Dan Amheuaeth
Gwedd
| Awdur | John Alwyn Griffiths |
|---|---|
| Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 12 Hydref 2016 |
| Argaeledd | Ar gael |
| ISBN | 9781845275624 |
| Genre | Ffuglen |
| Dynodwyr | |
Nofel gan John Alwyn Griffiths yw Dan Amheuaeth a gyhoeddwyd yn 2016 gan Wasg Carreg Gwalch. Man cyhoeddi: Llanrwst, Cymru.[1]
Ar ôl cyfnod cythryblus, a nifer o achosion treisgar, mae Ditectif Sarjant Jeff Evans yn fodlon ei fyd. Mae ganddo gartref newydd, gwraig hyfryd a mab bach; ond mae rhywun yn benderfynol o chwalu'r cyfan. Pwy sydd â'i fryd ar ddryllio bywyd a gyrfa Jeff? Ac a fydd wyneb o'r gorffennol yn dychwelyd i ddial arno?
Un o Fangor yw John Alwyn Griffiths yn wreiddiol, ond bellach mae'n byw ym Môn. Bu'n heddwas hyd ddiwedd 2008, a chyn ymddeol roedd yn bennaeth ar Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Hon yw ei bumed nofel.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017