Cyrchoedd ar feysydd milwrol UDA o fewn y gwladwriaethau Arabaidd
| Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
| Enghraifft o: | trawiad gan daflegryn, rhyfela gyda dronau |
|---|---|
| Rhan o | Rhyfel Israel a'r Unol Daleithiau yn erbyn Iran |
| Dechreuwyd | 28 Chwefror 2026 |
| Dynodwyr | |
Ers cychwyn Rhyfel Israel-UDA ar Iran yn Chwefror 2026, ymatebodd Iran drwy yrru taflegrau yn erbyn safleoedd milwrol Americanaidd (UDA) o fewn wyth o wladwriaethau Arabaidd yn y Dwyrain Canol: chwech aelod Cyngor Cydweithrediad y Gwlff (GCC; Bahrain, Catar, Coweit, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Oman, a Sawdi Arabia),[1] yn ogystal ag Irac (yn benodol rhanbarth Cyrdistan) a Gwlad Iorddonen. Roedd yr ymosodiadau yn dilyn patrwm llygad am lygad; tebyg at ei debyg h.y. pan oedd Israel-UDA yn ymosod ar safleoedd puro dŵr, yna drannoeth, byddai byddin Iran hefyd yn targedu safleoedd puro dŵr gwledydd y Gwlff.[2]
Oherwydd sensoriaeth difrifol gan Israel a'r gwledydd Arabaidd, ni wyddus maint y difrod yn y gwledydd hyn.[3]
Lansiwyd y cyrchoedd cyntaf ar 28 Chwefror, mewn ymateb i ymosodiadau gan Israel-UDA ar Iran, sef cychwyn y rhyfel. Mewn ymateb i hyn, taniwyd cannoedd o daflegrau balistig a dronau ffrwydrol at safleoedd Americanaidd yn Bahrain, Catar, Coweit, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Irac, a Sawdi Arabia o fewn oriau ac ar 1 Mawrth targedwyd hefyd safleoedd Americanaidd o fewn Oman. Mae'r mwyafrif o'r cyrchoedd wedi targedu canolfannau a chyfleusterau milwrol yr Unol Daleithiau yn y gwledydd hyn neu adeiladau cysylltiedig e.e. gwestai lle ffodd milwyr Americanaidd iddyn nhw, meysydd awyr sifil lle roedd awyrennau UDA, llysgenadaethau'r UDA, ac isadeiledd ynni a oedd yn gysylltiedig a'r Unol daleithiau. Honnir gan y gwledydd hyn fod y nifer fwyaf o daflegrau wedi cael eu rhyng-gipio ar ddechrau'r cyrchoedd, gan gyfleusterau amddiffyn awyr yr UDA, ond mae llawer o daflegrau Iranaidd wedi llwyddo i daro'u targedau, a rhai wedi cwympo ac achosi tân ar ôl cael eu chwalu'n ddeilchion. Mae'n haws i'r dronau dreiddio i ofod awyr, ac achosi difrod ar raddfa fach. Dywedodd llefarydd o Lywodraeth Iran y byddai unrhyw wlad a fyddai'n caniatáu i'w thiriogaeth gael ei defnyddio ar gyfer ymosodiadau yn erbyn Iran yn cael ei hystyried yn darged cyfreithlon.[4][5]
Erbyn 16 Mawrth, achoswyd o leiaf 11 o farwolaethau a 268 o anafiadau ymhlith sifiliaid yng ngwledydd y GCC o ganlyniad i'r cyrchoedd, y mwyafrif ohonynt yn weithwyr mudol.[6] I roi hyn mewn cyd-destun: 11 marwolaeth drwy'r gwledydd Arabaidd o'i gymharu a thros fil o farwolaethau gan fomiau Israel-UDA ar Iran. Ar ddiwedd Mawrth, adroddwyd yn y New York Times a'r wefan TNR fod llawer o'r 13 prif feysydd milwrol UDA "all but uninhabitable, forcing U.S. military service members to work remotely from hotels and office spaces." [7] Mae'r weithred o filwyr yn dianc o'u safleoedd milwrol i weithio i ganol sifiliaid ee i ystafelloedd mewn gwestai, yn groes i reolau Genefa. Erbyn 11 Ebrill 2026, roedd yr arbenigwr gwleidyddiaeth y Dwyrain Canol, Alastair Crooke, yn nodi, "Mae bron i 17 o feysydd milwrol yr Unol Daleithiau wedi eu difetha'n llwyr, ac nad oes gan yr UDA y taflegrau na'r awyrennau a all gyrraedd Iran bellach. Yn wir mae Iran yn dal i gynnal yr ymosodiadau gyda'i daflegrau ar yr un lefel ag yr oedd ar ddechrau'r Rhyfel."[8]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Rhyfel trwy ddirprwy Iran ac Israel
[golygu | golygu cod]Ers 1985, bu Iran ac Israel yn cynnal rhyfel trwy ddirprwy yn erbyn ei gilydd. Mae Iran wedi cefnogi Hezbollah a grwpiau milwriaethus Shïa eraill a grwpiau Palesteinaidd megis Hamas. Mae Israel wedi targedu lluoedd a chynghreiriaid Iran yn Rhyfel Cartref Syria, ac wedi llofruddio gwyddonwyr sy'n gysylltiedig â rhaglen niwclear Iran.
