D.J. James

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
D.J. James
Sir D. J. James, Pantyfedwen.JPG
Cerflun o Syr D. J. James, Pantyfedwen, gan R L Gapper, ar fur y pencadlys yn Aberystwyth
Ganwyd David John James Edit this on Wikidata
13 Mai 1887 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Mawrth 1967 Edit this on Wikidata (79 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth person busnes, dyngarwr Edit this on Wikidata

Gŵr busnes llwyddiannus, Cristion, dyngarwr a chefnogwr brwd o addysg a diwylliant Cymru oedd Syr David John James, a adnabuwyd fel rheol fel D.J. James (13 Mai 18877 Mawrth 1967). Mae'n adnabyddus am ei sefydliad elusennol, Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed ef yn Llundain ar 13 Mai 1887 i deulu o Geredigion. Dychwelodd y teulu i'r hen gartref ym Mhantyfedwen, Pontrhydfendigaid, pan oedd yn fachgen yn ifanc.[1]

Dychwelodd i Lundain i ofalu am fusnes laeth y teulu a threuliodd weddill ei fywyd yno ac yn Barcombe, Dwyrain Sussex. Priododd â Grace Lily Stevens ar 24 Ebrill 1924. Er iddo barhau â diddordebau busnes yn y diwydiannau llaeth a phrynu gwenith cofir ef yn arbennig am berchen 13 sinemâu yn Llundain. Adeiladodd y cyntaf o super-cinemas Llundain gyda 2,000 o seddi a'i hagor yn 1920, sef y Palladium, Palmer's Green. Yn y 1930au gwerthodd bob un ohonynt, ac eithrio Stiwdio 1 a 2 yn Oxford St.[2] Bu'n gadeirydd tri o gwmnïoedd cyn ymddeol yn 1957.

Yn ystod ei fywyd rhoddodd symiau sylweddol i'r enwadau Anghydffurfiol ac i'r Eglwys yng Nghymru i wella cyflogau a phensiynau gweinidogion, i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, i bentref Pontrhydfendigaid ac i lu o achosion eraill.

Elusenwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Pentref Pontrhydfendigaid

Yn sgîl gwneud ei ffortiwn yn Llundain, daeth D.J. James yn elusennwr a chefnogwr brwd o ddiwylliant, addysg a chrefydd yng Nghymru.

Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1952 sefydlodd Ymddiriedolaeth Pantyfedwen yn 1952 a gweinyddwyd hi o Lundain. Ei phwrpas oedd hybu achosion crefyddol, addysgiadol ac elusennol yng Nghymru.

Diddymwyd hon yn 1957 pan sefydlodd Ymddiriedolaeth Cathryn a'r Fonesig Grace James (a enwyd ar ôl ei fam a'i wraig). Yn 1967 sefydlodd ail Ymddiriedolaeth yn enw John (ei dad) a Rhys Thomas James (ei frawd a fu farw'n yn ifanc). Ddiwedd y 1950au sefydlwyd Eisteddfodau Pantyfedwen ym Mhontrhydfendigaid (Eisteddfod Teulu James neu Eisteddfod y Bont ar lafar); Aberteifi (Eisteddfod Coffa John James); a Llanbedr Pont Steffan (Eisteddfod Rhys Thomas James).

Bu'n ymwneud â symud gweinyddiaeth yr ymddiriedolaethau i Aberystwyth ond bu farw cyn agor y swyddfeydd yno'n swyddogol yn 1968 yn Stryd y Farchnad. Fel cyd-ddigwyddiad llwyr, o gofio gyrfa D.J. James ym maes datblygu sinemâu yn Llundain, adeiladwyd y swyddfeydd newydd ar safle hen sinema'r Palladium.

Yr Urdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Elwodd Urdd Gobaith Cymru yn hael ganddo. Prynodd westy'r Grand Hotel yn Y Borth i letya 100 o bobol a’i fedyddio ym Mhantyfedwen cyn ei gyflwyno fel rhodd i’r mudiad. Cyfrannodd hefyd at nifer o weithgareddau eraill y mudiad. Cyflwynodd Gwpan Pantyfedwen (sy’n fwy na chwpan yr FA) yn wobr flynyddol i bencampwyr pêl-droed yr Urdd a Chwpan Teulu Pantyfedwen, y cwpan arian mwyaf yn y byd (nodwedd arbennig o brifwyl yr Urdd am flynyddoedd) i’r Sir uchaf ei marciau yn Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn.[2]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Derbyniodd radd LL.D. er anrh. gan Brifysgol Cymru yn 1957, cafodd ei urddo'n farchog yn 1959, derbyniwyd ef i Urdd Wen Gorsedd y Beirdd yn 1965 a'r un flwyddyn cyflwynwyd rhyddfraint bwrdeistref Aberystwyth iddo.

Tynnwyd darlun o Bantyfedwen gan yr artist Wynne Melville Jones i goffau Syr David ac arddangoswyd y llun yng Nghanolfan Cymry Llundain yn Gray's Inn Rd yn 2013014.[2]

Marw[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw ar 7 Mawrth 1967 a'i gladdu ym mynwent Ystrad Fflur.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]