Cystadleuaeth Cân Intervision
Un o'r nifer o logos a ddefnyddiwyd gan y Rhwydwaith Intervision rhwng 1977–1980 | |
| Enghraifft o: | gŵyl gerddoriaeth, annual music competition |
|---|---|
| Crëwr | Telewizja Polska |
| Gwlad | Gwlad Pwyl, Rwsia, Tsiecoslofacia |
| Iaith | Pwyleg, Rwseg |
| Dechrau/Sefydlu | 1965 |
| Dechreuwyd | 1965 |
| Genre | cerddoriaeth boblogaidd |
| Yn cynnwys | Intervision Song Contest 1965, Intervision Song Contest 1966, Intervision Song Contest 1967, Intervision Song Contest 1968, Intervision Song Contest 1977, Intervision Song Contest 1978, Intervision Song Contest 1979, Intervision Song Contest 1980, Intervision Song Contest 2008, Intervision Song Contest 2025, Intervision Song Contest 2026 |
| Sylfaenydd | Władysław Szpilman |
| Gwladwriaeth | Gwlad Pwyl, Tsiecoslofacia, Rwsia, Sawdi Arabia |
| Cwmni cynhyrchu | International Radio and Television Organisation, Channel One Russia, Red Square |
| Cyfansoddwr | Andrzej Kurylewicz |
| Iaith wreiddiol | Tsieceg, Pwyleg, Rwseg |
| Gwefan | https://intervision.world/, https://intervision.world/en/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01tmq4 |
Mae'r Gystadleuaeth Cân Intervision (ISC) yn gystadleuaeth gân ryngwladol sy'n cynnwys gwladwriaethau Ôl-Sofietaidd ac aelodau o Sefydliad Cydweithrediad Shanghai. Yn flaenorol, roedd yn fersiwn Dwyrain Ewrop gomiwnyddol o gystadleuaeth canu yr Eurovision. Trefnwyd y gystadleuaeth gan Intervision, rhwydwaith gorsafoedd teledu Dwyrain Ewrop. Fe’i cynhaliwyd yn bennaf yn Opera’r Goedwig nhref glan-môr Sopot, Gwlad Pwyl.
Trefnwyd yr ISC rhwng 1977 a 1980. Disodlodd Ŵyl Gân Ryngwladol Sopot (Sopot ISF) a gynhaliwyd yn Sopot er 1961. Yn 1981 canslwyd ISF yr ISC / Sopot oherwydd cynnydd y mudiad undebau llafur annibynnol, gwrth-gomiwyddol, Solidarność, a farnwyd gan wledydd eraill y Bloc Comiwnyddol yn wrth-chwyldroadol. Roedd yn rannol yn ymdrech o ddiplomyddiaeth ddiwylliannoll a lledaenu grym meddal o fewn a thu hwnt y Bloc Comiwnyddol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cychwynnwyd a threfnwyd Gŵyl Gân Ryngwladol gyntaf Sopot ym 1961 gan Władysław Szpilman, gyda chymorth Szymon Zakrzewski o Polish Artists Management (PAGART). Roedd Szpilman yn Iddew a phianydd proffesiynnol. Ei berfformiad byw ef ar y radio Pwyleg o ddarn Chopin Nocturne mewn C sharp leiaf oedd y gerddoriaeth fyw olaf i'w chlywed yng Ngwlad Pwyl nes diwedd yr Ail Ryfel Byd yn sgil goresgyniad y Natsiaid o Wlad Pwyl yn 1939. Alltudwyd ei deulu i gyd i'r gwersylloedd angau, ond llwyddodd i ddianc a byw mewn dirgel trwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Ef yw prif gymeriad y ffilm, The Pianist gan Roman Polanski.[1] Cynhaliwyd y tri rhifyn cyntaf yn neuadd Iard Longau Gdańsk (1961–1963), ac ar ôl hynny symudodd yr ŵyl i Opera’r Goedwig (Opera Lesna). Y brif wobr yw "Eos Ambr" am y rhan fwyaf o'i hanes yr Ŵyl.