Dirywiodd cysylltiadau rhwng Israel a'r byd Arabaidd o ganlyniad i hil-laddiad Gaza. Ni chafodd gwledydd Arabaidd y Gwlff eu tynnu i mewn i'r gwrthdaro rhwng Iran ac Israel yn 2024 nac ychwaith y Rhyfel Deuddeng Niwrnod yn 2025, er i Gatar gael ei gwylltio gan ymdrech Israel, ym Medi 2025, i ladd arweinwyr Hamas yn Doha.[1]
Presenoldeb lluoedd yr Unol Daleithiau
[golygu | golygu cod]Mae gan Luoedd Arfog yr Unol Daleithiau 30,000 i 40,000 o filwyr, morwyr, môr-filwyr, ac awyrenwyr ar draws y Dwyrain Canol, yn bennnaf mewn 19 canolfan filwrol yng ngwladwriaethau Arabaidd y Gwlff, gydag 13 yn berchen iddyn nhw.[9] Roedd Pumed Fflyd Llynges yr Unol Daleithiau yn cwmpasu Gwlff Persia, y Môr Coch, Môr Arabia, a rhannau eraill o Gefnfor India ond credir ei bod bellach wedi angori yn ei phencadlys yng ngogledd ynys Bahrain neu wedi ffoi i'r cefnfor rhag iddi gael ei dryllio gan daflegrau.[10] Cynhelir sawl canolfan Americanaidd yng Nghoweit, gan gynnwys Gwersyll Arifjan a Chanolfan Awyr Ali Al Salem. Yng Nghatar mae Canolfan Awyr Al-Udeid, pencadlys ar gyfer Rheolaeth Ganolog y Fyddin a'r ganolfan filwrol Americanaidd fwyaf yn y rhan hon o'r byd, gyda rhyw 10,000 o aelodau'r lluoedd arfog.[11] [12]
Y sefyllfa yn Syria
[golygu | golygu cod]Hyd at gwymp llywodraeth Bashar al-Assad yn Rhagfyr 2024, roedd Syria yn rhan o Echel y Gwrthsafiad, cynghrair anffurfiol dan arweiniad Iran. Gwrthododd y llywodraeth newydd oruchafiaeth Iran, a throdd at berthynas agosach â gweddill y byd Arabaidd a normaleiddio cysylltiadau â'r Gorllewin.[13] Ceisiodd Syria aros yn niwtral ar ddechrau'r rhyfel, er i'r wlad ddioddef ysgyrion taflegrau Iran yn cwympo ar ei thir a ffrwydradau gan Hezbollah a'r Gwrthsafiad Islamaidd yn Irac, grwpiau a gefnogir gan Iran. Ar ddiwrnod cyntaf y rhyfel, 28 Chwefror 2026, cafodd taflegryn balistig o Iran ei ryng-gipio gan luoedd Israel, gan gwympo ar adeilad yn Suwayda yn ne Syria, gan ladd pedwar sifiliad. Fodd bynnag, erbyn cychwyn Ebrill, nid oes tystiolaeth i ddangos cyrch uniongyrchol, bwriadol gan Iran ar diriogaeth Syria.
