Damwain drên Manfalut

Oddi ar Wicipedia
Lleoliad Manfalut

Gwrthdrawiad rhwng trên a bws ysgol oedd dawmwain drên Manfalut a ddigwyddodd ger Manfalut yn nhalaith Assiut, yr Aifft, ar 17 Tachwedd 2012.[1] Bu farw 50 o blant oed pedwar i chwech, a gyrrwr y bws.[2]

Dywedodd tystion yr oedd atalfeydd y groesfan ar agor pan darodd y drên y bws, a chafodd y bws ei dorri'n ddwy ran gan y gwrthdrawiad.[3] Yn ôl llywodraethwr y dalaith, roedd gwyliwr y groesfan yn cysgu ar y pryd, a chafodd ei arestio wedi'r ddamwain.[2]

Ymddeolodd y gweinidog cludiant, Mohamed Rashad, a phennaeth yr awdurdod rheilffyrdd yn sgil y ddamwain.[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Scores of schoolchildren die in Egypt crash. Al Jazeera (17 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 18 Tachwedd 2012.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Egypt bus crash kills 50 children near Manfalut. BBC (17 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 18 Tachwedd 2012.
  3. (Saesneg) Blaid, Edmund (17 Tachwedd 2012). 5-Train ploughs into school bus in Egypt, 50 killed. Reuters. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2012.