Rhwng 1977 a 1980 fe'i disodlwyd gan y Intervision Song Contest, a gynhaliwyd o hyd yn Sopot. Yn wahanol i Gystadleuaeth Cân Eurovision, roedd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Sopot yn aml yn newid ei fformiwlâu i ddewis enillydd ac yn cynnig llawer o wahanol gystadlaethau i'w chyfranogwyr. Er enghraifft, yn y 4edd Ŵyl Gân Intervision (a gynhaliwyd yn Sopot 20-23 Awst 1980) roedd dwy gystadleuaeth yn effeithiol: un ar gyfer artistiaid sy'n cynrychioli cwmnïau teledu, a'r llall ar gyfer y rhai sy'n cynrychioli cwmnïau recordiau. Yn y cyntaf, ystyriodd y rheithgor rinweddau artistig y caneuon a gofnodwyd; tra yn yr ail, barnodd ddehongliad y perfformwyr."[2]
Mae'r ŵyl bob amser wedi bod yn agored i actau nad ydynt yn rhai Ewropeaidd, a gwledydd fel Cuba, Gweriniaeth Dominica, Mongolia, Seland Newydd, Nigeria, Periw, De Affrica a llawer o rai eraill. wedi cael eu cynrychioli yn y digwyddiad hwn.
Beth oedd "Intervision"?
[golygu | golygu cod]Yn yr oes cyn teledu lloeren, cysylltwyd rhwydweithiau teledu nifer o wladwriaethau Ewrop gan rwydwaith a Eurovision. Oherwydd rhwyg ideolegol rhwng Comiwnyddiaeth Dwyrain Ewrop a Chyfalafiaeth Gorllewin Ewrop a achoswyd y Rhyfel Oer, penderfynodd gwladwriaethau y Bloc Sofietaidd (oedd o dan arch-reolaeth yr Undeb Sofietaidd wahanu oddi wrth Undeb Darlledu Ewrop (EBU) ym 1950 a chreu eu rhwydwaith teledu eu hunain ym 1961 a'i alw'n Intervision. Roedd ei swyddogaeth, ar gyfer darllediadau byw ar draws ffiniau, yn debyg i swyddogaeth Eurovision.[3]
Gwahaniaethau a gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]
Roedd yr Intervision wedi ei hysbrydoli gan yr Eurovision - er nad oedd cynulleidfaoedd y Dwyrain yn gallu gwylio'r Eurovision roeddynt yn gwybod am yr enillwyr fel Waterloo gan ABBA. Roedd y trefnwyr a'r sefydliad Gomiwnyddol am ddangos y gallai'r system Gomiwnyddol gynhyrchu rhywbeth cystal, os nad gwell, na'r Gorllewin gyfalafol.
Yn wahanol i'r Eurovision, Sopot oedd lleoliad pob cystadleuaeth bob blwyddyn, beth bynnag oedd cenedl yr enillydd. Doedd dim terfyn chwaith ar hyd y caneuon - yn wahanol i'r Eurovision lle roedd rhaid cadw at dim hwy na thri munud.
Cafwyd islais wleidyddol o bryd i'w gilydd. Atofiodd Eugeniusz Terlecki, cyfarwyddwr cyffredinol Asiantaeth Artistig y Baltig, a helpodd i drefnu'r ornest, "Weithiau byddai hyd yn oed artist dda o'r Undeb Sofietaidd ddim yn cael ei werthawrogi a byddai chwibanu'n dod o du'r gynulleidfa."
Manteisiodd cyflwynydd yr Intervision, Jacek Bromski, ar gyfle i dynnu blewyn o drwyn y Sofietiaid:
- "For example, we were collecting votes like they do at Eurovision. I was calling every capital and asking for their results. One year when I was calling Moscow, there was no answer. So I said, 'Moscow, Moscow - wake up!' Then I had very big applause from the audience. 'Moscow, are you sleeping? Wake up!' Everyone was laughing. In the end I said, 'Better let them sleep.' That bit was cut out afterwards."[1]
Yn 1980 dechreuodd streiciau gan yr undeb llafur annibynnol (annibynnol o'r wladwriaeth gomiwnyddol), Solidarnośċ brotestio a chafwyd gwrthdaro gyda'r awdurdodau. Ar ôl 1980 ni fyddai mwy o Gystadlaethau Cân Intervision. Y flwyddyn ganlynol, cyhoeddodd awdurdodau Gwlad Pwyl gyfraith filwrol. Roedd tanciau ar y strydoedd a gwrthdaro rhwng protestwyr a heddlu terfysg. Pan ddychwelodd y gystadleuaeth ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd wedi dychwelyd i'w hen enw: "Gŵyl Gerdd Sopot".[1]
Enillwyr
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Dyddiad | Lleoliad | Enillydd[4] | Artist[4] | Cân[4] | Iaith |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 1977 | 24–27 Awst | Helena Vondráčková | "Malovaný džbánku"[5] | Tsieceg | ||
| 1978 | 23–26 Awst | Alla Pugacheva | "Vsyo mogut koroli" (Всё могут короли) [6] | Rwsieg | ||