Cyngor Cydweithrediad y Gwlff
[golygu | golygu cod]Bahrain
[golygu | golygu cod]Ar 28 Chwefror, targedwyd pencadlys Pumed Fflyd Llynges yr Unol Daleithiau yn Bahrain. Cafodd tri adeilad ym Manama a Muharraq eu taro gan ddronau ac ysgyrion o daflegryn a gafodd ei saethu i lawr.[9]
Catar
[golygu | golygu cod]Ar 28 Chwefror, cafodd nifer o daflegrau a anelwyd at faes awyr al-Udeid, canolfan fwyaf yr Unol Daleithiau yn yr ardal, eu hatal.[9]
Coweit
[golygu | golygu cod]Ar 28 Chwefror, cafodd Maes Awyr Rhyngwladol Kuwait ei daro gan ddrôn, gan ddifrodi terfynfa i deithwyr ac anafu gweithwyr.[9] Ar 1 Mawrth, cafodd canolfan ymgyrchoedd tactegol dros dro dan reolaeth Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau ym Mhorthladd Shuaiba ei daro gan ddrôn ymosod unffordd, gan ladd chwe milwr o Fyddin Wrth Gefn yr Unol Daleithiau, ac anafu mwy na 30.[14][15]
Yr Emiradau Arabaidd Unedig
[golygu | golygu cod]Ar 28 Chwefror, cafodd gwesty Fairmont The Palm yn Dubai ei daro gan daflegryn a achosodd dân, gan anafu pedwar person. Cafodd pedwar arall eu hanafu gan gyrch ar Faes Awyr Rhyngwladol Dubai, ac un sifiliad ei ladd yn Abu Dhabi.[9]
Oman
[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Sawdi Arabia
[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Cyrdistan Irac
[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gwlad Iorddonen
[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Effeithiau ac ymateb
[golygu | golygu cod]Yn ystod dyddiau cyntaf y rhyfel, cyfarfu aelodau Cyngor Cydweithrediad y Gwlff mewn sesiwn argyfwng i fynegi undod ac i addo "cymryd pob cam angenrheidiol i amddiffyn eu diogelwch a'u sefydlogrwydd ac i ddiogelu eu tiriogaethau, eu dinasyddion a'u trigolion, gan gynnwys yr opsiwn o ymateb i’r ymosodiad".[1]
Mae gwladwriaethau Arabaidd y Gwlff yn pryderu y byddai'r ymosodiadau yn distrywio enw'r ardal fel cyrchfan dwristaidd, canolfan drafnidiaeth, a man ddiogel a ffyniannus am fusnes.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Barbara Plett-Usher, "'All red lines have been crossed': Gulf states weigh response to Iranian strikes", BBC (4 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Mawrth 2026.
- ↑ Gwefan Buisness Today; businesstoday.in. Testun: "Our armed forces have made it clear that in case Iran's infrastructure is attacked, we would react in kind. Our armed forces would target any similar infrastructure that is owned or in any way or manner related to the United States or contributes to their act of aggression against Iran medd Llywodraeth Iran. Adalwyd 10 Ebrill 2026.
- ↑ aljazeera.com; Teitl: How does Israel restrict its media from reporting on the Iran conflict?; adalwyd 10 Ebrill 2026.
- ↑ March 2026 middleeasteye.net; teitl: Iran guards say targeted US bases in Kuwait and Bahrain; Cyhoeddwr: Middle East Eye; adalwyd 10 Ebrill 2026.
- ↑ "Middle East crisis live: Iran launches wave of strikes on Gulf". The Guardian (yn Saesneg). 11 March 2026. Cyrchwyd 12 Mawrth 2026.
- ↑ (Saesneg) "Iran: Unlawful Strikes Across Gulf Endanger Civilians", Human Rights Watch (17 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mawrth 2026.
- ↑ [1] newrepublic.com; teitl: U.S. Troops Abandon Military Bases Amid Iran Strikes; adalwyd 10 Ebrill 2026.
- ↑ youtube.com; sgwrs rhwng Alastair Crooke a Lt Col Daniel Davis; dyddiad cyhoeddi ar YouTube: 10 Ebrill 2026; adalwyd 11 Ebrill 2026.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 (Saesneg) Tom Bennett a Rachel Muller-Heyndyk, "Luxury Dubai hotel hit as Iran launches retaliatory strikes across region", BBC (28 Chwefror 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Mawrth 2026.
- ↑ "Iran Strikes U.S. Military Communication Infrastructure in Mideast". The New York Times. 3 Mawrth 2026.
- ↑ "Battle Damage assesment on NSA BAHRAIN". https://faytuksnetwork.com. Cyrchwyd 22 Mawrth 2026. External link in
|website=(help) - ↑ (Saesneg) "[2]", Reuters (28 Chwefror 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddioln drwy gyfrwng archive.today ar 17 Mawrth 2026.
- ↑ (Saesneg) "Iran–Syria ties after al-Assad: Realignment or retreat?", Shafaq News (12 Mai 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 5 Ebrill 2026.
- ↑ (Saesneg) Konstantin Toropin a Rebecca Boone, "US soldiers were killed in Iranian drone strike on operations center at Kuwait civilian port", Associated Press (4 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Mawrth 2026.
- ↑ (Saesneg) Meg Kelly, Alex Horton, a Jarrett Ley, "U.S. troops had little protection from drone strike that killed 6, imagery shows", The Washington Post (4 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Mawrth 2026.