Neidio i'r cynnwys

Dafydd Huw Williams

Oddi ar Wicipedia
Dafydd Huw Williams
GanwydDafydd Huw Williams
1943
Llandegfan
Bu farw6 Mawrth 2009
Ysbyty Gwynedd, Bangor
Man cladduLlandegfan
Alma materPrifysgol Bangor
Galwedigaethdramodydd, cynhyrchydd a cyn-gomisiynydd drama S4C

Dramodydd, llenor, cynhyrchydd ffilm a chyn-gomisiynydd drama S4C oedd Dafydd Huw Williams (19436 Mawrth 2009). Fe'i ganwyd a'i magwyd yn Llandegfan, Ynys Môn yn frawd i'r Prifardd Cen Williams a'r cyfarwyddwr a dramodydd Eurwyn Williams. Derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Bangor, a bu'n aelod o gwmni drama enwog y coleg o dan gyfarwyddyd John Gwilym Jones. Mae'n cael ei enwi fel aelod o gast y ddrama Hanes Rhyw Gymro ym 1964 ynghyd â John Ogwen, Maureen Rhys, John Owen, Euryn Ogwen Williams, Dafydd Glyn Jones a llawer eraill.

Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Gadeiriol Môn Y Borth 1965 a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.[1]

Dechreuodd ei yrfa ym maes teledu fel ymchwilydd a sgriptiwr ar y rhaglen Heddiw.[2] Bu'n gweithio fel cynhyrchydd drama gyda BBC Radio Cymru ym Mangor, cyn ei benodi yn bennaeth drama i'r sianel.[2] Ym 1982, gyda dyfodiad S4C, roedd yn un o gyd-sefydlwyr Ffilmiau Eryri.[2]

Fel Cynhyrchydd ac Uwch Gynhyrchydd, bu'n gyfrifol am nifer o gynyrchiadau llwyddiannus i S4C fel Minafon, Tywyll Heno, Noson yr Heliwr, Heliwr, Pum Cynnig i Gymro, Tân ar y Comin, Elenya, Y Fargen, Brad, Sigaret? a Lleifior.[3]

Fel dramodydd, bu'n cyd-ysgrifennu'r ffilmiau Owain Glyndŵr a Gwaed ar y Sêr.

Cafodd ei benodi yn Gomisiynydd Drama S4C ym 1990 ac ymddeolodd ym mis Chwefror 1997, pryd y daeth Angharad Jones yn gomisiynydd newydd yn ei le.[2]

Priododd Wendy ym 1965, a ganwyd iddynt 2 o blant.[4][5]

Bu farw'n 66 oed ar y 6 Mawrth 2009 yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, a thalwyd teyrngedau iddo gan Geraint Stanley Jones, y Parchedig Elwyn Jones ac Ifan Roberts.[4]

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]

(detholiad)

Fel dramodydd / cyd-awdur

[golygu | golygu cod]

Fel cynhyrchydd ac uwch-gynhyrchydd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Eisteddfod Môn". Y Clorianydd. 8 Mehefin 1965.
  2. 1 2 3 4 "Dafydd's the man for drama". Caernarfon & Denbigh Herald. 23 Mawrth 1990.
  3. "Dafydd Huw Williams | Producer, Writer". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-29.
  4. 1 2 "Click here to view the tribute page for HUW WILLIAMS Dafydd". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-29.
  5. "Click here to view the tribute page for DAFYDD WILLIAMS". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-29.