| 1979 | 22–25 Awst | Czesław Niemen | "Nim przyjdzie wiosna"[7] | Pwyleg | ||
| 1980 | 20–23 Awst | Marion Rung | "Hyvästi yö"[8] | Ffineg | ||
| No contests held from 1981 to 2007 | ||||||
| 2008 | 28–31 Awst | Tahmina Niyazova | "Hero" (cân Mariah Carey) | Saesneg | ||
| Dim cystadleuaeth o 2009 hyd at y presennol | ||||||
Egwyl cyn ail-lansio
[golygu | golygu cod]
Collodd yr ornest boblogrwydd yng Ngwlad Pwyl a thramor yn yr 1980au, gan ddirywio ymhellach yn ystod y 1990au, a gwnaeth y sefydliadau eithaf argyhoeddiadol gan TVP i awdurdodau Sopot roi trefniadaeth Gŵyl Gân Ryngwladol Sopot 2005 i sianel deledu breifat, TVN. Er 1999, ni chafwyd gornest. Dewisodd TVP wahodd artistiaid adnabyddus yn lle, gan gynnwys pobl fel Whitney Houston neu The Corrs. Yn 2005, roedd disgwyl i TVN ddod â'r gystadleuaeth yn ôl. Yn 2006 gwahoddodd TVN Elton John. Mae Gŵyl Gân Ryngwladol Sopot fel arfer yn cael ei hystyried yn fwy na Gŵyl Gân Ryngwladol Benidorm oherwydd ei gallu i ddenu perfformwyr sêr. Yn 2010 a 2011, ni chynhaliwyd yr ŵyl oherwydd adnewyddu'r Opera Coedwig. Er 2012, fe'i gelwir yn Sopot Top Of The Top Festival ac mae'n cael ei ddarlledu'n flynyddol gan Polsat. Roedd yr ŵyl hefyd yn gyfle i wrando ar sêr rhyngwladol. Yn y gorffennol, roedd yn cynnwys Charles Aznavour, Boney M, Johnny Cash, ac yn fwy diweddar: Chuck Berry, Vanessa Mae, Annie Lennox, Vaya Con Dios, Chris Rea, Tanita Tikaram, La Toya Jackson, Whitney Houston, Kajagoogoo, a Goran Bregovic, Anastacia.
Ceisio adfywiad
[golygu | golygu cod]Yn 2009, cynigiodd prif weinidog Rwsia, Vladimir Putin, ailgychwyn y gystadleuaeth, y tro hwn rhwng Rwsia, China a gwledydd Canol Asia sydd yn bennaf yn aelodau o Sefydliad Cydweithrediad Shanghai.[9][10] Ym mis Mai 2014 cyhoeddwyd y byddai'r ornest yn dychwelyd ar ôl egwyl o 34 mlynedd, yn cynnwys gwledydd o Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol, Sefydliad Cydweithrediad Shanghai a chyn-Weriniaethau Sofietaidd.[11]
Roedd yr ornest i fod i gael ei chynnal ym mis Hydref 2014 oherwydd dicter Rwseg ar "ddadfeiliad moesol y Gorllewin", yn enwedig mewn ymateb i Conchita Wurst, enillydd Cystadleuaeth Cân Eurovision 2014. Ar ben hynny, mae'r adfywiad yn cael ei ystyried yn rhan o "agenda diplomyddiaeth ddiwylliannol ehangach" Vladimir Putin.[12] Er gwaethaf cynlluniau i lwyfannu'r ornest yn 2014 a 2015, gohiriwyd adfywiad yr ornest.[13][14] Nododd cynlluniau cychwynnol y byddai'r gystadleuaeth wedi digwydd yn Sochi gyda saith gwlad wedi datgan eu diddordeb i gystadlu: Casachstan, Cirgistan, Rwsia, Tajicistan, Tyrcmenistan, China ac Wsbecistan.[15]
2025–presennol: Cyfnod yr adfywiad
[golygu | golygu cod]Ym mis Tachwedd 2023, datgelodd Gweinidog Diwylliant Rwsia, Olga Lyubimova, a Chyfarwyddwr Cyffredinol Channel 'Un Rwsia', Konstantin Ernst, yn Fforwm Diwylliannol Rhyngwladol St Petersburg fod y darlledwr yn bwriadu cynhyrchu adfywiad o Gystadleuaeth Gân Intervision yn cynnwys gwledydd aelod BRICS.[16][17] Digwyddodd hyn ar ôl i aelodaeth y darlledwr yn Undeb Darlledu Ewrop gael ei hatal, ar ôl gwahardd Rwsia o Gystadleuaeth Gân Eurovision 2022 oherwydd ei goresgyniad o Wcráin.[18]
Cynhaliwyd Intervision 2025 yn ardal Moscow ar 20 Medi 2025. Penodwyd y Dirprwy Brif Weinidog Dmitry Chernyshenko yn gadeirydd pwyllgor trefnu'r digwyddiad, tra bod pennaeth polisi domestig Sergey Kiriyenko wedi'i osod yn gadeirydd ei fwrdd goruchwylio.[19] Cystadlodd 23 o wledydd yn y digwyddiad, a enillwyd gan Duc Phuc o Fietnam.[20] Bwriedir cynnal rhifyn 2026 yn Riyadh, Arabia Sawdi, wedi'i drefnu gan weinyddiaeth diwylliant y wlad.[21]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 https://www.bbc.co.uk/news/magazine-18006446
- ↑ Waschko, Roman (1980-09-06). "Finn Singer Triumphant At Sopot Contest". Billboard. Nielsen. t. 65. Cyrchwyd 2011-04-05.
