Damwain drên East Palestine, Ohio
| Enghraifft o: | derailment, trychineb amgylcheddol |
|---|---|
| Dyddiad | 3 Chwefror 2023 |
| Lladdwyd | 0 |
| Achos | Mechanical failure |
| Lleoliad | East Palestine |
![]() | |
| Gweithredwr | Norfolk Southern Corporation |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Rhanbarth | Columbiana County |
| Dynodwyr | |

Digwyddodd damwain drên East Palestine, Ohio ar 3 Chwefror 2023, wrth i drên nwyddau ar reilffordd Norfolk Southern gael ei bwrw oddi ar y cledrau wrth deithio drwy ddinas East Palestine yn nhalaith Ohio, Unol Daleithiau America.[1] Llosgodd y trên am ddeuddydd cyn i swyddogion y dalaith ofyn i weithwyr brys geisio llosgi sawl cerbyd dan reolaeth,[2] gan ollwng hydrogen clorid a ffosgen i'r awyr oherwydd presenoldeb cemegion peryglus roedd y trên yn eu cludo.[1] O ganlyniad, symudwyd yr holl drigolion o fewn radiws o filltir, a chychwynnwyd ar ymateb i'r argyfwng gan asiantaethau yn Ohio, Pennsylvania, a Gorllewin Virginia. Ar 16 Chwefror 2023 anfonwyd gweinyddwr o Asiantaeth Amddiffyn Amgylcheddol (EPA) y llywodraeth ffederal i gynorthwyo.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "Ohio catastrophe is 'wake-up call' to dangers of deadly train derailments". The Guardian. 11 Chwefror 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Chwefror 2023. Cyrchwyd 13 Chwefror 2023.
- ↑ Orsagos, Patrick; Seewer, John (2023-02-06). "Crews release toxic chemicals from derailed tankers in Ohio". Associated Press (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2023. Cyrchwyd 14 Chwefror 2023.
- ↑ Murray, Isabella (17 Chwefror 2023). "Political fallout over federal response to Ohio train derailment". ABC News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Chwefror 2023. Cyrchwyd 20 Chwefror 2023.
