D. J. Williams

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth D.J. Williams)
Jump to navigation Jump to search
D. J. Williams
D.J. Williams 1936.JPG
D. J. Williams, tua 1936.
Ganwyd 26 Mehefin 1885 Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Ionawr 1970 Edit this on Wikidata (84 oed)
Alma mater
Galwedigaeth Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Flora Forster, Saunders Lewis Edit this on Wikidata

Roedd David John Williams (26 Mehefin 18854 Ionawr 1970), neu D.J. Williams neu weithiau 'D. J. Abergwaun', yn llenor ac yn genedlaetholwr. Roedd yn gymeriad cryf, penderfynol a dygn, a gwnaeth gyfraniad pwysig i lên a diwylliant ei wlad;cyfeiriwyd ato fel "Y Cawr o Rydcymerau" ac ysgrifennodd Dafydd Iwan ddwy gân amdano: Y Wên na Phyla Amser a Cân D. J.

Gyda Saunders Lewis a Lewis Valentine, ar 8 Medi 1936, llosgodd yr ysgol fomio ym Mhenyberth a chafodd ei garcharu.

Llawysgrifen D. J. ar ochr arall y cerdyn post
Llawysgrifen D. J. ar ochr arall y cerdyn post (dyddiedig 1 Mawrth 1968) at Dilys, chwaer Waldo Williams.
Cerdyn Post 1 Mawrth 1968 gan DJ Williams
Y neges
Cerdyn post yn llawysgrifen D. J. Williams.
Taflen angladd D. J. (4 Ionawr 1970)
Ochr 1
Ochr 2
ochr 2
Taflen angladd D. J. (4 Ionawr 1970)

Magwraeth ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed D.J., fel y'i gelwid, ym Mhen-rhiw, ym mhlwyf Llansawel, Sir Gaerfyrddin ar 26 Mehefin 1885. Yn chwech oed, symudodd y teulu i fferm lai Abernant yn Hydref 1891 a chan nad oedd digon o waith iddo gartref yn 1902, yn un ar bymtheg oed, aeth i chwilio am waith ym maes glo de Cymru. Bu'n gweithio yn Nhrerhondda, Cwmaman, Rhondda Cynon Taf a Chwm Dulais, rhwng 1902 ac 1906 ond yn y diwedd penderfynodd gael mwy o addysg ac aeth i Ysgol Stephens, Llanybydder. Bu'n ddisgybl athro yn Ysgol Llandrillo, Sir Ddinbych rhwng 1908-10 cyn mynychu Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin (1910-11). Yn 1911 aeth i Goleg y Brifysgol yn Aberystwyth ac wedi graddio ac ennill Ysgoloriaeth Meyricke yn 1916 aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen, lle graddiodd yn 1918. Wedi tymor yn athro Cymraeg dros-dro yn Ysgol Lewis, Pengam, bu'n athro Saesneg ac yn addysg gorfforol yn Ysgol Ramadeg Abergwaun rhwng 1919 a 1936. Rhwng 1937 a'i ymddeoliad yn 1945 bu'n athro Cymraeg yn yr ysgol honno, ac o'r herwydd fe gyfeirid ato yn aml fel 'D.J. Abergwaun'.[1]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mab ydoedd i John a Sarah Williams. Roedd ganddo chwaer, Margaret Anne, 'Pegi'. Priododd D. J. Siân Evans yn 1925, merch y Parch. Dan Evans a Mary, a oedd yn chwaer i'r bardd a'r archdderwydd William Evans ("Wil Ifan").

Ymgartrefodd y ddau mewn tŷ o'r enw'r Bristol Trader yn Abergwaun. Ni chawsant blant. Bu farw Siân ei wraig yn 1965 a bu farw yntau ar nos Sul, 4 Ionawr 1970, ar ôl rhoi anerchiad gwladgarol yng Nghapel Rhydcymerau. Fe'i claddwyd ym mynwent y capel hwnnw gyda'i wraig. Ar y garreg fedd dyfynnir yr adnod sy’n disgrifio Mordecai, arweinydd yr Iddewon, ar ddiwedd llyfr Esther: ‘Yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr, yn ceisio daioni i’w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i’w holl hiliogaeth.' Dadorchuddiwyd cofeb iddo ar fur tŷ Aber-nant ar 17 Medi 1977. Ceir cofeb iddo hefyd yn nhref Abergwaun.

