Dadsensiteiddio systematig

Oddi ar Wicipedia

Gweithdrefn a ddefnyddir ym maes seicoleg i drin ofn, gorbryder, ffobia neu anhwylderau gorbryder (anxiety disorders) eraill ar berson yw dadsensiteiddio systematig. Mae'n fath o therapi ymddygiad (behavior therapy).

Mae'n fath o gyflyru croes, neu therapi Pavlovaidd a ddatblygwyd gan y seiciatrydd o Dde Affrica, Joseph Wolpe. Yn 1947 darganfu Wolpe y gallai cathod ym Mhrifysgol Wits ddod dros eu gorbryderon drwy amlygiad systematig.[1] Mae'r broses yn digwydd mewn tri cham: y rhan gyntaf o'r weithdrefn yw ymlacio neu dechneg ymdopi, yna datblyga'r person hierarchiaeth o sefyllfaoedd sy'n cynhyrchu ofn. Yn y rhan olaf, sy'n digwydd wedi i'r person ddysgu'r ddau gam cyntaf yn drylwyr, mae'n dychmygu'r holl sefyllfaoedd yn yr hierarchiaeth, gan gychwyn gyda'r sefyllfa sy'n codi'r lleiaf o ofn a gweithio'n raddol i'r sefyllfa sy'n cynhyrchu'r ofn mwyaf. Y nod yw amnewid yr ymateb o ofn gyda'r ymateb o ymlacio wrth i bob sefyllfa gael ei dychmygu.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Greg Dubord, "Part 12. Systematic desensitization", Canadian Family Physician 57 (2011): 1299+
  2. "Termau", Coleg Cymraeg Cenedlaethol