Neidio i'r cynnwys

Dai Dower

Oddi ar Wicipedia
Dai Dower
Dower gyda'i ddyweddi yn Chwefror 1955
Ganwyd20 Mehefin 1933 Edit this on Wikidata
Abercynon Edit this on Wikidata
Bu farw1 Awst 2016 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpaffiwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Paffiwr "flyweight" o Gymru fu'n bencampwr Prydeinig, Cymanwlad ac Ewropeaidd oedd David William "Dai" Dower MBE (20 Mehefin 19331 Awst 2016).[1] Roedd yn focsiwr proffesiynol Cymreig a oedd yn bencampwr bocsio Pwysau Plu Prydain, yr Ymerodraeth Brydeinig ac Ewrop (8 Mawrth 1955), ac mae’n cael ei ystyried gan gefnogwyr a beirniaid paffio fel un o baffwyr mwyaf llwyddiannus Cymru erioed.[2]

Fe'i ganwyd yn Abercynon ac wedi gyrfa paffio lwyddiannus iawn aeth yn athro addysg gorfforol i Bournemouth ac yna daeth yn bennaeth chwaraeon ym Mhrifysgol Bournemouth, swydd a ddaliodd am dri deg mlynedd.

Gyrfa amatur

[golygu | golygu cod]

Ar ôl dod yn bencampwr pwysau pryf Cymdeithas Bocsio Amatur Prydain ym 1952, pan fociodd allan o ABC Ieuenctid y Rhath[3] dewiswyd Dower ar gyfer tîm "Prydain Fawr" yng Ngemau Olympaidd yn Haf 1952 yn y garfan bocsio. Yno, trechodd Abdelamid Boutefnouchet o Ffrainc (3–0) a Leslie Donovan Perera Handunge o Ceylon (3–0) cyn colli o'r diwedd i'r bocsiwr Sofietaidd Anatoli Bulakov, deiliad teitlau Rwsia ac Ewrop, 1–2.

Gyrfa broffesiynol

[golygu | golygu cod]

Tra'n gweithio fel glöwr ym mhwll glo Abercynon, ym 1953 trodd Dower yn focsiwr proffesiynol a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Arena Maindy yng Nghaerdydd yn erbyn Vernon John. Enillodd Dower trwy ergyd derfynol dechnegol.[4] Yna curodd Dower Ron Hughes mewn dwy rownd[4] cyn iddo herio ymladdwr llawer mwy profiadol: Colin Clitheroe.[5] Roedd Clitheroe wedi colli tair o ddau ar hugain o ornestau, y rhan fwyaf ohonynt yn y pwysau bantam, ond collodd i Dower o bwyntiau mewn gornest chwe rownd.[4][5] Gyda phedair buddugoliaeth arall i'w enw, gan gynnwys dwy dros Jimmy Roche, wynebodd Dower Clitheroe eto, gan ei drechu yn rownd pump y tro hwn.[4][5]

Ar 23 Mawrth 1954, gyda 14 buddugoliaeth broffesiynol yn olynol, wynebodd Dower Bencampwr Pwysau Plu Prydain Terry Allen mewn gornest nad oedd yn ymwneud â'r teitl. Roedd Dower yn pwyso 8 stôn a 2 pwys.[6] Wedi'i drefnu ar gyfer gornest deg rownd yn Arena Earls Court yn Llundain, lloriodd Dower Allen yn yr ail rownd.[7]

Dower yn paffio yn erbyn Pascual Pérez yn Buenos Aires, yr Ariannin ym Mawrth 1957

Gyda 20 o ornestau llwyddiannus fel bocsiwr proffesiynol dan ei felt, cafodd Dower ei gyfle cyntaf mewn gornest deitl. Ar 19 Hydref 1954 daeth yn Bencampwr Ymerodraeth Prydain (sic), gan gymryd y teitl oddi wrth y bocsiwr Swlw o Dde Affrica, Jake Tuli.[8] Yn Nhachwedd 1954, cafodd Dower ei restru'n 3ydd yn y byd gan y cylchgrawn The Ring.[9] Dewiswyd Dower fel y 'Bocsiwr Ifanc Gorau' ym 1954 gan Glwb Ysgrifenwyr Bocsio ym mis Chwefror 1955.[10]

Priododd Dower ag Evelyn Trapp ar 6 Ionawr 1955.[11][12]

Daeth ail gyfle am deitl ym 1955, sef coron pwysau plu Prydain. Paffiodd Dower yn erbyn Eric Marsden ar 8 Mawrth 1955 yn Arena Harringay yng ngogledd Lloegr. Roedd coron yr Ymerodraeth Dower yn y fantol ond trechodd Dower Marsden gyda'r mwyaf o bwyntiau dros y gystadleuaeth 15 rownd.[11][13]