Y llenor[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennodd ddau hunangofiant, sef Hen Dŷ Ffarm (1953) ac Yn Chwech ar Hugain Oed (1959). Y stori fer oedd ei brif gyfrwng creadigol; cyhoeddodd dair cyfrol, sef Storïau'r Tir Glas (1936), Storïau'r Tir Coch (1941) a Storïau'r Tir Du (1949). Cyhoeddwyd detholiad ohonynt yn 1966, sef Storïau'r Tir. Ystyrir ei gyfrol o bortreadau o rai o hen gymeriadau ei fro enedigol, Hen Wynebau, yn glasur o'i fath.

Y gwladgarwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Stamp answyddogol yn dathlu bywyd D. J. Williams

Roedd yn genedlaetholwr brwd. Yn aelod o'r ILP cyn sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru (sef Plaid Cymru heddiw) yn 1925. Roedd D.J., ynghyd â Saunders Lewis a Lewis Valentine, yn gyfrifol am losgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth. Methodd y rheithgor a chytuno a oeddent yn euog yn llys y Goron yng Nghaernarfon, ac o ganlyniad bu ail achos yn eu herbyn yn yr Old Bailey pan y'i cafwyd yn euog ac fe'u carcharwyd.

Roedd cyflwr ariannol Plaid Cymru yng nghanol y 1960au yn echrydus ac mae'n amheus a fyddai wedi gallu ymladd etholiad cyffredinol 1966 oni bai i D.J. werthu Penrhiw sef yr Hen Dŷ Ffarm yn ei gyfrol adanbyddus, a rhoi'r arian i Blaid Cymru.

D. J. Williams yn esbonio pam y gwnaeth ef ac eraill losgi Penyberth[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhan o lythyr D. J. Williams yn esbonio pam y llosgwyd Penyberth.

Mewn llythyr dyddiedig 16 o Ragfyr, 1936 at Megan Humphreys o Lanrug, a oedd ar y pryd yn athrawes yn Ilkeston, Swydd Derby esbonia D. J. Williams pam y gwnaeth ef, ac eraill, losgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaith D.J.[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd casgliad o gerddi er cof amdano yn y gyfrol Y Cawr o Rydcymerau (gol. D. H. Culpitt ac W. Leslie Richards, 1970). Hefyd cyfrol deyrnged iddo wedi ei golygu gan J. Gwyn Griffiths.

Cyfieithodd Waldo Williams Hen Dy Ffarm i'r Saesneg, sef The Old Farm House

Astudiaethau a llyfrau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir llyfryddiaethau o weithiau D. J. Williams yn y ffynonellau canlynol:

David Jenkins, ‘Llyfryddiaeth: Gweithiau D. J. Williams’ yn J. Gwyn Griffiths, gol., D.J. Williams Abergwaun: Cyfrol Deyrnged ( Llandysul, 1965), 161-8.

Gareth O. Watts,  ‘Gweithiau D. J. Williams’, yn J. Gwyn Griffiths, gol., Y Gaseg Ddu a Gweithiau Eraill gan D. J. Williams, Abergwaun ( Llandysul, 1970), 161-5.

Emyr Hywel, Y Cawr o Rydcymerau (Talybont, 2009), 326-8

Mae adran ar y wefan www.cofiantdj.net yn dwyn yr eitemau o'r tair ffynhonnell hyn ynghyd ac yn ychwanegu rhai newydd wrth iddyn nhw ddod i'r golwg. http://www.cofiantdj.net/cyhoeddiadau-d-j.html

Ymysg pethau eraill mae'r wefan hefyd yn cynnwys mynegai i gymeriadau Hen Wynebau, Hen Dŷ Fferm ac Yn Chwech ar Hugain Oed. http://www.cofiantdj.net/mynegai-i-bobl-hen-wynebau-hen-d375-ffarm.html