Dafydd Huws (awdur)

Oddi ar Wicipedia
Dafydd Huws
FfugenwGoronwy Jones, Charles Huws Edit this on Wikidata
Ganwyd1949 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ebrill 2020 Edit this on Wikidata
Penarth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr, athro Edit this on Wikidata
PlantCatrin Dafydd Edit this on Wikidata

Awdur o Gymro oedd Dafydd Huws (194915 Ebrill 2020), a ysgrifennodd o dan y ffugenw Goronwy Jones.[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Mangor a fe'i magwyd yn Llanberis ac aeth i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Bu'n athro Cymraeg am 18 mlynedd yn Ysgol Uwchradd Illtyd Sant, Caerdydd cyn gadael y byd addysg am y BBC i sgriptio Pobol y Cwm.

Dechreuodd ei yrfa lenyddol fel colofnydd radio a theledu Y Faner o dan yr enw Charles Huws (1971-1982). Ef yw awdur nofelau'r Dyn Dwad. Trwy lygad ei gymeriad Goronwy Jones, creodd Huws dair nofel ôl-fodernaidd a gwleidyddol. Dyddiadur Dyn Dŵad (1978), Un Peth 'Di Priodi, Peth Arall 'Di Byw (1990) a Walia Wigli (2004) a detholiad o storiau a darllediadau yn y gyfrol Chwarter Call (2005). Rhydd nofelau Huws olwg ddychanol a gwleidyddol ar Gymru'r 70au, yr 80au, y 90au a'r Gymru fodern. Addaswyd y nofel Dyddiadur Dyn Dŵad yn gyfres fer ar Radio Cymru yn 1986 ac yn ddiweddarach fel ffilm, gyda Llion Williams yn serennu yn y brif ran. Fe'i ddarlledwyd fel y ffilm Nadolig ar S4C yn 1989.

Ef hefyd oedd awdur Ser y Dociau Newydd (1994) ac roedd yn parhau i sgriptio ar gyfer y teledu. Roedd Dafydd Huws yn weithgar gydag Undeb yr Ysgrifenwyr yng Nghymru.

Yn ei flynyddoedd olaf, roedd wedi bod yn barddoni dipyn, a cyhoeddwyd rhai darnau yn enw Goronwy Jones yng nghylchgrawn Golwg ym mis Ebrill 2017.[1]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a June ac roeddent yn byw yng Ngwaelod-y-Garth ger Caerdydd. Mae ganddynt ddwy ferch, Esyllt a Catrin Dafydd.

Bu farw yn hosbis Holme Towers ym Mhenarth.

Gweithiau[golygu | golygu cod]

  • Gwaith Sgriptio i Deledu: Cyfres Mwy Na Phapur Newydd, I Dir Drygioni, Un Dyn Bach A Rol, Iechyd Da.
  • Ffilmiau: Dyddiadur Dyn Dwad (1989), Y Delyn (1998)
  • Cyfresi Radio: Dyddiadur Dyn Dwad, Dyddiadur Dyn Priod.
  • CD o ddarllediadau: Dyddiadur Dyn Priod.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Colli Dafydd Huws, ‘y Dyn Dŵad’ , Golwg360, 15 Ebrill 2020.