- ↑ https://www.rferl.org/a/intervision-eurovision-poor-defunct-ex-soviet-rival/27726563.html
- 1 2 3 Rosenberg, Steve (14 Mai 2012). "The Cold War rival to Eurovision". BBC News. Cyrchwyd 31 Mai 2014.
Intervision winners
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=c-kcwGpItzQ&list=PLWAqoBf9UX4hputpromWZOzdF49zeR7Fz
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=LwCUoxcedd0&list=PLWAqoBf9UX4hputpromWZOzdF49zeR7Fz&index=3
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=RSTc3EJzr6E&list=PLWAqoBf9UX4hputpromWZOzdF49zeR7Fz&index=4
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=9aUMTiyxwkg
- ↑ Intervision: The Russian proposed song contest with China, Central Asia Archifwyd 13 Tachwedd 2017 yn y Peiriant Wayback (Shanghaiist: Shanghai News, Food, Arts & Events)
- ↑ Putin mulls Intervision Song Contest Archifwyd 16 Gorffennaf 2013 yn y Peiriant Wayback (BBC World Service)
- ↑ Bartlett, Paul (23 Mai 2014). "Bearded Lady Spurs Russia to Revive Soviet-Era Song Contest". eurasianet.org. eurasianet. Cyrchwyd 30 Mai 2014.
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ Granger, Anthony (1 Medi 2014). "Intervision: 2014 Contest Is Cancelled". Eurovoix. Cyrchwyd 1 Medi 2014.
- ↑ Granger, Anthony. "Intervision: Contest Moved To Autumn 2015". Eurovoix.com. Cyrchwyd 16 Ebrill 2015.
- ↑ Granger, Anthony (23 Mai 2014). "Russia: Intervision To Return This October". Eurovoix. Cyrchwyd 26 Mai 2014.
- ↑ "В России возродят советский фестиваль песен вместо "Евровидения"" (yn Rwseg). Moscow Times. 2023-11-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-11-17. Cyrchwyd 2023-11-17.
- ↑ Faulconbridge, Guy (4 February 2025). "Back in the USSR: Putin revives Soviet-era 'Eurovision' with new allies". Reuters.
- ↑ "Європейська мовна спілка призупинила членство російських ЗМІ" [The European Broadcasting Union suspends the membership of Russian media outlets] (yn Wcreineg). Suspilne. 2022-05-27. Cyrchwyd 2024-06-10.
- ↑ "Putin Signs Decree Creating Russian Eurovision Alternative" (yn Saesneg). Moscow Times. 3 Chwefror 2025. Cyrchwyd 4 February 2025.
- ↑ Pleitgen, Frederik (21 September 2025). "Vietnam's Duc Phuc wins Intervision, Russia's family-friendly answer to the Eurovision". CNN (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 September 2025.
- ↑ Bin Abdullah, Abdulrahman (2025-09-21). "المملكة تفوز باستضافة النسخة الثانية من مسابقة «إنترفيجن» العالمية للموسيقى في 2026" [The Kingdom wins the bid to host the second edition of the "Intervision" International music contest in 2026]. Okaz (yn Arabic). Cyrchwyd 2025-09-21.CS1 maint: unrecognized language (link)