Neidio i'r cynnwys

Daearyddiaeth Tsile

Oddi ar Wicipedia
Map o Tsile

Dominyddir daearyddiaeth Tsile gan y ffaith ei bod yn stribyn hir o wlad sy'n gorwedd yn ne-orllewin De America rhwng arfordir y Cefnfor Tawel a chadwyn hir yr Andes. Mae'n ymestyn dros 4,630 kilomedr o'r gogledd i'r de, ond dim ond 430 km ar y mwyaf o'r ddwyrain i'r gorllewin. Mae hi'n ffinio â'r Ariannin i'r dwyrain (ei ffin hiraf o lawer), Bolifia i'r gogledd-ddwyrain a Periw i'r gogledd.

Yr Andes uwchben Santiago de Chile

Ceir cyfoeth mwynol yn Anialwch Atacama (Sbaeneg: Deserto do Atacama) yn y gogledd. Rhed Afon Loa (yr hiraf yn y wlad) trwyddo. Mae llawer o boblogaeth ac adnoddau amaethyddol y wlad i'w cael yn Nyffryn y Canolbarth, sy'n cynnwys y brifddinas Santiago de Chile. Ceir coedwigoedd, tir pori, llosgfynyddoedd ac afonydd (gan gynnwys Afon Biobío), yn y De. Mae'r arfordir deheuol i lawr hyd at Tierra del Fuego yn frith o forlynoedd, cilfachau, sianeli, penrhynoedd ac ynysoedd. Lleolir mynyddoedd yr Andes ar hyd y ffin dwyreiniol.

Mynyddoedd

[golygu | golygu cod]

Mae cadwyn hir yr Andes yn rhedeg ar hyd ochr ddwyreiniol Chile am dros 4,000 cilomedr.

Ynysoedd

[golygu | golygu cod]

Mae Ynysoedd Juan Fernández, Ynys y Pasg ac Ynysoedd y Desventuradas, yn y Cefnor Tawel ymhell i'r gorllewin o'r tir mawr, yn perthyn i Tsile. Yn ne'r wlad ceir nifer fawr o ynysoedd arfordirol sy'n ymestyn i lawr i Tierra del Fuego.