Neidio i'r cynnwys

Cysgodion Gdansk

Oddi ar Wicipedia
Cysgodion Gdansk
Enghraifft o:cyfres ddrama deledu
Dyddiad cynharaf1987
AwdurIfor Wyn Williams a Dafydd Huw Williams
CyhoeddwrS4C
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1987 Edit this on Wikidata
Genredrama deledu Edit this on Wikidata
Cyfarwyddwr/wyrGareth Wynn Jones
Cynhyrchydd/wyrGareth Wynn Jones
Cwmni cynhyrchuFfilmiau'r Tŷ Gwyn
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cyfres ddrama deledu 5 pennod i S4C yw Cysgodion Gdansk a gynhyrchwyd ar ffilm gan Ffilmiau'r Tŷ Gwyn ym 1987. Ifor Wyn Williams a Dafydd Huw Williams oedd yng ngofal y sgript, a'r cyfarwyddo gan Gareth Wynn Jones. Disgrifwyd y gyfres yn y Daily Post [11 Mawrth 1987] fel "cyfres wleidyddol fyrlymus" oedd yn canolbwyntio ar "hit man" dadrithiol o'r enw "Huw Taylor", a fudodd i fyw i Ynys Môn, wedi myllio gyda tactegau yr heddlu a'r gwasanaethau cudd, y mae ef ei hun yn aelod ohonynt.[1] Drwy gydol y gyfres, mae'n dod wyneb yn wyneb â chynrychiolwyr o'r KGB, yr IRA a'r Americanwyr, gyda'r bwriad o ddial.

Cafwyd dilyniant i'r gyfres o'r enw Barbarossa.

Ymysg yr actorion mae :[1]

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]

Ffilmiwyd y gyfres ar Ynys Môn, yng Nghaernarfon a Llundain.[1] Defnyddiwyd Mynydd Parys fel un lleoliad.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 "New TV view of island intrigue". Liverpool Daily Post (yn Saesneg). 11 Mawrth 1987.