel arfer yn gysylltiedig â phêl-droed[7] ond caiff ei defnyddio ar gyfer campau eraill hefyd, megis rygbi.
Mae'r term "darbi" o bosibl yn tarddu o "The Derby", ras geffylau yn Lloegr, a sefydlwyd gan 12fed Iarll Derby ym 1780. Ers hynny mae'r 19eg Iarll wedi honni mai dim ond un digwyddiad chwaraeon arall a roddwyd i'r enw Derby yn wreiddiol: gemau rygbi'r gynghrair rhwng St Helens ar un pen i ystâd Knowsley y teulu a Wigan yn y pen arall.[8]
Mae'r theori arall ynglŷn â tharddiad yr enw yn cynnwys pêl-droed dydd Mawrth Ynyd, fersiwn gynnar, answyddogol o bêl-droed a rygbi. Fe'i chwaraewyd gyntaf yn nhref Derby yn Lloegr ers cyn y Canol Oesoedd. O mor gynnar â'r 12g roedd yn hysbys iddo gael ei chwarae yn nhref Ashbourne. Roedd yn ddigwyddiad anhrefnus ac afieithus a oedd yn cynnwys y dref gyfan, gan arwain yn aml at farwolaethau. Roedd y goliau yn Nuns Mill yn y gogledd a Gallows Balk yn ne'r dref, a digwyddodd llawer o'r gweithgarwch yn Afon Derwent neu Nant Markeaton. Yn bennaf, daeth y chwaraewyr o blwyfi’r Holl Saint a San Pedr, ond yn ymarferol roedd y gêm yn agored i bawb, gyda chymaint â 1,000 o chwaraewyr. Ysgrifennodd Ffrancwr a arsylwodd yr ornest ym 1829 mewn arswyd, 'os yw Saeson yn galw'r ddrama hon yn gêm, byddai'n amhosibl dweud beth maen nhw'n ei alw'n ymladd'. Mae pêl-droed dydd Mawrth Ynyd yn dal i fod yn ddigwyddiad blynyddol yn nhref Ashbourne.[9]
Ers o leiaf 1840 mae 'derby' wedi cael ei ddefnyddio fel enw yn Saesneg i ddynodi unrhyw fath o gystadleuaeth chwaraeon.[10] Ymhlith yr enwau eraill ar gyfer derbïau mae El Clásico mewn rhai rhannau o'r byd Sbaenaidd a crosstown rivalries yn yr Unol Daleithiau.
Cymru
[golygu | golygu cod]Ynghenir yr enw lle 'Derby' yn y Gymraeg gyda'r 'e' yn cael ei yngannu'n 'a', felly, gellir tybio mai sillafiad Cymraeg y term yw 'darbi' ac nid 'derbi'. Mae'r sillafiad yma hefyd yn gwahaniaethu'r term oddi ar enw tref Derby a hefyd Het Derby sy'n het galed.[11] Arddelir y termau 'gornest leol' yng Ngeiriadur yr Academi.[12]
Gemau darbi yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Pêl-droed
[golygu | golygu cod]O fewn system bêl-droed Lloegr, ystyrir unrhyw gêm rhwng dau glwb o Gymru gyda'i gilydd yn "gêm darbi" e.e. Caerdydd v Abertawe.
O fewn system bêl-droed Uwch Gynghrair Cymru gellid ystyried gemau rhwng Caernarfon a Bangor yn gemau darbi.
Rygbi
[golygu | golygu cod]Cyn ffurfio timau rhanbarthol rygbi'r Undeb yng Nghymru, bu sawl gêm darbi bwysig rhwng gwahanol glybiau. Erbyn hyn disgrifir y gemau isod fel gemau darbi:
- Darbi y Gorllewin - Gweilch yn erbyn Sgarlets
- Darbi De Cymru - Gweilch yn erbyn Gleision Caerdydd
- Darbi Dwyrain Cymru - Gleision Caerdydd yn erbyn Dreigiau Gwent
Cynhelir hefyd "Gemau Dydd y Farn" [13], fel arfer yn Stadiwm Genedlaethol Cymru, Caerdydd, ble caiff dwy gêm eu chwarae ar yr un dydd - un rhwng y Gleision a'r Dreigiau, a'r llall rhwng y Sgarlets a'r Gweilch.
Gemau darbi enwog
[golygu | golygu cod]Ystyrir gemau darbi ar draws y byd ac mewn sawl camp, yn bwysig. Ceir gemau darbi pêl-droed ar draws y byd,[14] Ymysg y rhai enwocaf yn Ewrop [15] mae:
- Old Firm - rhwng Celtic F.C. a Glasgow Rangers F.C. yn yr Alban
- 'Darbi Gogledd Llundain - rhwng Arsenal F.C. a Tottenham Hotspur F.C. yn Llundain
- Darbi Manceinion - rhwng Manchester City F.C. a Manchester United F.C.
- Darbi Glannau Merswy - rhwng Liverpool F.C. ac Everton F.C.
- Y Darbi Tragwyddol (вечити дерби, Večiti derbi) - rhwng Seren Goch Belgrâd a FK Partizan, Serbia.
- Darbi Milan (Darbi y Madonnina): Inter Milan yn erbyn A.C. Milan (yr unig darbi dinesig lle mae'r ddau glwb wedi ennill Cwpan Ewrop), Yr Eidal.
- Darbi Rhufain (Darbi y Brifddinas): S.S. Lazio yn erbyn A.S. Roma a ddechreuodd yn 1929 gyda Roman'n fuddugol, Yr Eidal.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Nodyn:Https://www.manchestereveningnews.co.uk/sport/football/football-news/manchester-united-man-city-fans-11065749
- ↑ https://www.collinsdictionary.com/dictionary/english/derby
- ↑ Nodyn:Https://www.google.com/amp/s/amp.theguardian.com/football/2007/feb/21/theknowledge.sport
- ↑ Nodyn:Https://www.google.com/amp/s/slate.com/business/2013/08/sports-rivalries-the-economics-of-crosstown-hatred.amp
- ↑ European Sport Management Quarterly (2018). "Rivalry and Fan Aggression". European Sport Management Quarterly 18 (4): 517–540. doi:10.1080/16184742.2018.1424226.
- ↑ Berendt, Johannes; Uhrich, Sebastian (2016). "Enemies With Benefits". European Sport Management Quarterly 16 (5): 613–634. doi:10.1080/16184742.2016.1188842.
- ↑ "When a City Stops for Soccer". New York Times. 8 Mai 2015. Cyrchwyd 11 Hydref 2018.
- ↑ Nodyn:Www.theguardian.com/sport/2014/oct/10/wigan-st-helens-local-products-super-league-grand-final-
- ↑ "City's Shrovetide match give birth to 'local derby' phrase". Derby Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 September 2013. Unknown parameter
|dead-url=ignored (help) - ↑ "Definition of derby". Collins dictionary. Cyrchwyd 9 February 2015.
- ↑ http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html
- ↑ https://geiriaduracademi.org/
- ↑ http://www.s4c.cymru/cy/chwaraeon/rygbi/post/8548/dydd-y-farn-yn-stadiwm-principality-yn-torri-record/
- ↑ https://en.wikipedia.org/wiki/List_of_association_football_rivalries
- ↑ List of association football club rivalries in Europe
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- FootballDerbies.com
- FIFA.com
- EuroRivals.net – gemau, canlyniadau a fideos darbis pêl-droed
- 50 Greatest Rivalries in World Football – Bleacher Report