Cytundeb Brétigny
| Enghraifft o: | cytundeb |
|---|---|
| Dyddiad | 8 Mai 1360 |
| Lleoliad | Brétigny |
![]() | |
| Gwladwriaeth | Ffrainc |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01mrdw |

Cytundeb rhwng Ffrainc a Lloegr yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd oedd Cytundeb Brétigny. Arwyddwyd y cytundeb ar 8 Mai 1360, rhwng Edward III, brenin Lloegr a Jean II, brenin Ffrainc, yn Brétigny, pentref gerllaw Chartres. Daeth a rhan gyntaf y Rhyfel Can Mlynedd i ben.
Yn 1356, roedd Jean II wedi ei orchfygu a'i gymeryd yn garcharor gan y Daeson ym Mrwydr Poitiers. Dilynwyd hyn gan ymryson rhwng Étienne Marcel a'r Dauphin Charles (yn ddiweddarach y brenin Charles V), a gwrthryfel gwerinol y Jacquerie. Roedd Ffrainc felly mewn sefyllfa wan iawn, a bu raid iddi ildio llawr o dir. Cafodd Edward III, heblaw ei feddiannau yn Guyenne a Gasgwyn, diriogaethau Poitou, Saintonge ac Aunis, Agenais, Périgord, Limousin, Quercy, Bigorre, Gauré, Angoumois, Rouergue, Montreuil-sur-Mer, Ponthieu, Calais, Sangatte, Ham a Guînes. Ar y llaw arall, cytunodd i ildio Normandi, Touraine, Anjou a Maine, a rhoddodd y gorau i hawlio uwcharglwyddiaeth Llydaw a Fflandrys, a'i hawl ar goron Ffrainc.
Parhaodd yr heddwch yn Ffrainc ei hun hyd 1369, er y bu ymladd yn Sbaen.
