Daeargi Byrgoes
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Daeargi sy'n tarddu o'r Alban yw'r Daeargi Byrgoes.[1] Datblygwyd yn yr 17g o ddaeargi'r Ynys Hir i hel anifeiliaid o garneddau yn Ucheldiroedd yr Alban. Saif tua 25 cm ac mae'n pwyso tua 6.5 kg. Mae ganddo goesau byrion, wyneb llydan, a chôt arw o flew llwydlas, melyn, neu frown golau. Ci bywiog a hyderus yw'r Daeargi Byrgoes, ac mae'n gi anwes a gwarchotgi poblogaidd.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur yr Academi, cairn > cairn terrier.
- ↑ (Saesneg) Cairn terrier. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Mai 2017.