Ar 8 Mawrth 1955 - ag yntau yn dal heb golli ar ôl 23 o ornestau, heriodd Dower Nazzareno Gianelli am deitl Pwysau Plu Ewrop yng Nghanolfan Arddangosfa Earls Court, Llundain.[14] Aeth yr ornest y pellter hir, gyda Dower yn ennill ar bwyntiau i ychwanegu'r teitl Ewropeaidd at ei lwyddiannau.[15]

Collodd am y tro cyntaf wrth amddiffyn teitl Ewrop, ei 27ain ornest. Dechreuodd Young Martin, Sbaenwr, gyrraedd y pencampwr gyda'i ymosodiadau corff grymus a niweidiol. Cafodd Dower ei ollwng yn y nawfed rownd am y tro cyntaf yn ei yrfa. Tarodd Dower y llawr chwe gwaith yn y degfed rownd. Daeth i ben yn y ddeuddegfed pan methodd godi am y cyfrif llawn.[16]

Yn Rhagfyr 1955, llwyddodd i amddiffyn ei deitl Ymerodraeth yn erbyn Tuli.[17] Dilynodd pum buddugoliaeth allan o bump ym 1956. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, torrwyd ar draws cynlluniau Dower pan gafodd ei alw i'r fyddin i wneud ei ddwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol.[18] Ymunodd â'r Gatrawd Gymreig (y <i>Welch Regiment</i>) yn Hydref 1956, gan ildio ei deitlau ar yr un pryd.[19] Yn Rhagfyr 1956 cafodd ei restru'n ail gorau yn y byd (y tu ôl i Pascual Perez ) gan The Ring.[20]

Ar 30 Mawrth 1957 collodd Dower yn erbyn Pencampwr Pwysau Plu'r Byd sef Perez yng Nghlwb Atletico San Lorenzo de Almagro, yn nhref enedigol Perez, Buenos Aires. Collodd Dower yn y rownd gyntaf er gwaethaf mynd i mewn i'r ornest gyda mantais pwysau o fwy na phum pwyst [21]

Parhaodd Dai Dower â'i Wasanaeth Cenedlaethol ym Myddin Prydain . Trechodd Eric Brett yn Ionawr 1958, ychydig ddyddiau cyn i'w gyfnod yn y fyddin ddod i ben, roedd i fod i wynebu Terry Spinks, cafodd yr ornes ei gohirio.[22]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Bocsiwr o Gymru wedi marw yn 83 oed". Cyrchwyd 2 Awst 2016. Unknown parameter |gwefan= ignored (help)
  2. "Dai Dower MBE. Former Flyweight champion". Rhondda Cynon Taf Library Services. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 October 2011. Cyrchwyd 2 January 2011.
  3. "Roll of Honour". England Boxing. Cyrchwyd 10 January 2022.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 "Boxer: Dai Dower". BoxRec.com. Cyrchwyd 2 January 2011.
  5. 5.0 5.1 5.2 "Dai Dower". johnnyowen.com. Cyrchwyd 2 January 2011.
  6. "Dai Dower to Meet Terry Allen". Sunderland Daily Echo and Shipping Gazette. 25 Chwefror 1954. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  7. "Dai Dower's Greatest Victory: Allen k.o.'d". Northern Whig. 24 March 1954. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  8. "Dower Wins on Points". Dundee Courier. 20 October 1954. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  9. "Dai Dower Ranked Third by America". Sunderland Daily Echo and Shipping Gazette. 4 November 1954. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  10. "Dai Dower Rated". Birmingham Daily Gazette. 23 Chwefror 1955. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  11. 11.0 11.1 "Dower Wins British Flyweight Title". Belfast News-Letter. 9 Chwefror 1955. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  12. "Dowers Did Not Pack". Portsmouth Evening News. 10 Chwefror 1955. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  13. "Dai Dower in action against Eric Marsden". BBC Sport. 23 September 2010. Cyrchwyd 2 January 2011.
  14. "Programme for championship fight between Dai Dower and Nazzareno Giannelli, 1955". Gathering the Jewels. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 August 2011. Cyrchwyd 2 January 2011.
  15. "Dai Dower Wins Third Title". Dundee Courier. 9 March 1955. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  16. "First Defeat—and k.o—for Dai Dower". Dundee Courier. 4 October 1955. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  17. "Brilliant Win by Non-Stop Dai Dower". Yorkshire Post and Leeds Intelligencer. 7 December 1955. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  18. "Army May Call Up Dai Dower". Daily Herald. 16 August 1956. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  19. "Dai Dower Escapes". Sports Argus. 7 September 1957. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  20. "Dower Ranked Next to Perez". Aberdeen Evening Express. 27 December 1956. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  21. "Dai Dower Has Weight Advantage". Hartlepool Northern Daily Mail. 30 March 1957. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.
  22. "Dower Takes on Spinks, Says: 'Get Me Keenan'". Daily Herald. 13 September 1958. Cyrchwyd 3 Chwefror 2018 – drwy British Newspaper Archive.