Daliant sylffad bariwm

Oddi ar Wicipedia
Daliant sylffad bariwm
Model 3D o sylffad bariwm
Enghraifft o'r canlynolcyffur hanfodol Edit this on Wikidata

Mae daliant sylffad bariwm, sy'n cael ei gyfeirio ato'n aml fel dim ond bariwm, yn asiant gwrthgyferbyniad a ddefnyddir yn ystod pelydrau-x. Yn benodol, fe'i defnyddir i wella delweddu'r llwybr gastroberfeddol (oesoffagws, stumog, coluddion) ar belydr-x plaen neu tomograffeg gyfrifiadurol[1]. Mae'n cael ei weini trwy'r enau neu trwy'r rectwm.

Mae sgil effeithiau yn cynnwys rhwymedd, dolur rhydd, llid y pendics ac, os caiff ei anadlu, llid yr ysgyfaint. Nid yw'n cael ei argymell ar gyfer pobl sydd â thrydylliadau perfeddol neu rwystr yn y coluddyn. Mae adweithiau alergaidd yn brin. Mae defnyddio bariwm yn ystod beichiogrwydd yn ddiogel i'r babi; fodd bynnag, gall pelydrau-x arwain at niwed. Gwneir daliant sylffad bariwm fel arfer trwy gymysgu powdr bariwm sylffad â dŵr.

Mae sylffad bariwm wedi bod yn hysbys ers yr Oesoedd Canol. Yng ngwledydd y gorllewin roedd wedi dod i ddefnydd meddygol cyffredin erbyn 1910. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.  Mae rhai fersiynau yn cynnwys plas ffrwythau i geisio gwneud ei blas yn well.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. News-Medical What is a Barium Meal? adalwyd 25 Ionawr 2018


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!