Neidio i'r cynnwys

Daniel Owen (cyflwyniad Gruffudd Parry)

Oddi ar Wicipedia
Daniel Owen
Enghraifft o:cyflwyniad llenyddol theatrig
Mathperfformiad Edit this on Wikidata
AwdurDaniel Owen a Gruffudd Parry
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiAwst 1969 Edit this on Wikidata
Genrey nofel Gymraeg Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuCwmni Theatr Cymru Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cyflwyniad llenyddol a theatrig gan Gwmni Theatr Cymru oedd Daniel Owen wedi'i lunio gan Gruffudd Parry ym 1969. Dathlu bron i ganmlwyddiant cyfansoddi nofelau yr awdur Daniel Owen oedd diben y cynhyrchiad.[1] Cyflwynwyd y cynhyrchiad am y tro cyntaf yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Fflint 1969 cyn mynd ar daith yn y Gwanwyn 1970.[1] Yr actorion fu'n rhan o'r cyflwyniad oedd J. O. Roberts, Grey Evans, Owen Garmon, John Greatorex, Elen Roger Jones, John Ogwen, Gwyn Parry, Meic Povey, W. H. Roberts, Beryl Williams a Glyn Williams. Wilbert Lloyd Roberts oedd trefnydd y cynhyrchiad.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]

Nid oedd cymeriadau penodol, ar wahan i Grey Evans fel y Daniel Owen canolog a J. O. Roberts fel y Llefarydd / Cyflwynydd. "Portreadir yr amrywiol gymeriadau" gan weddill y cwmni.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

O dan y pennawd "Tros ysgwydd canrif", eglura Rhaglen y cynhyrchiad mai "pobl oedd [...] diddordeb mawr" Daniel Owen. Ac felly cynhyrchiad i gyflwyno rhai o'r "cymeriadau a ddaeth yn enwau teuluaidd" oedd prif ddiben y cyflwyniad. Cymeriadau fel Rhys Lewis a Mari Lewis, Wil Bryan, Abel Huws a Tomos a Barbara Bartley.[1] "Gwelodd y difrif a'r digri, a phlethodd y rhain yn batrwm cyfoethog ac amrywiol. Yn ei ddydd, safai "fel mynydd mawr ar wastadedd eang". Deil o hyd i fod yn brif nofelydd ein cenedl", noda'r Rhaglen.[1]

Daeth y math yma o ddathliad gwaith llenorion ac enwogion y genedl yn batrwm cyson gan Gwmni Theatr Cymru gyda cyflwyniadau tebyg i Cynan a Twm o'r Nant yn ystod y 1970au.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Rhaglen Cyflwyniad Cwmni Theatr Cymru. Cwmni Theatr Cymru. 1970.