Dan y Wenallt
(Ailgyfeiriad o Dan y Wenallt - Cyfrol Canmlwyddiant)
Cyfieithiad o ddrama radio Under Milk Wood gan Dylan Thomas yw Dan y Wenallt. Cyfieithwyd gan T James Jones, yn wreiddiol ar gyfer grwp o amaturiaid yn Nhalacharn, sef y pentre y treuliodd Dylan Thomas llawer o'i fywyd.[1]
Un o'i amcanion wrth gyfieithu, medd T James Jones, oedd rhoi ar gof a chadw dafodiaith ardal Sir Gaerfyrddin fel ag yr oedd ym 50au'r 20g. Cred nifer o feirniaid llenyddol i'r cyfieithydd lwyddo yn rhyfeddol ac fod y cyfieithiad yn glasur.
Enghraifft o'r canlynol | drama |
---|---|
Awdur | Dylan Thomas |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 17/07/2014 |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781848518100 |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Cafodd ei ailargraffu yn 2014 gan Wasg Gomer gyda rhagair newydd gan Walford Davies, i gyd-fynd â chanmlwyddiant geni Dylan Thomas. Man cyhoeddi: Llandysul, Cymru.[2]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Dan Y Wenallt - Welsh Paperback. Amazon. Adalwyd ar 4 Mai 2012.
- ↑ [1]; Gwefan Gwales; Cyngor Llyfrau Cymru; adalwyd 1 Awst 2017