Cytsain ddynesol
Gwedd
Mewn seineg, cytsain lle y mae'r cynanwyr yn nesáu at ei gilydd, ond heb ddigon agos i greu llif anadl aflonydd, yw cytsain ddynesol neu dynesolyn[1]. Maen cytseiniau dynesol yn cyferbynnu â ffrithiolion, sy'n cynhyrchu llif anadl aflonydd, a llafariaid, nad ydynt yn creu aflonyddwch anadl.
Ceir y cytseiniaid dynesol canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
| IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
|---|---|---|---|---|---|
| Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
| β̞ | cytsain ddynesol ddwywefusol leisiol | Sbaeneg | lobo | [loβ̞o] | blaidd |
| cytsain ddynesol wefus-ddeintiol | Iseldireg | wang | [ʋɑŋ] | boch | |
| ð̞ | cytsain ddynesol ddeintiol | Sbaeneg | codo | [koð̪o] | penelin |
| l̪ | cytsain ddynesol ochrol ddeintiol | Sbaeneg | alto | [al̪t̪o] | tal |
| ɹ | cytsain ddynesol orfannol | Saesneg | red | [ɹɛd] | coch |
| l | cytsain ddynesol ochrol orfannol | Cymraeg y de | lôn | [loːn] | lôn |
| cytsain ddynesol olblyg | Tamil | தமிழ் (Tamiḻ) | [t̪ɐmɨɻ] | Tamil | |
| cytsain ddynesol ochrol olblyg | Swedeg | Karlstad | [kʰɑːɭ.sta] | Karlstad | |
| cytsain ddynesol daflodol | Cymraeg | iâr | [jaːr] | iâr | |
| cytsain ddynesol ochrol daflodol | Eidaleg | aglio | [aʎːo] | garlleg | |
| cytsain ddynesol wefus-felar ddi-lais | Cymraeg y De | chwech | [ʍeːχ] | chwech | |
| cytsain ddynesol felar | Sbaeneg | pagar | [paɰaɾ] | talu | |
| cystain ddynesol ochrol felar | iaith Mid-Wahgi | aʟaʟe | [aʟaʟe] | chwil, penysgafn | |
| cytsain ddynesol wefus-felar leisiol | Cymraeg | wal | [wal] | wal | |
| ʕ | cytsain ddynesol argegol | Hebraeg Mishnäig | עין | [ʕaːjin̪] | y llythyren Hebraeg ain |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ "https://termau.cymru/". Cyrchwyd 2026-06-08. External link in
|title=(help)
- Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.