Daeargryn Sichuan 2008
Gwedd
| Enghraifft o: | Daeargryn |
|---|---|
| Dyddiad | 12 Mai 2008 |
| Lladdwyd | 69,195 |
| Lleoliad | Sichuan |
![]() | |
| Gwladwriaeth | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/043ptpq |
Daeargryn ar raddfa 7.9 Mw oedd Daeargryn Sichuan, 2008 (Tsieineeg: 四川大地震; Pinyin: Sìchuān dà dìzhèn). Digwyddodd am 14:28:01.42 Amser Safonol Tsieina (06:28:01.42 UTC) ar 12 Mai 2008 yn nhalaith Sichuan, Gweriniaeth Pobl Tsieina. Mae wedi cael ei galw yn Ddaeargryn Wenchuan yn Tsieina (Tsieineeg: 汶川大地震; Pinyin: Wènchuān dà dìzhèn), am fod canolbwynt y daeargryn yn Swydd Wenchuan, Sichuan. Roedd y canolbwynt 90 km i'r gogledd-orllewin o Chengdu, prifddinas Sichuan, ar ddyfnder o 19 km dan wyneb y ddaear.[1] Teimlwyd y daeargryn mor bell i ffwrdd â Beijing a Shanghai, lle siglodd adeiladau gan y cryndod.[2] Teimlwyd y daeargryn mewn gwledydd cyfagos yn ogystal.
| Ardal | Marwolaethau (amcangyfrif) | |
|---|---|---|
| Sichuan | Mianyang | 8,113[3] |
| Deyang | 6,701[4] | |
| Chengdu | 1,215[5] | |
| Guangyuan | 1,479[5] | |
| Ngawa | 161[5] | |
| Eraill | 3,276 | |
| Cyfanswm | 19,509 | |
| Gansu | 365[6] | |
| Shaanxi | 108[7] | |
| Chongqing | 14[5] | |
| Henan | 2[5] | |
| Yunnan | 1[5] | |
| Cyfanswf (amcangyfrif): | 19,999 [5] | |
Cymorth
[golygu | golygu cod]Ardal
[golygu | golygu cod]
Tsieina : Y prif fudiad cymorth yw Cymdeithas Croes Goch Tsieina. Dywedodd Gweinyddiaeth Materion Dinesig y rhoddwyd $125.4 miliwn gan y cyhoedd yn Tsieina. Rhoddodd chwaraewr mwyaf poblogaidd y wlad, Yao Ming, $214,000 a $71,000 i Gymdeithas Croes Goch Tsieina. Mae Cymdeithas Croes Goch Tsieina wedi casglu tua $26 miliwn hyn yn hyn.[8] Casglodd cwmnïau rhyngwladol arian hefyd.[9]
Ffrainc : Danfonodd y llywodraeth awyren gyda phebyll, sachau cysgu, blancedi, tarpowlin, offer coginio a phethau eraill tebyg. Amcangyfrifwyd fod hyn gwerth tua $385,500.
Yr Almaen : Cyhoeddodd y llywodraeth ei bod am gyflwyno $770,000 fel y "cam cyntaf" trwy Groes Goch yr Almaen yn gymorth.[11]
Hong Cong : Addawodd y llywodraeth $38.4 miliwn.[12] Cynigodd yr Hong Cong Jockey Club $3.85 miliwn.[13] I ddelio â chyfraniadau wrth unigolion, dywedwyd y byddai swyddfeydd post a swyddfeydd llywodraethau lleol yn gweithredu fel mannau casglu. Byddai cyfraniadau'n cael eu trosglwyddo i bum mudiad elusennol sef (Croes Goch Hong Cong, World Vision Hong Cong, Oxfam Hong Cong, UNICEF a Byddin yr Iachawdwriaeth).[8][14]
Japan : Roedd $4.8 miliwn mewn arian a nwyddau i gael ei ddosbarthu trwy lywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina a mudiadau rhyngwladol. Dywedodd Tokyo eu bod yn barod i gynnig cymorth ychwanegol pe bai angen.[15]
Maleisia : Gallai'r Special Malaysia Disaster Assistance and Rescue Team (SMART) gael ei anfon i Tsieina i fod o gymorth i ddioddefwyr yn Chengdu.[16]
Rwsia : Awyren gludo am hedfan 30 tunnell o ddeunydd cymorth i Chengdu dydd Mercher, a 100 tunnell pellach i ddod.[18]
Singapôr : Y llywodraeth wedi rhoi $200,000 o gymorth yn ogystal â $70,000 wedi ei godi trwy gasglwyr yng nghymunedau China.[19]
