Neidio i'r cynnwys

Dafydd y Glo

Oddi ar Wicipedia
Dafydd y Glo
Enghraifft o:cyflwyniad theatrig i blant
Dyddiad cynharaf1972
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
Dynodwyr

Sioe theatr i blant gan Gwmni Theatr Cymru oedd Dafydd y Glo. Teithwyd y sioe o gwmpas ysgolion Cymru yng Ngwanwyn 1973. Ymysg yr actorion roedd Gwynfryn Roberts, Wynford Ellis Owen, Iona Banks, John Pierce Jones a Dyfan Roberts.

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Yn hytrach na hanes chwedlonol neu ddychmygol, yn y sioe hon defnyddiwyd hanes "realistig", sef stori "wedi ei seilio ar y defnydd a wnaed o blant yn y ganrif ddiwethaf [19eg ganrif] yn y pyllau glo”. Roedd y prif gymeriad "Dafydd y Glo" dan ddwylo'r meistr creulon, "Huw Huws", a "ceir Huws yn euog o dorri deddf yr Arglwydd Shaftesbury yn erbyn cyflogi plant o dan naw oed i weithio mewn pwll glo, a'i ddiswyddo."[1]

Rhoddwyd hefyd y cyfle i'r plant gymeryd rhan, a chreu golygfa o'r newydd yn ystod y rhagymarferion, "lle gallent chwarae cymeriadau, gwisgo dillad pwrpasol, a chyd-chwarae gyda'r actorion ac ei gilydd."[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Yn nghylchgrawn Cymdeithas Theatr Cymru, Llwyfan [Gwanwyn / Haf 1974] eglura Grey Evans mewn erthygl am "Theatr i blant" bod y cwmni wedi perfformio i "gynulleidfaoedd o blant ysgol o bedair hyd ddeunaw oed" rhwng 1969 a 1974, "gan lunio deunydd addas i bob oedran yn eu tro".[1] Aiff Evans ymlaen i egluro mai "Confensiwn cyffredinol mewn theatr i oedolion yw eistedd yn ffurfiol mewn rhesi, a defnyddio chwerthiniad neu gymeradwyaeth neu dawelwch i fynegi ymateb. Wrth gyflwyno profiad o ddrama i blant am y tro cyntaf mae penrhyddid i'r cyflwynydd eu gwneud yn gymaint rhan o'r gweithgarwch ag y myn".[1]

Rhai o'r cyn sioeau eraill i blant oedd Y Peiriant Hapusrwydd [gan Roger Williams] a Nid Aur yw Popeth Melyn [gan Eigra Lewis Roberts].

Ail lwyfannwyd y sioe ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach gyda Glyn Banks (mab Iona Banks), Hannah Roberts, Gari Williams, Iestyn Garlick a Dwynwen Berry yn y cast.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Evans, Grey (Gwanwyn / Haf 1974). "Theatr i blant". Llwyfan 10.
  2. Neges gan Dwynwen Berry ar Facebook. 2025.