Cytundeb amddiffyn cydfuddiannol Sawdi Arabia–Pacistan
| Enghraifft o: | cytundeb milwrol |
|---|---|
| Dyddiad | 17 Medi 2025 |
| Gwlad | |
| Dyddiad cyhoeddi | 17 Medi 2025 |
| Dynodwyr | |
Mae Cytundeb amddiffyn cydfuddiannol Sawdi Arabia–Pacistan yn gytundeb diogelwch a lofnodwyd yn 2025 rhwng Sawdi Arabia a Phacistan. Mae’r cytundeb yn ffurfioli partneriaeth amddiffyn hirsefydlog rhwng y ddwy wlad ac yn anelu at gryfhau cydweithrediad milwrol, rhannu gwybodaeth a gwella gallu ataliol mewn amgylchedd diogelwch ansicr.[1]
Mae hyn yn gam mawr i Sawdi Arabia, gan mai at yr Unol Daleithiau y mae wedi troi hyd yma, a cheir sawl canolfan filwrol yr UD yn Sawdi Arbia. Yn Ionawr 2026 cyhoeddodd Sawdi nad oedd yn caniatau'r UD i hedfan drosti os daw rhyfel gydag Iran. Ar yr wyneb, mae'r cytundeb yn edrych fel Drefniadaeth Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO) ar gyfer gwledydd y Dwyrain, gyda'r ddwy gytundeb yn datgan fod "ymosodiad ar un aelod yn ymosodiad ar bob aelod." Gelwir hyn yn collective security. Dyma'r cytundeb milwrol cyntaf rhwng gwladwriaeth Gwlff Arabaidd a phŵer niwclear.[2]
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae newidiadau yng ngwleidyddiaeth y Dwyrain Canol — gan gynnwys pryderon ynghylch bygythiadau allanol, ymatebion i gamau milwrol Israel, ac amheuon ynghylch dibynadwyedd America fel gwarantwr diogelwch — wedi dwysáu pryderon diogelwch rhanbarthol. Mae llawer o ddadansoddwyr yn ystyried y cytundeb, o leiaf yn rhannol, yn ymateb i hyn.[3][4][5][6]
O dan delerau’r cytundeb, gall y ddwy wlad hyfforddi'n filwrol ar y cyd, cydweithredu ym maes technoleg amddiffyn a chydlynu ymatebion i fygythiadau diogelwch. Mae’r trefniant yn adlewyrchu’r berthynas agos rhyngddynt, gan gynnwys cefnogaeth economaidd Sawdi Arabia i Bacistan a rôl Pacistan mewn hyfforddi a chydweithrediad diogelwch yn y deyrnas.[7]
Yn strategol, mae dadansoddwyr yn gweld y cytundeb fel rhan o ymdrech Sawdi Arabia i amrywio ei bartneriaethau diogelwch y tu hwnt i’r Gorllewin a'r UD, tra bod Pacistan yn cryfhau ei rôl fel partner diogelwch allweddol yn y byd Mwslimaidd.[8] Mae arsylwyr hefyd yn trafod goblygiadau ehangach i gydbwysedd pŵer y Dwyrain Canol a De Asia.
Gellir cymharu rhai elfennau o’r cytundeb â’r egwyddor sy’n sail i Trefniadaeth Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO), sef bod ymosodiad ar un aelod yn cael ei ystyried yn ymosodiad ar y cyfan, gan fod y trefniant yn pwysleisio ymrwymiad i gyd-amddiffyn a chydlynu ymatebion i fygythiadau. Fodd bynnag, nid yw’n gynghrair aml-ochrog ffurfiol nac yn cynnwys strwythur gorchymyn ar y cyd tebyg i NATO. Mae trafodaethau wedi codi ynghylch ehangu cydweithrediad diogelwch ymhlith gwledydd Mwslimaidd eraill, gyda Twrci yn cael ei henwi weithiau fel partner posibl yn y dyfodol, er nad oes trefniant ffurfiol i ehangu ar hyn o bryd.[9]
Ymosodiadau awyr Israel ar Qatar
[golygu | golygu cod]Adroddodd y Financial Times fod Ymosodiadau Israel ar Iran ym Mehefin 2025 yn Doha, Qatar wedi cynyddu'r ymdeimlad nad oedd gwladwriaethau'r Gwlff yn ddiogel, gan waethygu pryderon hirhoedlog ynghylch anrhagweladwyedd yr Unol Daleithiau a'u hymrwymiad i'w hamddiffyn.[10] Mae'n debygol, felly, i ymosodiad Israel ar Qatar sbarduno'r cytundeb a'i chlensio.
Aelodau eraill
[golygu | golygu cod]Yn Ionawr 2026, symudodd Twrci i ymuno â'r trefniant amddiffyn rhwng Pacistan a Sawdi Arabia, gan agor trafodaethau gyda'r ddwy wlad ar ymuno.[11][12]
Mae Twrci eisoes yn cydweithio ar faterion milwrol â'r ddwy wlad, gan gynnwys adeiladu llongau llyngesol ar gyfer Llynges Pacistan a gwaith ar y cyd gyda dronau ac awyrofod di-berson.[13][14]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ thenews.com.pk; adalwyd 18 Chwefror 2026.
- ↑ Jamal, Umair (19 Medi 2025). "Pakistan and Saudi Arabia Forge Strategic Defense Pact Amid Shifting West Asian Dynamics". The Diplomat (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Medi 2025.
- ↑ [https://tribune.com.pk/story/2567521/pakistan-ksa-sign-defence-pact The Express Tribune
- ↑ Dahan, Maha; Shah, Saeed (17 Medi 2025). "Saudi Arabia, nuclear-armed Pakistan sign mutual defence pact". Reuters. Cyrchwyd 19 Medi 2025.
- ↑ Siddiqui, Usaid (17 Medi 2025). "Saudi Arabia signs mutual defence pact with nuclear-armed Pakistan". Al Jazeera. Cyrchwyd 22 Medi 2025.
- ↑ Abdel-Baqui, Omar (18 Medi 2025). "Saudi Arabia Seeks New Security Alliances as Trust in U.S. Erodes". The Wall Street Journal (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Medi 2025.
- ↑ Arab News; adalwyd 18 Chwefror 2026.
- ↑ Reuters; adalwyd 18 Chwefror 2026.
- ↑ Al-Monitor; adalwyd 18 Chwefror 2026.
- ↑ England, Andrew; Al, Ahmed Omran; Jilani, Humza (17 Medi 2025). "Saudi Arabia signs 'strategic mutual defence' pact with Pakistan". Financial Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Medi 2025.
- ↑ "Turkey said to seek membership of Saudi-Pakistan defense pact". Bloomberg. 9 Ionawr 2026.
- ↑ "Türkiye seeks entry into Pak-Saudi defence pact". The Express Tribune. 9 Ionawr 2026.
- ↑ "Türkiye moves toward joining Saudi Arabia–Pakistan defense agreement". Türkiye Today. 9 Ionawr 2026.
- ↑ "Türkiye eyes entry into Pak-Saudi defence arrangement". Dawn. 10 Ionawr 2026.