Taiwan : Y Gweithredwr Yuan wedi datgan bydd y llywodraeth yn rhoi $65 miliwn. Roedd y llywydd Ma Ying-jeou wedi rhoi $6,500. Danfonodd y llywodraeth 58 o bobl mewn tîm chwilio ac achub. Addawodd Taiwan $42.9 miliwn.[21]
Unol Daleithiau : Rhoddodd yr Unol Daleithiau $500,000 fel cymorth cychwynnol mewn ymateb i apêl am arian gan y Groes Goch Rhyngwladol. Byddent yn ystyried rhoi mwy o arian.[23]
Mudiadau
[golygu | golygu cod]
Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol: Wedi anfon gwerth $1 miliwn o gymorth.[24]
Croes Goch Rhyngwladol: Wedi rhyddhau tua $235,000 o gronfa argyfwng.[25]- Oxfam: Wedi rhoi $1.55 miliwn ar gyfer cymorth argyfwng, adferiad ac ailadeiladu.[26]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Magnitude 7.9 - EASTERN SICHUAN, CHINA. USGS (12 Mai 2008).
- ↑ 'Hundreds buried' by China quake. BBC (12 Mai 2008).
- ↑ http://news.sina.com.cn/c/2008-05-15/185315547642.shtml
- ↑ Earthquake Killed More than 6,000 in Deyang.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 5.6 伤亡汇总_四川汶川强烈地震_新闻中心_新浪网 [Anafusion Daeargryn Wenchuan] (yn Tsieinëeg). Sina.com. 8 Mehefin 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mai 2008. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2008., a 汶川地震已造成69196人遇难 18379人失踪_新闻中心_新浪网 [Mae Daeargryn Wenchuan eisoes wedi achosi 69,196 o farwolaethau a 18,379 ar goll] (yn Tsieinëeg). Sina.com. 6 Gorffennaf 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mehefin 2011. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2008.
- ↑ Earthquake Killed 365 in Gansu, Sina.com
- ↑ http://news.sina.com.cn/c/2008-05-15/194015547712.shtml
- ↑ 8.0 8.1 8.2 Charity Begins at Home - The Wall Street Journal
- ↑ FACTBOX: Earthquake aid for China. [Reuters (14 Mai 2008).
- ↑ Cambodian Red Cross donates $10,000 to help China's quake relief efforts. Xinhua News Agency (14 Mai 2008).
- ↑ Germany announces aid to China over earthquake. Xinhua News Agency (14 Mai 2008).
- ↑ $300m proposed to help Sichuan quake victims (13 Mai 2008).
- ↑ HKJC organises fund-raising drive, calls on public to donate to earthquake relief. The Hong Cong Jockey Club (14 Mai 2008).
- ↑ Quake aid donations accepted from May 14. Government of Hong Kong (13 Mai 2008).
- ↑ China requests quake aid - Japan foreign minister. The Guardian (13 Mai 2008).
- ↑ SMART ready to deploy to Sichuan. The Star (14 Mai 2008).
- ↑ Norway to provide aid to China over earthquake. Xinhua News Agency (14 Mai 2008).
- ↑ Russia to send humanitarian aid for quake-hit China. Xinhua News Agency (13 Mai 2008).
- ↑ Singapôr to donate $200,000 for earthquake relief. Xinhua (14 Mai 2008).
- ↑ SKorea to send China US$1 million in earthquake aid. Associated Press (14 Mai 2008).
- ↑ FACTBOX-Earthquake aid for China. Reuters (14 Mai 2008).
- ↑ Cabinet approves 30 million baht to aid China and Myanmar. Relief Web (13 Mai 2008).
- ↑ US to give $500,000 to China earthquake relief. Reuters (13 Mai 2008).
- ↑ IOC sends $1M in earthquake aid to China. CBC.
- ↑ Locals mobilizing to help Chinese earthquake victims. The Chronicle Herald (14 Mai 2008).
- ↑ Oxfam allocates $1.5 million for China earthquake relief. Oxfam (14 Mai 2008).
